Noson Bingo UAC Sir Benfro yn codi arian hanfodol bwysig i elusen

Cynhaliodd cangen Sir Benfro o Undeb Amaethwyr Cymru noson Bingo llwyddiannus er budd Sefydliad Prydeinig y Galon nos Iau Tachwedd 10.

Cynhaliwyd y digwyddiad yng nghlwb Criced Hwlffordd a codwyd £403.96 ar gyfer BHF Cymru.

Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Sir Benfro Rebecca Voyle: “Hoffwn ddiolch i’n holl aelodau a ffrindiau’r Undeb a ymunodd gyda ni ar y noson er mwyn codi swm ardderchog o arian er mwyn cefnogi gwaith gwych BHF Cymru.

“BHF yw elusen calon y genedl ac wrth wraidd ariannu ymchwil cardiofasgwlaidd. Clefyd Coronaidd y Galon yw’r problemau iechyd mwyaf yn y DU ac mae ymchwil arloesol BHF wedi trawsnewid bywydau pobl sy’n byw gyda chlefydau’r galon.

“Mae eu gwaith nhw wedi bod allweddol i ddarganfod triniaethau hanfodol sy’n help ym mrwydr y DU yn erbyn clefyd y galon ac rwy’n hynod o falch ein bod yn medru chwyddo’r coffrau ymchwil.”

Gwobr UAC - Cymdeithas Amaethyddol a Helwyr y Siroedd Unedig yn cael ei gyflwyno i Bennaeth Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm Cymru

[caption id="attachment_7235" align="aligncenter" width="193"]O’r chwith, Llywydd y Sioe Laeth Brian Thomas, Rita Jones a Dirprwy Lywydd UAC Brian Thomas. O’r chwith, Llywydd y Sioe Laeth Brian Thomas, Rita Jones a Dirprwy Lywydd UAC Brian Thomas.[/caption]

Mae Rita Jones, Pennaeth Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm Cymru yn adran Amaethyddiaeth Llywodraeth Cymru yng Nghaerfyrddin wedi cael ei chydnabod am ei gwasanaethau i amaethyddiaeth yng Nghaerfyrddin gyda gwobr Undeb Amaethwyr Cymru - Cymdeithas Amaethyddol a Helwyr y Siroedd Unedig.

Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Sir Gaerfyrddin David Waters: “Mae Rita’n uchel iawn ei pharch ymhlith ffermwyr a phawb sy’n gysylltiedig ag amaethyddiaeth yn gyffredinol.

“Mae ei chyfraniad, gwybodaeth a chymorth i ffermwyr Cymru dros y blynyddoedd wedi bod yn amhrisiadwy.  Mae bob amser yn barod ei chymorth, ac fel merch i ffermwr, mae’n deall y sialensiau sy’n wynebu ffermwyr.  Mae Rita’n llwyr haeddiannol o’r wobr yma.”

Mae Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm Llywodraeth Cymru yn darparu arweiniad a chyngor i ffermwyr ar reolau newydd a gafodd ei ddatblygu o gynllun peilot a gafodd ei sefydlu gan Rita Jones yn 2001 yn sgil argyfwng Clwy’r Traed a’r Genau.

Ers hynny, mae Rita wedi cynnig gwasanaeth amhrisiadwy i ffermwyr lleol, yn enwedig gyda chynorthwyo i gadw cofnodion a llenwi ffurflenni a’r rheolau sy’n gysylltiedig gyda’r Cynllun Taliad Sengl a gyflwynwyd yn 2015.

Mae Rita wedi chwarae rhan allweddol wrth ddod a Llywodraeth Cymru a’r diwydiant amaethyddol ynghyd ac yn parhau i fod yn allweddol gyda chynorthwyo ffermwyr yn Sir Gaerfyrddin ac ar draws Cymru.

Yn wreiddiol o Gynwyl Elfed, Rita oedd aelod sefydlu ac ysgrifennydd cyntaf Clwb Ffermwyr Ifanc Cynwyl Elfed.  Mae ganddi gysylltiad hir gyda’r mudiad yng Nghaerfyrddin ac wedi cynorthwyo nifer o aelodau CFfI lleol gyda pharatoi tuag at gystadlaethau siarad cyhoeddus dros y blynyddoedd.

