“Dy’n nhw byth yn gwrando arnon ni”

gan Angharad Evans, Golygydd y Gymraeg

65 mlwydd oed - dyna i chi 65 mlynedd, 23725 diwrnod, 569400 awr a 2,049,840,000 eiliad o Undeb Amaethwyr Cymru - ie Pen-blwydd Hapus iawn i ni!

Rydym ynghanol cyfnod dathlu pen-blwydd yr Undeb yn 65 mlwydd oed, ond a wyddoch chi mae sgwrs mewn Riley 3.5 litr ar hyd yr A40 o Lundain nôl am Sir Gaerfyrddin yw dechrau’r hanes?

Roedd teithwyr y Riley, Ivor T Davies (Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Sirol yr NFU Sir Gaerfyrddin) a JB Evans (Ysgrifennydd Sirol yr NFU Sir Gaerfyrddin) yn teimlo bod nhw wedi gwastraffu diwrnod, a hwnnw’n un hir gan fod neb yng nghyfarfod Cyngor yr NFU yn y pencadlys yn Sgwâr Bedford yn gwrando ar lais ffermwyr Cymru. Yn ystod y daith honno, penderfynodd y ddau wneud safiad a fyddai’n newid dyfodol ffermwyr yng Nghymru am byth.

Mae’r allwedd am ddyfodol ffyniannus a chynaliadwy yn nwylo Undeb Amaethwyr Cymru

Rydym ynghanol dathliadau pen-blwydd Undeb Amaethwyr Cymru yn 65 mlwydd oed, carreg filltir bwysig yn ein hanes. Pwy well i nodi’r achlysur hyn na’n Llywydd Mr Glyn Roberts

Wel.... lle mae’r pum mlynedd diwethaf ma wedi mynd?? Dwi’n cofio fel ddoe fy araith ddathliad trigain mlynedd yr Undeb yng Nghaerfyrddin. Yn fy araith y noson honno mi ddefnyddiais long fel cymhariaeth o bwysigrwydd strwythur i’r Undeb er mwyn gwasanaethu’r aelodau. Pum mlynedd yn ddiweddarach ac mae fy ngwallt wedi gwynnu’n arw! Ni feddyliais ar y pryd beth oedd ar y gorwel i’r diwydiant.

Doedd dim sôn y noson honno am…

  • Brexit,
  • Covid-19,
  • newid strwythur ariannu’r diwydiant,
  • mesur y farchnad fewnol,
  • yr anghydfod sy’n deillio o’r mesur amaeth, a’r posibiliadau na fydd safon bwyd sy’n cael ei fewnforio o’r un safon a beth sy’n cael ei gynhyrchu yn y wlad yma.

I ni fel pobl mae cyrraedd 65 mlynedd yn arwydd o arafu lawr.....ond ga i ddweud wrthoch chi..does fiw i Undeb Amaethwyr Cymru arafu i lawr o gwbl.

Mi ydw i’n grediniol fod angen Undeb Amaethwyr Cymru yn awr - yn fwy nag erioed - os ydym am ddiwallu anghenion amaethwyr Cymru. Cofiwch mai lles amaethwyr Cymru yw ein hunig nod ni.

Peidiwch byth a gadael i ni anghofio’r ymdrech, dyfalbarhad a dewder yr arloeswyr cynnar.

Rhaid peidio gwyro oddi wrth eu dymuniadau, eu dyheadau ac wrth gwrs - yr egwyddor o Undeb annibynnol i Gymru.

Mae gweledigaeth y sylfaenwyr dal yn fyw - i roi llais cryf ac annibynnol i ffermwyr Cymru

gan Elin Jones AS

Mae’n siŵr nad oes llawer o wleidyddion yn medru dweud fod eu magwraeth wleidyddol wedi ei wreiddio ar hanesion sefydlu a blynyddoedd cynnar Undeb Amaethwyr Cymru. Ond mae hynny’n wir yn fy achos i. Bydd rhai o ddarllenwyr Y Tir yn gwybod i mi ysgrifennu yn y gorffennol am fy Wncwl Jac, J.B. Evans Llanybydder. Wncwl Jac oedd Ysgrifennydd Cyffredinol cyntaf yr Undeb ac yn un o’r ffigurau allweddol adawodd yr NFU 65 mlynedd yn ôl a chreu Undeb Amaethwyr Cymru.

