Dod a thamaid o’r wlad i’r dref yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) yn ei chanol hi yn mwynhau Eisteddfod ym Mharc Ynys Angharad yr wythnos hon. 

Mae croeso twymgalon i ymwelwyr ac eisteddfodwyr rif y gwlith yn ystod wythnos brysur ar stondin yr FUW fydd yn cynnwys arddangosiadau coginio, cwis amaethyddol, trafodaeth gan arbenigwr gwlȃn a negeseuon cerddorol ynghylch diogelwch fferm gyda’r annwyl Welsh Whisperer.

Dywedodd Dirprwy Swyddog Gweithredol Sirol UAC dros Gwent a Morgannwg, Gemma Haines: “Fel un o’r ardal sydd wedi ail afael yn ei Chymraeg mae cael bod yn rhan o drefniadau Undeb Amaethwyr Cymru ar gyfer yr Eisteddfod wedi bod yn gyffrous iawn. 

“Rydym yn awyddus i ddod ag ychydig o fywyd cefn gwlad i ardal boblog Pontypridd yr wythnos hon gan atgoffa trigolion lleol, teuluoedd ac ymwelwyr o le’n union mae ei bwyd yn dod. 

“Byddwn yn atgoffa pobl am bwysigrwydd safon bwyd ac am y broses o ofalu ac ymddwyn yn ddoeth yng nghefn gwlad. Byddwn hefyd yn rhoi sylw i ddiogelwch ar y fferm, a hynny ar ffurf cȃn.

“Amaethwyr yw ceidwaid cefn gwlad, a thrwy ddod a Thegwen y fuwch liwgar draw i faes yr Eisteddfod ein gobaith yw cynnig paned, diod oer a chyfle i bobl a theuluoedd gael gorffwys, sgwrsio a hamddena ar ein stondin gan wneud yr FUW yn gyrchfan i oedi a chael pum munud o brysurdeb yr Ŵyl.

“Mae hi’n fraint o’r mwyaf i ni allu croesawu eisteddfodwyr yma i ardal Rhondda Cynon Taf. Mae’r gwaith paratoi a’r codi arian gan y gymuned wedi bod yn anhygoel a phenllanw’r holl waith fydd yr wythnos hon. Dewch draw i’n stondin yn ystod yr wythnos i’n gweld,”  meddai Gemma Haines. 

Rhaglen o weithgareddau’r wythnos ar stondin yr FUW

Dydd Sadwrn 3.8.24

Daeth Ambiwlans Awyr Cymru i’r stondin i rannu pwysigrwydd ei gwasanaeth yng nghefn gwlad, wrth i ni godi arian at elusen yr FUW dros y ddwy flynedd nesaf

Dydd Sul 4.8.24 

11.00 a 14.00 Diogelwch y Fferm gyda’r Welsh Whisperer a’i gitȃr 

Dydd Llun 5.8.24 

10.30 Sgwrs “Ein taith amaeth” gyda chyn Lywydd UAC, Glyn Roberts; y Dirprwy Lywydd, Dai Miles; Natalie Hepburn a Grug Jones.

11:30 Natalie Hepburn o Garlic Meadow yn creu sebon

13:00 Blasu caws, diolch i nawdd gan gwmni Calon Wen

14:00 Coginio gan ddefnyddio cynnyrch llaeth gyda’r cogydd, Aneira o Siop Fferm Cwm Farm

Dydd Mawrth 6.8.24 

10.30 Sefydliad y Merched - Cyflwyniad rhoi diwedd i drais yn erbyn Merched

14:00 Creu cacennau cri gydag Aneira o Siop Fferm Cwm Farm a sgwrs gyda’r elusen The DPJ Foundation