Hefyd, derbyniodd Rita Jones yr MBE yn rhestr anrhydeddau penblwydd y Frenhines am wasanaethau i amaethyddiaeth yng Nghymru yn 2006.  Yn 2008, cafodd ei gwneud yn aelod cyswllt o’r Gymdeithas Amaethyddol Brenhinol ac yn Gymrawd am ei chyfraniad i’r diwydiant amaethyddol yn 2013.

UAC Meirionnydd yn trafod #AmaethAmByth gydag AS Meirion Dwyfor

[caption id="attachment_7226" align="aligncenter" width="300"]O’r chwith, Sion Evans, Liz Saville Roberts AS, Hywel Evans a Cadeirydd Sirol Meirionnydd Euros Puw. O’r chwith, Sion Evans, Liz Saville Roberts AS, Hywel Evans a Cadeirydd Sirol Meirionnydd Euros Puw.[/caption]

Mae cangen Meirionnydd o Undeb Amaethwyr Cymru wedi cynnal ymweliad fferm i drafod #AmaethAmByth gydag AS Meirion Dwyfor Liz Saville Roberts.

Cynhaliwyd yr ymweliad ar ddydd Gwener, Tachwedd 4 ym Marchlyn, Pennal ger Machynlleth gan aelodau UAC Sion Evans a’i rieni Hywel a Ceinwen Evans.

Mae’r fferm yn ymestyn i 360 erw, y cyfan yn dir wedi’i wella gydag oddeutu 25 erw’n cael ei gadw’n silwair.  Mae’r stoc yn cynnwys 25 o wartheg sugno a 550 o ddefaid, defaid Mynydd Cymreig yn bennaf o fewn ddiadell annibynnol.

Ymunodd y teulu a’r cynllun Glastir Sylfaenol yn 2014 ac maent yn gweld ffermio a chadwraeth yn mynd llaw yn llaw.

Maent wedi arallgyfeirio i dwristiaeth ac wedi adnewyddu adeiladau’r fferm yn llety Gwely a Brecwast.

Yn siarad am ochr arallgyfeirio’r busnes, dywedodd Sion Evans: “Mae’r incwm o arallgyfeirio yn hanfodol pan nad yw ffermio’n unig yn broffidiol.  I lawer mae’n hollol hanfodol i gael ail a thrydydd incwm i atgyfnerthu’r busnes.  Mae arallgyfeirio i dwristiaeth wedi ein cynnal ni ac yn cadw’r strwythur o fferm deuluol sy’n asgwrn cefn i ffermio yng Nghymru ac yn cynyddu gwerth ein heconomi wledig.”

Hefyd, daw rhagor o incwm i mewn i’r fferm gyda Sion yn gweithio ar ffermydd lleol fel contractwr cneifio a ffensio.

Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Meirionnydd Huw Jones: “Roedd hyn yn gyfle gwych i gael trafodaeth fanwl am faterion amaethyddol a’r economi wledig, ac i glywed gan Sion a Hywel am y sialensiau sydd yn eu hwynebu ar hyn o bryd.  Hoffwn ddiolch i deulu Evans am gynnal yr ymweliad a Liz Saville Roberts wrth gwrs am gwrdd â ni ar y fferm.”

UAC yn galw am eglurder brys ar Brexit yn dilyn dyfarniad yr Uchel Lys

Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn galw am eglurder brys ar Brexit yn dilyn dyfarniad yr Uchel Lys bod yn rhaid i’r Senedd bleidleisio a gall y DU ddechrau ar y broses o adael yr UE.

Mae penderfyniad yr Uchel Lys yn golygu na all y Llywodraeth fynd ati ar ben ei hunan i gychwyn Erthygl 50 o Gytundeb Lisbon er mwyn dechrau’r trafodaethau ffurfiol i adael yr  UE, a dywed yr Undeb bod hyn yn ychwanegu rhagor o ddryswch yngl?n â chynlluniau Brexit.

Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Rydym am weld eglurder! Mae'r penderfyniad hwn wedi cyflwyno mwy o ansefydlogrwydd ar adeg pan allwn wir wneud hebddo.  Rydym wedi bod ynghanol y broses o gynllunio Brexit ers misoedd bellach, ac mi groesawyd cyhoeddiad diweddar y Prif Weinidog yngl?n ag amserlen ar gyfer dechrau Erthygl 50.  Mae diystyru’r amserlen hynny ddim yn help o gwbl.  Gall olygu goblygiadau enfawr, nid yn unig i amseru Brexit ond o bosib i dermau Brexit.”

