Mae ffarmwraig adnabyddus o Sir Gaerfyrddin, ac Aelod Seneddol Caerfyrddin, Ann Davies, wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Llysgennad Amaethyddol y Flwyddyn yng Ngwobrau Cenedlaethol Menywod mewn Amaethyddiaeth 2025.
Mae’r gwobrau blynyddol yn dathlu llwyddiannau arbennig menywod sy’n cyfrannu’n sylweddol tuag at y diwydiant amaethyddol, gyda’r rownd derfynol eleni i’w chynnal yn Llundain ym mis Mai.
Wedi’i geni a’i magu yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin, dechreuodd taith amaethyddol Ann a’i gŵr ym 1992 fel tenantiaid fferm laeth ger Llanarthne. Ochr yn ochr â’i gwaith ar y fferm, aeth ymlaen i weithio fel athrawes gerdd beripatetig, a darlithydd mewn addysg blynyddoedd cynnar ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, cyn dod yn gydberchennog meithrinfa plant leol ochr yn ochr ag un o’i thair merch.
Etholwyd Ann yn Gynghorydd Sir ar Gyngor Sir Caerfyrddin yn 2017, ac fe’i penodwyd yn aelod cabinet o’r Cyngor yn 2021 yn wreiddiol o dan y portffolio Cymunedau a Materion Gwledig.
Fel Cynghorydd Sir, daeth yn llais amlwg mewn ymgyrchoedd lleol yn erbyn datblygu llwybrau peilonau yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin. Yn 2023, fe’i penodwyd hefyd yn Gadeirydd cangen Sir Gaerfyrddin o Undeb Amaethwyr Cymru.
Cafodd ei hethol yn Aelod Seneddol dros etholaeth newydd Caerfyrddin yn 2024, ac fel un o bedwar AS Plaid Cymru yn San Steffan, mae wedi ymgymryd at bortffolio eang gan gynnwys; gwaith a phensiynau, addysg, trafnidiaeth, ac yn hollbwysig, yr amgylchedd a materion gwledig.
Fel Aelod Seneddol, mae Ann wedi siarad ar sawl achlysur yn San Steffan ynghylch y materion dybryd sy’n wynebu’r sector amaethyddol a chymunedau gwledig, gan gynnwys newidiadau dadleuol Llywodraeth y DU i Ryddhad Eiddo Amaethyddol (APR), dyfodol ffermio, a diogelwch bwyd.
Yn ogystal â’i dyletswyddau Seneddol, mae Ann yn parhau i weithio ar y fferm – allan yn aml iawn yn godro yn ei welingtons – ac yn treulio boreau Sul yn y capel, cyn cinio dydd Sul ar y fferm er mwyn cael cyfle i ddal i fyny gyda’i thair merch a’i hwyrion niferus.
Wrth sôn am enwebiad Ann Davies, dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman: “Mae pawb yn Undeb Amaethwyr Cymru yn ymfalchïo yn enwebiad Ann Bremenda ar gyfer y wobr anrhydeddus hon.
"Ers degawdau, fel ffermwr, Cynghorydd Sir a Chadeirydd Sir Undeb Amaethwyr Cymru weithgar, mae Ann wedi bod yn hyrwyddwr ffyddlon a chyson o gefn gwlad Cymru. Ers cael ei hethol yn Aelod Seneddol Caerfyrddin y llynedd, mae hi wedi mynd â’r ddealltwriaeth, y brwdfrydedd a’r ymroddiad hwn tuag at ein cymunedau gwledig i galon San Steffan, gan hyrwyddo ystod o faterion cefn gwlad a’r sector amaethyddol.
"Ar adeg heriol i ffermio yng Nghymru, mae cael ffrind fel Ann yn ymladd ar ein rhan yn amhrisiadwy, a dymunwn yn dda iddi yn y seremoni wobrwyo.”