Dydd Mercher 7.8.24 

10.00 Sgwrs gyda Gareth Jones, Pennaeth Ymgysylltu ag aelodau’r Bwrdd Gwlȃn

13:00 Dyfodol y diwydiant gwlȃn yng Nghymru, gyda Gareth Jones ac Anwen Hughes

14:00 Celf a chrefft i blant gan ddefnyddio gwlȃn y ddafad

Dydd Iau 8.8.24 

10.00 Rhian Pierce o’r RSPB yn trafod adar ar ein ffermydd a rhannu crefftau byd natur gyda phlant a phobl ifanc

11:30 Arddangosfa goginio gyda’r cogydd, Nerys Howell arbenigwr bwyd Cymreig

13:30 Cyflwyniad gan Lee Oliver o’r Game and Wildlife Conservation Cymru 

14:30 Arddangosfa goginio gyda’r cogydd, Nerys Howel 

15:30 Rhian Pierce o’r RSPB yn trafod adar ar ein ffermydd a rhannu crefftau byd natur

Dydd Gwener 9.8.24 

11.00 Cwis amaethyddol teuluol ac elusen The DPJ Foundation ar y stondin

Prynhawn o grefftau a phom pom gyda Mari Anne

Dydd Sadwrn 10.8.24

Arddangosfa goginio gyda’r cogydd, Nerys Howell 

Prynhawn o grefftau

UAC yn cydnabod milfeddyg a safodd ysgwydd wrth ysgwydd gyda ffermwyr yn ystod protestiadau

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi cydnabod Rhys Beynon-Thomas am ei wasanaethau i amaethyddiaeth yn Sioe Frenhinol Cymru.

Mae Rhys Beynon-Thomas yn filfeddyg profiadol a ddychwelodd i Gymru yn 2014 i weithio fel milfeddyg yn arbenigo mewn anifeiliaid fferm yn Sir Gaerfyrddin ochr yn ochr â ffermio’n rhan amser ar fferm y teulu yn yr Hendy, Abertawe. Mae bellach yn gyfarwyddwr yn Milfeddygon Prostock.

Wrth gyflwyno’r wobr, dywedodd Llywydd UAC Ian Rickman: “Mae Rhys wedi bod yn eiriolwr ac yn llais i ffermwyr yn ystod un o’r cyfnodau mwyaf gofidus i’r sector.

“Fe wnaeth ei areithiau teimladwy ond effeithiol iawn ym mhrotestiadau “Digon yw Digon” yng Nghaerfyrddin a Chaerdydd gyfleu erchyllterau TB ar deuluoedd fferm. Roedd ei ddehongliad yn ddirdynnol ac roedd ei ddewrder i siarad o safbwynt milfeddyg yn ysbrydoledig.”

Dywedodd Rhys: “Mae’n anrhydedd mawr derbyn y wobr hon gan UAC. Teimlaf ei bod yn ddyletswydd arnaf fel gwyddonydd a milfeddyg fferm i drafod y ffeithiau ynghylch TB yng Nghymru. Am gyfnod rhy hir mae polisi wedi cael ei bennu gan wleidyddiaeth ac nid gan wyddoniaeth. Gwyddoniaeth nid gwleidyddiaeth.”

Enid ac Wyn Davies yn ennill gwobr Bob Davies UAC am eu dewrder mewn rhaglen deledu ar TB

Pleidleisiodd aelodau UAC ar draws Cymru bod Wyn ac Enid Davies, sy’n rhedeg y fferm deuluol yng Nghastell Howell ger Capel Issac yn ennill Gwobr Goffa Bob Davies.

Cafodd eu dewrder a’u cryfder wrth ganiatáu i’r rhaglen deledu amaethyddol Gymreig ‘Ffermio’ fod ar eu fferm i ffilmio’r broses erchyll o ddifa chwarter eu buches odro oherwydd TB ei gydnabod gan aelodau UAC o bob rhan o Gymru. Roedd y tair cenhedlaeth yng Nghastell Howell yn trin eu gwartheg fel ‘anifeiliaid anwes’ eglurodd Enid, ni ellid amgyffred pam y bu’n rhaid iddynt ddioddef y boen o weld y gwartheg yn cael eu difa ar y fferm yn hytrach nag oddi ar y safle.