Bydd UAC yn cwrdd ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns wythnos nesaf ac yn trafod y mater ymhellach.

 

Ambiwlans Awyr Cymru yn derbyn gwobr am wasanaethau i amaethyddiaeth yng Nghymru gan UAC

[caption id="attachment_7180" align="aligncenter" width="300"]Ambiwlans Awyr Cymru yn derbyn y wobr gan Lywydd UAC Glyn Roberts. Ambiwlans Awyr Cymru yn derbyn y wobr gan Lywydd UAC Glyn Roberts.[/caption]

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi cydnabod pa mor bwysig yw Ambiwlans Awyr Cymru i amaethyddiaeth drwy gyflwyno gwobr allanol yr Undeb am wasanaethau i amaethyddiaeth iddynt.

Yn flynyddol, ar gyfartaledd, mae’r elusen yn ymdrin â 20 achos o ymosodiadau anifeiliaid a 200 o ddigwyddiadau amaethyddol, sy'n cynnwys cwympo drwy doeon ysguboriau a chael damweiniau’n ymwneud a pheiriannau.

Mae'r gymuned amaethyddol yn derbyn cymorth 18 gwaith y mis ar draws Cymru, sy’n gyfrifol am oddeutu 8% o gyfanswm yr holl lwyth gwaith.

Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: "Heddiw, rydym yn diolch yn swyddogol i'r Ambiwlans Awyr Cymru am y gwasanaeth achub bywyd maent yn ei ddarparu bob dydd o'r flwyddyn ac yn eu hanrhydeddu gyda Gwobr Allanol UAC am Wasanaethau i Amaethyddiaeth.

"Mae'r gwasanaeth a ddarperir gan yr Ambiwlans Awyr Cymru yn gwbl hanfodol ar gyfer y diwydiant amaethyddol a gall pawb sy'n byw neu'n ymweld â Chymru wledig fod angen sylw meddygol ar frys.

"O'i chanolfannau awyr yn Llanelli, Caernarfon a'r Trallwng, gall ambiwlans awyr fod yn unrhyw le yng Nghymru o fewn 20 munud o dderbyn galwad brys. Mae'r amseroedd ymateb cyflym, y gallu i gyrraedd lleoliadau anodd, a hedfan cleifion i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer y salwch neu’r anaf, yn cynyddu’r siawns o’r claf yn goroesi ac o gymorth gyda’r proses o wella.

Ers cael ei lansio ar Ddydd G?yl Dewi yn 2001, mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi gwneud mwy na 24,000 o deithiau hyd yn hyn, gyda phob taith yn costio tua £1500.

Lansiodd yr elusen ei phedwerydd hofrennydd yng Nghaerdydd yn 2016 a hynny’n bwrpasol  fel ambiwlans awyr ar gyfer plant, sy’n darparu gwasanaeth trosglwyddo newydd-anedig a phediatrig hollbwysig i gleifion ieuengaf Cymru.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru’n llwyr ddibynnol ar roddion elusennol i godi dros £6 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn hedfan dros Gymru.  Nid yw'r elusen yn derbyn unrhyw arian gan y loteri genedlaethol na'r llywodraeth.

Yn 2015 cyflwynodd Ambiwlans Awyr Cymru feddygon sy’n hedfan ar fwrdd yr hofrenyddion trwy gynllun newydd gyda'r GIG, sy'n golygu y gall yr elusen ddarparu triniaethau mwy datblygedig, gan gynnwys trallwysiadau gwaed ac anaesthetig.

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru: "Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Undeb Amaethwyr Cymru am eu cefnogaeth ragorol. Rydym yn derbyn llawer iawn o gefnogaeth gan ffermwyr am ein gwaith, ac mae hyn yn ein galluogi ni i fod o gymorth i bobl ledled Cymru.

"Mae tua 120 o'n teithiau bob blwyddyn yn rai amaethyddol. Anafiadau amaethyddol sy’n dueddol o fod y rhai mwyaf difrifol, ac sydd angen anaesthetig, llawdriniaeth y frest neu drallwysiadau gwaed yn y fan a’r lle.

