gan Glyn Roberts, Llywydd UAC
Mae mis Awst wedi mynd a dod mewn fflach ac mae wedi bod yn fis prysur i ni gyd. Er nad oes ganddyn nhw'r doreth arferol o sioeau lleol i'w mynychu, mae ein tîm wedi bod yn gweithio'n galed i sicrhau bod lleisiau ein haelodau'n cael eu clywed, yn uchel ac yn glir, gan wleidyddion, y rhai sy'n gwneud penderfyniadau a'r cyhoedd hefyd.
Mae swyddfeydd ac aelodau sirol wedi bod yn cynnal ymweliadau fferm gyda’i gwleidyddion lleol ledled y wlad, gan fynd i'r afael â'r materion hollbwysig y mae ein diwydiant yn eu hwynebu. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r ymgyrchoedd lobïo a chodi ymwybyddiaeth hynny.
Mae'r sgwrs ynghylch newid yn yr hinsawdd yn cyflymu, heb fawr o syndod gydag Uwchgynhadledd Systemau Bwyd y Cenhedloedd Unedig a COP26 ar y gorwel. Rydym hefyd wedi darllen adroddiad diweddaraf Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd gydag arswyd, ac mae wedi cadarnhau beth mae ffermwyr ledled Cymru (ac yn wir, y Byd) eisoes yn ei brofi ar reng flaen newid yn yr hinsawdd: digwyddiadau cynyddol o dywydd eithafol fel llifogydd, sychder ac amodau tyfu heriol fel y gwelwyd yn y blynyddoedd diwethaf yng Nghymru.