Mae’r wobr, er cof am ohebydd Cymru Farmers’ Weekly Bob Davies, yn cael ei chynnig i unigolyn neu grŵp sydd wedi codi proffil cyhoeddus ffermio yng Nghymru.

Wrth dderbyn y wobr, ffon fugail a gerfiwyd yn arbennig gan Richard Hughes, Mathafarn, oddi wrth Lywydd UAC Ian Rickman, dywedodd Enid Davies: “Y gobaith, trwy rannu ein stori oedd y gallai helpu rhywun arall. Ni fyddem yn dymuno i unrhyw un fynd trwy’r hyn yr ydym wedi bod drwyddo a gobeithio, trwy ddangos beth ddigwyddodd i ni, y gallem helpu ffermwyr a theuluoedd eraill i deimlo’n llai unig.”

Wrth gyflwyno’r wobr, dywedodd Ian Rickman: “Fe allwn ni weiddi a gweiddi, ond os nad yw ein neges yn cael ei chlywed yna gwastraff yw ein hymdrechion. Rydyn ni angen pobl i glywed ein stori.

“Mae UAC yn wirioneddol ddiolchgar i Enid, Wyn a’r teulu Davies i gyd am ganiatáu camerâu Ffermio ar eu fferm yn ystod y broses erchyll o ddifa chwarter eu buches odro oherwydd TB.

“Eu cryfder wrth ganiatáu i’r cyhoedd eu gweld ar eu mwyaf bregus yw pam ein bod yn falch o gyflwyno gwobr goffa Bob Davies i Enid ac Wyn Davies, Castell Howell, Capel Issac.”

Prosiect arloesol sy'n defnyddio technoleg DNA cŵn yn symud i'r cam nesaf

Mae prosiect arloesol sy'n defnyddio technoleg DNA cŵn yn dilyn ymosodiadau ar dda byw yn symud i’r cam nesaf yn y broses trwy ymgysylltu â'r gymuned amaethyddol i ddatblygu a hyrwyddo'r dechnoleg ymhellach.

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae UAC wedi bod wrth galon trafodaethau pwysig i ddarparu pwerau deddfwriaethol gwell yn San Steffan ar gyfer ymosodiadau gan gŵn ar dda byw. Mae’r Undeb wedi cefnogi pwerau gwell i’r heddlu er mwyn helpu eu swyddogion i ymateb yn fwy effeithiol pan mae ymosodiad gan gi wedi digwydd ar fferm.

Dan arweiniad Prifysgol Lerpwl John Moores, bydd y prosiect yn dosbarthu pecynnau casglu DNA cŵn i gynrychiolwyr Undeb Amaethwyr Cymru i’w rhannu ag ardaloedd â phroblemau cyson gyda chŵn yn effeithio ar ffermydd ledled Cymru. 

Mae'r pecynnau'n cynnwys swabiau, sisyrnau, tâp, cyfarwyddiadau manwl ar gyfer casglu DNA a gwybodaeth am y prosiect. Y gobaith yw y gallai'r cyfnod prawf hwn o brofi a chasglu arwain at ehangu'r prosiect a chasglu tystiolaeth a allai arwain at erlyniad, yn y dyfodol agos.

Bydd trafodaeth banel ynglŷn â’r prosiect yn cael ei chynnal ar Faes y Sioe Frenhinol (dydd Mercher 24 Gorffennaf am 11yb ym mhafiliwn UAC). Mae Dr Nick Dawnay, gwyddonydd fforensig gydag 20 mlynedd o brofiad fel arweinydd y Prosiect Adfer DNA Cŵn, yn un o bedwar aelod y panel. Mae hefyd yn darlithio mewn Fferylliaeth a Gwyddorau Biomoleciwlaidd ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl. 

Bydd Rhys Evans o dîm troseddau gwledig Heddlu Gogledd Cymru, sydd hefyd yn cadw gwartheg a defaid ar ei dyddyn yn Ynys Môn yn cynnig ei safbwynt ar y prosiect, ynghyd ag AS Caerfyrddin sydd newydd ei hethol, Ann Davies. Mae hi’n gweithio’n agos gydag AS Ceredigion, Ben Lake sy’n brysur yn symud y newid yn y ddeddfwriaeth yn San Steffan yn ei flaen. 

