‘Newidiodd addewidion ffug ein cymuned er gwaeth’ meddai ffermwr o Ogledd Cymru

‘Our community changed for the worse because of false promises’, North Wales farmer says: Cyril Lewis 2
Mae ffermwr o Ogledd Cymru wedi siarad am sut mae ei gymuned wedi newid i bentref sy'n llawn ail gartrefi ac am ei bryderon am y dyfodol.
 
Ar un adeg roedd Cyril Lewis yn ffermio cymaint â naw tyddyn, ac roedd pob un ohonynt arfer bod yn eiddo i'r Comisiwn Coedwigaeth, ond bellach wedi eu gwerthu. Mae'n cofio sut roedd Cwm Penmachno yn gymuned lewyrchus o ffermwyr a chwarelwyr llechi yn rhannau uchaf Dyffryn Conwy.
 
Blynyddoedd lawer yn ôl, roedd y pentref yn brysur gyda phobl leol yn agor siopau preifat i gyflenwi'r 100 o chwarelwyr a oedd yn gweithio yn y chwarel a'r felin wlân gerllaw. Roedd yn gymuned o ffermwyr hunangynhaliol a fyddai’n cyfnewid bwyd a llafur, ac roedd gan y pentref ysgol o’r safon uchaf hefyd.

Ffermwyr Cwm Penmachno - addasu i newid a ffurfio cymuned wydn

Cwm Penmachno farmers - adapting to change and forming a resilient community: Cwm Penmachno

Boed hynny o goedwigaeth, newidiadau demograffig yn y gymuned neu bolisïau’r llywodraethau, mae ein hardaloedd mwyaf anghysbell yn wynebu heriau a bygythiadau posib nas gwelwyd erioed o'r blaen.

Yn fwy nag erioed, mae ffermwyr yng Nghymru yn gyfrifol am ddiogelu ein tir a’n cymunedau ac mae Cwm Penmachno yn enghraifft berffaith o hyn.

Yn fasn o fryniau crwn ym mhen uchaf Dyffryn Conwy, roedd Cwm Penmachno yn gartref i gymuned amaethyddol o dyddynnod hunangynhaliol, gweithgar a llewyrchus.

Fferm Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru’n arwain y ffordd o ran cadwraeth a chynhyrchu bwyd

National Botanic Garden of Wales farm leads the way in conservation and food production: FUW Huw Jones 1

Yn gorwedd o fewn Gwarchodfa Natur 400 acer Waun Las ger Caerfyrddin, mae clytwaith o weirgloddiau llawn blodau, coetiroedd a rhaeadrau ysblennydd – a fferm Pantwgan. Mae’r fferm organig hon yn rhan o Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ac mae’n cael ei rhedeg dan lygad barcud y rheolwr fferm arweiniol, Huw Jones. Mae gofalu am yr amgylchedd, cynnal cynefinoedd amrywiol a chynhyrchu bwyd yn hollbwysig.

Yma mae Huw yn gofalu am fridiau traddodiadol megis Gwartheg Duon Cymreig a defaid Balwen. Gan ddisgrifio’r rôl maent yn ei chwarae yn rheoli’r cynefinoedd a’r warchodfa natur dywed: “Maen nhw’n gwbl allweddol i’r hyn ry’n ni’n ei wneud yma. Ry’n ni’n ffermio i gael bioamrywiaeth, dyna pam ry’n ni ‘ma. Ond wrth ffermio i gael bioamrywiaeth mae’n rhaid ichi gael da byw, mae ‘na gysylltiad annatod rhwng y ddau.”

Gyda niferoedd cymharol isel o dda byw, sef dim ond 70 o wartheg dros yr haf a 60 o famogiaid, mae’r fferm wedi bod yn organig am yr un mlynedd ar hugain diwethaf. Gydag ond ychydig o adeiladau i gadw’r defaid a’r gwartheg, mae Huw yn defnyddio’r fuches a’r ddiadell i’w potensial eithaf ar y 360 acer o laswelltir parhaol.