Roedd ef yn swyddog cyflogedig gyda’r NFU ac yn gweithio yn Shir Gâr gyda’r ffermwyr tenant yn nyffryn Tywi uchaf oedd yn wynebu colli eu ffermydd i bryniant gorfodol gan y Comisiwn Coedwigaeth ar ddechrau 50au y ganrif ddiwethaf. Yng ngeiriau Gwenallt yn ei gerdd enwog Rhydcymerau, brwydr Wncwl Jac a’r Undeb bryd hynny oedd i wrthwynebu:

“Coed lle bu cymdogaeth/Fforest lle bu ffermydd”

Gall eich aelodaeth ymfalchïo yn ei wasanaeth 65 mlynedd i amaethyddiaeth Cymru

gan Y Gwir Anrh Yr Arglwydd Morris o Aberafan KG QC

Mae'n fraint llongyfarch UAC ar ddathlu ei phen-blwydd yn 65 mlwydd oed. Ni all llawer ohonom heddiw ddweud ein bod ni yna o’r cychwyn cyntaf.

Nid wyf yn mynd i ildio i demtasiwn i ymhelaethu gormod ar y gorffennol. Nodwyd yr anawsterau anhygoel o sefydlu UAC yn fy llyfr, “Fifty years in Politics and the Law.”

Rwyf wedi ychwanegu ychydig atynt yn fy llyfr Cymraeg diweddar, “Cardi yn y Cabinet”. (Y Lolfa, Talybont) sy’n cynnwys llun ardderchog a dynnwyd yn ystod ymweliad fy ngwraig a minnau â swyddfa UAC yn Nolgellau ychydig flynyddoedd yn ôl. Roedd yn ymweliad teimladwy â'r dref lle bu bron i obeithion yr Undeb o wneud cynnydd yng Ngogledd Cymru gael eu malu. Fodd bynnag, fy nghyfarwyddiadau oedd dod i delerau a hyn a mynd ymhellach i'r gogledd. Yn ffodus, gan fy mod newydd adael y Fyddin ac o gymryd rhan mewn symudiadau milwrol ar wastadeddau’r Almaen, roeddwn i wedi cael fy nysgu os ydych chi'n wynebu rhwystr anorchfygol, rydych chi'n dod o hyd i ffordd o'i chwmpas.

Rwy'n ceisio ymweld â'ch pafiliwn bob blwyddyn yn Sioe Frenhinol Cymru, y cefais y fraint o'i hagor. Rwy’n ffodus o fod mewn Tŷ’r Arglwyddi hyddysg cyn belled ag y mae amaethyddiaeth yn y cwestiwn, i allu gwneud yr hyn a allaf i godi llais dros amaethyddiaeth Cymru ac i ymladd dros ddychwelyd pwerau o Frwsel i Gaerdydd yn hytrach na San Steffan.

Cydblethu amaethu a chanu yn berffaith

 

gan Angharad Evans, Golygydd y Gymraeg

Sgen di dalent?! Canu, adrodd, actio? Nid wyf yn cyfri’n hunan yn berson talentog iawn, rhyw botsian mewn sawl peth a ddim yn arbenigo mewn dim byd penodol! Er fy mod wrth fy modd yn gwrando ar gerddoriaeth o bob math, allai ddim canu nodyn i achub fy nghroen! Pleser felly yw cael ymfalchïo yn nhalentau eraill, a dyma’n union beth sy’n cael ei ddathlu mewn llyfr newydd sbon, O’r Gwlân i’r Gân sydd newydd gael ei gyhoeddi gan Y Lolfa.

Dyma i chi hanes y ffermwr Aled Wyn Davies, neu Aled Pentremawr fel mae’n cael ei adnabod. Er mae dyn ei filltir sgwâr yn Llanbrynmair yw Aled, mae wedi cael cyfle i deithio’r byd, diolch i’w dalent fel canwr.

Yr hyn sy’n amlwg iawn trwy’r hunangofiant yw’r ffordd mae ffermio a chanu wedi cydblethu’n berffaith drwy’r amser.  Chwaraeodd Mudiad y Ffermwyr Ifanc rôl bwysig yn nyddiau cynnar Aled fel canwr wrth iddo gystadlu mewn amryw o gystadlaethau cerddorol, yn ogystal â’r rhai doniol hefyd - y sgets, y ddeuawd ddoniol a’r meim i gerddoriaeth.