Wyn Evans yw pedwerydd aelod y panel. Yn ffermwr bîff a defaid yng Nghwm Ystwyth, mae wedi cael profiad personol o ymosodiadau gan gŵn ar ei fferm. Mae'n annog y cyhoedd i gadw eu cŵn ar dennyn wrth gerdded yng nghefn gwlad. 

Caiff y panel ei gadeirio gan Anwen Hughes, Is-lywydd Rhanbarthol UAC : “Rwyf wedi bod yn cadw llygad ar ddatblygiadau’r prosiect hwn ers y dechrau ac wedi bod yn rhan o lawer o’r trafodaethau ar faterion sy’n ymwneud a phoeni da byw yng Nghymru, ar ran aelodau UAC.

“Mae’n anodd iawn anghofio’r gweld y gyflafan sy’n cael ei adael ar ôl i gŵn ymosod a niweidio defaid mewn cae. Mae’n effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n lles ni, yn ogystal â’r goblygiadau ariannol ar y busnes. Mae’n sefyllfa ddirdynnol i fod ynddi,” ychwanegodd Anwen Hughes.

Croesawu’r bwriad i dalu am gynnal a chadw Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig drwy’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Yn dilyn trydydd cyfarfod Bwrdd Crwn y Gweinidogion a gynhaliwyd (23 Gorffennaf) yn Sioe Frenhinol Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau’r bwriad i dalu am gynnal a chadw Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) fel rhan o’r taliad sylfaenol cyffredinol drwy’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).

Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Llywydd yr Undeb Ian Rickman: “Fe amlygon ni ein hymateb cynhwysfawr i’r ymgynghoriad SFS yn gynharach eleni. Mae rhai ffermydd wedi eu categoreiddio fel SoDdGA bron yn gyfan gwbl ac byddent felly o dan anfantais ddifrifol o’i cymharu â chynhyrchwyr eraill ledled Cymru pe na allant gael mynediad at daliadau ariannol.

“Byddai’r cynigion cychwynnol wedi arwain at effaith cwbl groes sef cosbi ffermwyr sy’n amaethu’r tir sydd wedi ei gategoreiddio y mwyaf gwerthfawr yng Nghymru.

“Er bod rhai cwestiynau sylfaenol yn parhau ynghylch y broses daliadau a’r gallu o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru i gyhoeddi cytundebau rheoli ar gyfer safleoedd SoDdGA, rydym yn croesawu’r ymdrechion a wnaed gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â sut y gall yr SFS weithio ochr yn ochr â gofynion rheoliadol y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad. 

“Rydym wedi ymrwymo i waith y tri grŵp yn Llywodraeth Cymru wrth weithio drwy elfennau o’r cynllun yn eu tro, ac yn sicr rydym yn gweld hyn fel cam pwysig ymlaen,” meddai Ian Rickman.

Sut olwg sydd ar ddiogelwch bwyd yng Nghymru? Undeb Amaethwyr Cymru sy'n gofyn ac yn ymchwilio i'r cwestiwn

Mae ymchwil gan Undeb Amaethwyr Cymru i ddiogelwch bwyd Cymru yn dangos bod dibyniaeth y Deyrnas Gyfunol ar fwyd o wledydd eraill bron wedi dyblu ers canol yr 1980au.

Mae 40 y cant o fwyd y DU bellach yn cael ei fewnforio o’i gymharu â thua 22 y cant yng nghanol y 1980au. Mae’n destun pryder bod tua 20 y cant yn dod yn uniongyrchol o wledydd sydd a phroblemau sy’n effeithio ar yr hinsawdd’.

Dyna gefndir seminar Undeb Amaethwyr Cymru ar Faes y Sioe Fawr am 11 fore Mawrth 23 o Orffennaf. Mae’r FUW wedi holi panel o arbenigwyr, sydd hefyd yn ffermio, i drafod beth yw rôl ffermwyr Cymru wrth drafod diogelwch bwyd.

