fas fa-person-walking-dashed-line-arrow-right

JOIN

CONTACT

Image

DIOGELWCH FFERM

Mae sicrhau diogelwch ffermwyr Cymru a'u teuluoedd yn flaenoriaeth i'r FUW. Gyda defnydd beunyddiol o beiriannau ac offer mae ffermio yn arwain at risgiau, mae FUW yn gwybod bod gan ffermio heriau iechyd a diogelwch unigryw ac rydym yn gweithio i godi ymwybyddiaeth a lleihau'r risg o niwed i weithwyr yn ein diwydiant. Yn aml, mae difrifoldeb y risgiau a pheryglon ffermio yn cael eu tanamcangyfrif ac ni chânt eu cydnabod. Er bod sectorau eraill sydd â risgiau tebyg wedi gwneud gwelliannau enfawr, mae gan ffermio llawer iawn o waith i’w wneud. 

Mae yna sawl maes sydd â risg sy'n werth treulio amser yn eu hystyried:

Trafnidiaeth

Dylid ond defnyddio tractorau a beiciau cwad os yw’r person wedi derbyn hyfforddiant ac yn gymwys i'w defnyddio'n ddiogel. Cerbydau fferm sy’n symud yw achos nifer fawr o farwolaethau ac anafiadau difrifol sy'n gysylltiedig â’r fferm. Wrth weithio gyda thrafnidiaeth dylid eu stopio’n ddiogel. 

  • Rhoi’r brêc llaw ymlaen

  • Rheolaethau mewn niwtral

  • Injan i ffwrdd

  • Allweddi allan


Gweithio gyda pheiriannau

Yn ogystal â dilyn y drefn o stopio’n ddiogel, mae yna lawer o ffyrdd i aros yn ddiogel o gwmpas peiriannau. 

  • Defnyddiwch beiriannau rydych chi wedi'u hyfforddi i wneud hynny

  • Gweithredwch reolaethau o'r safle gyrru bob amser

  • Sicrhewch eich bod yn deall y rheolyddion cyn i chi weithredu'r tractor

  • Cyn rhoi cynnig ar unrhyw waith cynnal a chadw ar beiriant - p'un ai yn y gweithdy neu yn y cae - gwnewch yn siŵr bod nhw’n ddiogel i weithio arnynt gan ddilyn y broses o stopio’n ddiogel.

  • Gwnewch yn siŵr bod y gardiau mewn lle bob amser ac mewn cyflwr da

  • PEIDIWCH â defnyddio peiriannau sy'n ddiffygiol neu sydd â gardiau ar goll

  • Sicrhewch fod y siafft yrru PTO wedi'i diogelu'n llawn gan gardiau sydd wedi'u cynllunio'n iawn a'i diogelu gan gadwyn i atal y giard rhag cylchdroi.

  • Sicrhewch fod offer yn cael ei gynnal a'i gadw'n rheolaidd a'i fod yn addas at y diben. 



Image

Gweithio ar uchder

Gall marwolaethau ac anafiadau sy'n newid bywyd ddigwydd o fewn eiliad o ddiffyg canolbwyntio. 

I leihau'r risgiau sy'n gysylltiedig â gweithio ar uchder:

  • Ceisiwch osgoi neu leihau gweithio ar uchder lle y gallwch

  • Defnyddiwch offer gwaith neu fesurau eraill i atal cwympiadau lle na allwch osgoi gweithio ar uchder

  • Peidiwch byth â gweithio ar doeau bregus na cherdded drostynt oni bai bod platfformau, gorchuddion neu amddiffyniad tebyg yn cael eu darparu i gynnal eich pwysau yn ddigonol

  •  Ystyriwch gyflogi contractwr toi arbenigol

  • Sicrhewch fod ymylon agored o loriau neu blatfformau wedi'u diogelu â rheiliau gwarchod addas

Trin Da Byw

Gall anafiadau difrifol a marwolaeth wrth drin da byw ddigwydd trwy wasgiad, cicio ac ergyd

 Lleihewch y risg o anaf trwy:

  • Ddefnyddio cyfleusterau trin pwrpasol sydd mewn cyflwr da

  • Ddefnyddio ras a craets (crush) sy'n addas ar gyfer yr anifeiliaid sy'n cael eu trin

  • Sicrhewch fod gweithwyr wedi'u hyfforddi'n dda ac yn gymwys

  • Ystyriwch bolisi difa trylwyr yn ymwneud ag anifeiliaid anwadal

  • Osgoi gweithio ar eich pen eich hun gyda gwartheg

  • Peidiwch byth â diystyru greddfau amddiffynnol buwch sydd newydd lloia

Image

Gallwch weld gwybodaeth ar reoli eich diogelwch fferm, arweinlyfr diogelwch a darluniau gwybodaeth drwy’r adnoddau isod:

Keeping children and the public safe on farms 

Health and Safety in agriculture 

Working at height and preventing falls 

Newyddion Diweddaraf

Cysylltwch â ni

Ffôn : 01970 820820

Ebost : post@fuw.org.uk

Cyfryngau Cymdeithasol

  • fas fa-x
  • fab fa-facebook-f
  • fab fa-instagram
Image