gan Angharad Evans, Swyddog Cyfathrebu’r Iaith Gymraeg
“Mae wedi bod fel ffair yma!” Sawl gwaith mae’r frawddeg fach yna’n cael ei chlywed?! Mae bywyd pob un ohonom yn brysur, ac mae’n rhaid diolch am hynny. Ond weithiau mae angen cymryd munud neu ddwy i feddwl am ein hunain a gofalu am ein hiechyd meddwl.
Mae Nerth Dy Ben, yn blatfform newydd, i wneud yr union hynny, rhoi cyfle i sgwrsio, i rannu profiadau, ac yn fwy pwysig na dim, cefnogi’n gilydd. Dyma Alaw Owen o Nerth Dy Ben i egluro mwy: “Nôl ym mis Chwefror sefydlwyd Nerth Dy Ben gyda’r bwriad o roi llwyfan i unigolion rannu eu syniadaeth am gryfder meddwl, yn y Gymraeg, ac i sgwrsio am brofiadau ac ymdrechion o gynnal a chadw nerth meddyliol, wrth fyw a gweithio yng nghefn gwlad Cymru.
“I rai pobl, efallai eu bod yn cymryd cryfder meddwl yn gwbl ganiataol, ond i eraill maent yn ffeindio hi’n anoddach i roi sylw i’r cryfderau, yn hytrach na’r gwendidau. Anaml iawn fyddwn ni’n eistedd i lawr ar ddiwedd diwrnod neu wythnos brysur ac yn cydnabod yr hyn yr ydan ni wedi llwyddo i’w gyflawni ar y rhestr ‘to do’ ynde? A faint ohonom sy’n gwneud y gwrthwyneb a chanolbwyntio ar y pethau sydd eto i’w gwneud, a hyd yn oed yn ychwanegu at y rhestr yn hytrach na dathlu’r hyn sydd eisoes wedi ei gyflawni?