A ddylem ni ganolbwyntio ar fwydo ein cymunedau lleol? A oes cyfrifoldeb byd-eang arnom i sicrhau diogelwch bwyd o gofio sefyllfa’r hinsawdd a’r sefyllfa wleidyddol ledled y byd? Neu a ddylai ein cynnyrch fod y dewis safonol ac amgylcheddol gynaliadwy i ddefnyddwyr?

Yn ymuno â chadeirydd y panel, Dai Miles, Dirprwy Lywydd yr Undeb fydd Holly Tomlinson, Gweithwyr y Tir; Pennaeth Cynaliadwyedd a Pholisi’r Dyfodol Hybu Cig Cymru, Rachael Madeley-Davies a chyn uwch brynwr da byw blaenorol i Dunbia, aelod bwrdd HCC a Ffermwr Gyfarwyddwr presennol yr FUW, Wyn Williams.

Dywedodd Dirprwy Lywydd yr Undeb, Dai Miles: “Mae’r drafodaeth banel hon yn rhoi’r cyfle i ni dynnu sylw at faterion fel dibyniaeth y Deyrnas Gyfunol ar fewnforion ‘bwyd cynhenid’ y gallwn ni ein hunain ei gynhyrchu fel cig eidion, cig oen a chynnyrch llaeth. Mae’r mewnforion hyn wedi cynyddu bum gwaith yn ystod y blynyddoedd diwethaf, o 5 y cant i 25 y cant. Mae hyn yn gwbl eironig ac yn ffolineb llwyr wrth ystyried effaith milltiroedd bwyd ar yr amgylchedd.

Ymhellach, mae’r Uned Gwybodaeth Ynni a Hinsawdd yn adrodd bod “ystadegau masnach y DU yn dangos bod 16% o’n mewnforion bwyd, gwerth £7.9 biliwn, wedi dod yn uniongyrchol o wledydd sydd â pharodrwydd isel i baratoi at heriau newid hinsawdd gan fod yn agored i effeithiau hinsawdd, ond hefyd sydd ȃ’r diffyg gallu a pharodrwydd i addasu ac ymateb i’r heriau hynny.”

Dywedodd Dirprwy Lywydd yr Undeb: “Rydym eisoes yn gwybod bod cyn lywodraeth San Steffan wedi gwneud cam ȃ ni wrth i’r DG adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae arnom angen agwedd llawer cadarnach at gytundebau masnach yn y dyfodol os ydym am ddiogelu cynhyrchiant bwyd o fewn ein cymunedau gan amddiffyn yr  economi a diogelwch bwyd y DG. Mae’r cytundebau masnach hyn hefyd yn bygwth ein gallu i gyrraedd targedau hinsawdd a bioamrywiaeth allweddol drwy danseilio cynhyrchwyr Cymreig.

“Rhaid i fewnforion ac allforion bwyd ddilyn yr un arferion a chadw at safonau tebyg os ydym am sicrhau chwarae teg i gynhyrchwyr y DG a’r UE. Fel arall, rydym mewn perygl o golli ein gallu i ddylanwadu ar ein ôl troed carbon dramor yn ogystal â bygwth ein hunangynhaliaeth ein hunain.

“Mae ymchwil gan FUW hefyd yn dangos bod gwastraff bwyd yn parhau i fod yn broblem gynyddol i gymdeithas. Pe bai'n wlad, gwastraff bwyd fyddai'r trydydd allyrrydd uchaf o nwyon tŷ gwydr yn y byd. Gyda 309 miliwn o bobl yn wynebu newyn cronig mewn 72 o wledydd, mae’n rhaid i gynhyrchu a diogelwch bwyd fod ar frig agenda arweinwyr y byd,” meddai Dai Miles. 

Cysylltwch

Search

Social Media

  • fas fa-x
  • fab fa-facebook-f
  • fab fa-instagram