Busnes ffermio yng Ngheredigion yn dangos sut mae canolbwyntio ar gynaliadwyedd, arloesedd, ac ymdeimlad o gymuned yn arwain at lwyddiant

Ceredigion farming business shows how a focus on sustainability, innovation and a sense of community brings success: Chuckling Goat 1

 Busnes ffermio yng Ngheredigion yn dangos sut mae canolbwyntio ar gynaliadwyedd, arloesedd, ac ymdeimlad o gymuned yn arwain at lwyddiant. Mae doniau cyfunol Americanes sy’n ystyried ei hun yn ferch y ddinas a ffermwr o Sir Aberteifi wedi arwain at fusnes llewyrchus iawn yng nghanol dyffryn Teifi.

Lansiwyd Chuckling Goat yn 2014 pan ymunodd y cyn-gyflwynydd radio o Dexas, Shann Nix-Jones â’r ffermwr o Gymru, Richard Jones, sydd â’i wreiddiau’n ddwfn yn ei fferm 25 acer ger Brynhoffnant, Llandysul, i gynhyrchu kefir o laeth geifr.

Erbyn hyn mae’r cwmni’n fenter ffyniannus sydd â chwsmeriaid ledled y byd. Ond er gwaetha’r demtasiwn amlwg i symud i uned ddiwydiannol sy’n nes at y seilwaith trafnidiaeth, mae’r cwpl wedi ymwrthod â hynny er mwyn datblygu eu gallu i brosesu ar y fferm wreiddiol.

UAC yn cwrdd â llefarydd amaethyddol Plaid Cymru i drafod cytundeb cydweithredu Llafur-Plaid

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi cwrdd yn ddiweddar â llefarydd Plaid Cymru ar faterion gwledig ac amaethyddiaeth Cefin Campbell AS i drafod manylion Cytundeb Cydweithredu Llafur a Phlaid Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

Cyhoeddwyd dydd Llun (22 Tachwedd) bod y ddwy blaid, yn amodol ar gefnogaeth gan aelodau’r blaid, wedi cytuno i weithio ar y cyd am y tair blynedd nesaf ar 46 o bolisïau lle mae budd cyffredin gan gynnwys ail gartrefi, plannu coed, llygredd amaethyddol, yr iaith Gymraeg a'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Yn siarad ar ôl y cyfarfod ag Aelod Senedd Canolbarth a Gorllewin Cymru, dywedodd Llywydd UAC, Glyn Roberts: "Roedd gwahaniaethau amlwg rhwng dyheadau Llafur Cymru a Phlaid Cymru yn eu maniffestos yn y gwanwyn, ond o ystyried y cydbwysedd cyfredol o bleidleisiau yn y Senedd, roedd Llafur yn barod i drafod ar ystod o faterion.”

Mae'r cytundeb yn nodi y bydd cyfnod pontio yn cael ei gyflwyno tra bod y system taliadau fferm yn cael eu diwygio felly bydd taliadau sefydlogrwydd yn parhau i fod yn nodwedd o'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn ystod a thu hwnt i dymor y Senedd hon.

Lansio Cynllun Gweithredu i achub gylfinirod yng Nghymru

Mae cynllun adfer gyda chefnogaeth nifer o bartneriaid i wrthdroi dirywiad y gylfinir odirweddau Cymru’n cael ei lansio heddiw (dydd Llun 22 Tachwedd).

Cafodd Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Adfer y Gylfinir ei ysgrifennu a’i arwain gan Gylfinir Cymru, partneriaeth eang sy’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r
dirywiad parhaus ym mhoblogaeth a dosbarthiad daearyddol yr aderyn eiconig hwn.

Dywedodd Patrick Lindley, Cadeirydd Gylfinir Cymru: “Mae niferoedd gylfinirod sy’n nythu yng Nghymru’n dirywio’n sylweddol, ac os na fyddwn ni’n gweithredu nawr, gallai’r rhywogaeth hwn fod ar fin diflannu erbyn 2033.