"Heb y rhoddion caredig a chefnogaeth a dderbyniwn, ni fyddem yn gallu cadw ein hofrenyddion i hedfan. Felly, hoffem ddiolch i UAC am eu cefnogaeth.”

UAC yn rhoi’r pwyslais ar y diwydiant llaeth cyn Sioe Laeth Cymru

[caption id="attachment_7133" align="alignleft" width="300"]Staff a swyddogion UAC yn mwynhau ymweliad a fferm  Daioni Organig, gan bwysleisio #AmaethAmByth Staff a swyddogion UAC yn mwynhau ymweliad a fferm Daioni Organig, gan bwysleisio #AmaethAmByth[/caption]

Diwrnod cyn Sioe Laeth Cymru (Llun Hydref 24) bu sylw Undeb Amaethwyr Cymru ar y diwydiant llaeth yn ystod ymweliad fferm sy’n gartref i Daioni Organic.

Roedd nifer fawr o aelodau a swyddogion yr Undeb yn bresennol ar fferm Ffosyficer, Boncath, Sir Benfro yn ogystal â Mr Michael Eavis o fferm Worthy, sy’n fwy adnabyddus fel sylfaenydd a threfnydd G?yl Glastonbury.

Mae Laurence wedi bod yn ffermwr llaeth ers dros 40 o flynyddoedd, ac ef sy’n gyfrifol am lwyddiant ysgubol Daioni.

Ers cymryd awenau fferm Ffosyficer wrth ei dad ym 1970, yn ogystal â bod wrth wraidd y busnes Daioni, mae Laurence wedi ymestyn y fferm deuluol o 150 erw i ymhell dros 3,000 erw o dir ffrwythlon.

Newidiodd y fferm i  gynhyrchu’n organig ym 1999 ac ers hynny, mae Laurence a’r tîm wedi cynyddu’r cynnyrch llaeth a arweiniodd at lansio’r brand Daioni a chyfres o gynhyrchion sy'n cael eu gwerthu yn rhyngwladol.

Yn 2008, cafodd llaeth blas Daioni ei allforio dramor am y tro cyntaf a bellach yn cael ei werthu mewn allfeydd ar draws y byd yn ogystal siopau bach a phrif archfarchnadoedd y DU.

Hefyd, yn 2012, Daioni oedd y cwmni llaeth Prydeinig cyntaf i ennill statws organig yn Tsieina ac yn 2014 agorwyd swyddfa yn Hong Kong i ganolbwyntio ar werthiant Pasiffig Asia.  Bellach mae allforion yn gyfrifol am 15% o drosiant y busnes.

Y teulu Harris sy’n berchen y busnes teuluol yn gyfan gwbl bellach ac yn cyflogi oddeutu ugain o bobl leol ac mae’n parhau i fynd o nerth i nerth.

[caption id="attachment_7134" align="alignleft" width="300"]Mater i’r teulu (chwith i dde): Eira a Laurence Harris, Elizabeth a Michael Eavis o Fferm Worthy, Glastonbury, Tom a Francisca Harris gyda’u plant. Mater i’r teulu (chwith i dde): Eira a Laurence Harris, Elizabeth a Michael Eavis o Fferm Worthy, Glastonbury, Tom a Francisca Harris gyda’u plant.[/caption]

Enillodd Mr Harris wobr gwasanaeth neilltuol i ddiwydiant llaeth Cymreig UAC/HSBC llynedd, ac wrth siarad yn yr ymweliad fferm, dywedodd: “Rydym i gyd yn hynod o falch cael croesawu Michael Eavis i Ffosyficer.  Dyma unigolyn sydd wedi cynyddu’r fferm laeth, a medrwn ni gyd ddysgu o’i frwdfrydedd a’i rhagwelediad yn denu’r rhai sy’n byw yn y trefi i hyfrydwch Fferm Worthy.  Mae’n hollbwysig ceisio rhoi’r bobl hyn ar ben y ffordd ynghylch y materion sy’n wynebu ffermwyr llaeth ar hyn o bryd.”

