Image

FUW Academi

Mae aelodaeth FUW Academi yn cynnig ystod o fuddion unigryw i'n haelodau iau gan gynnwys copi misol o bapur newydd amaethyddol Y Tir. Yn ogystal â hyn mi gewch fwletin drwy e-bost yn rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf am grantiau, cynlluniau hyfforddi, partneriaethau a chyfleoedd amaeth eraill.

Gall aelodau hefyd gymryd rhan mewn ymweliadau fferm a digwyddiadau ledled Cymru gyfan. Mae digwyddiadau a theithiau yn ysbrydoli ffermwyr ifanc i ddysgu am wahanol ffyrdd o arallgyfeirio o ficro-fragdai i ffermydd gwynt. Yn y gorffennol cynhaliwyd taith o amgylch ffatri JCB fyd-enwog yn Uttoxeter a mynychu sioeau diwydiant yn y NEC.

Mae aelodau cyfredol FUW Academi yn mwynhau ystod o deithiau ac ymweliadau addysgol â busnesau fferm. Mae cael cyfle i gwrdd â ffermwyr eraill yn eu hardal yn darparu cyfleoedd i drafod yr heriau tebyg sy'n eu hwynebu.

Trefnwyd teithiau hefyd gyda gwleidyddion yn bresennol sy’n arwain at sgyrsiau gyda llunwyr polisi ac yn rhoi cyfle i aelodau iau gael dweud eu dweud.

Manteisiwch ar aelodaeth Academi FUW heddiw!