Dywedodd Dirprwy Lywydd UAC Brian Thomas wrth y rhai oedd yn bresennol bod “Ein diwydiant llaeth wedi dioddef yn ofnadwy oherwydd prisiau isel dros y blynyddoedd diwethaf.  Mae nifer o gynhyrchwyr wedi gweld y siec laeth yn haneru ac yn gorfod delio gyda chytundebau annheg.  Y gwirionedd yw bydd ein cynhyrchwyr llaeth yn gorfod delio gyda phrisiau anwadal yn y dyfodol.

“Tra bod yna ychydig o gynnydd ym mhrisiau wedi digwydd dros y misoedd diwethaf, ac mae’n rhaid croesawu'r rhain, ni fyddwn yn gweld derbyn y pris llawn am sbel eto yn y dyfodol oherwydd yr anghydbwysedd rhwng cyflenwad a galw parhaol byd-eang.”

Hefyd, dywedodd Mr Thomas wrth y rhai oedd yn bresennol y byddai manteisio ar farchnadoedd newydd yn rhan hanfodol ar gyfer y sector laeth yn dilyn Brexit a bod hi’n hanfodol bod y prisiau a delir i ffermwyr yn galluogi buddsoddiad ac arloesedd fel y gallwn fod yn gystadleuol yn fyd-eang.

"Tra bod prisiau a materion cyflenwad a galw yn gyfredol, mae ein sector llaeth hefyd yn wynebu dau fater hollbwysig arall.

"Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar yr adolygiad pedair blynedd o Barthau Perygl Nitradau (NVZ), a gall y canlyniad olygu goblygiadau ariannol i’r rhai hynny sy’n byw oddi fewn i’r ardaloedd dynodedig.

"Rydym wedi bod yn rhan o adolygiad y NVZ ac wedi cyflwyno sylwadau llwyddiannus ar nifer o ddynodiadau, a arweiniodd at gael eu tynnu oddi ar y dewis o ardaloedd ar wahân yn yr ymgynghoriad.

"Ond, mae nifer y dynodiadau newydd arfaethedig yn parhau i fod yn achosi pryder ac rydym yn parhau i ailadrodd yr effeithiau gweithredol ac ariannol y byddai’r dynodiadau yn golygu i ffermydd sy'n byw o fewn ardal NVZ."

O ystyried costau o'r fath, pwysleisiodd Mr Thomas bod rhaid cael cyfiawnhad llawn ar gyfer unrhyw gynnydd arfaethedig yn y dynodiad ac mi anogodd aelodau UAC i wneud yn si?r eu bod yn gweithio gyda'u swyddfa sirol lleol a chyflwyno ymateb i'r ymgynghoriad.

Wrth gyfeirio at y mater o TB mewn gwartheg, dywedodd Mr Thomas: "Mae TB mewn gwartheg yn parhau i achosi problem sylweddol yma yn Sir Benfro.  Wythnos diwethaf roeddem yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ei bod nhw am ystyried dull o brofi a difa moch daear fel cam bach i’r cyfeiriad cywir, ond bydd nifer o ffermwyr yn poeni am oblygiadau rhannu Cymru’n rhanbarthau TB.

Ychwanegodd y byddai targedi moch daear heintus yn gam i’w groesawu, ond mae’n siomedig bod cynifer o flynyddoedd wedi mynd heibio bellach cyn bod synnwyr cyffredin yn ennill y dydd wedi i’r Llywodraeth flaenorol roi’r gorau i’r cynllun cynhwysfawr gwreiddiol i ymdrin â’r clefyd mewn bywyd gwyllt.”

"Rwyf am fod yn glir ar un peth serch hynny - ni allwn osod unrhyw faich ariannol na gweinyddol pellach ar y diwydiant. Mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd foesol i ariannu'r camau nesaf - o ystyried y miliynau o bunnoedd sydd wedi ei wastraffu ar raglen frechu moch daear aneffeithiol, " ychwanegodd y Dirprwy Lywydd.

[caption id="attachment_7135" align="aligncenter" width="300"]O’r chwith i’r dde, Michael Eavis, Francisca Harris a Swyddog Gweithredol UAC Sir Gaerfyrddin David Waters yn mwynhau’r ymweliad fferm. O’r chwith i’r dde, Michael Eavis, Francisca Harris a Swyddog Gweithredol UAC Sir Gaerfyrddin David Waters yn mwynhau’r ymweliad fferm.[/caption]