gan Glyn Roberts, Llywydd UAC
Yr adeg hon y llynedd, mi rybuddiais i’n haelodau sut y byddai cyflwyno rhwystrau nad ydynt yn dariffau ar nwyddau’n mynd i mewn i’r UE yn cael effaith ddifrifol ar allu’r DU i gynnal yr un lefel o allforion.
Mae ffigurau diweddaraf CThEM ar gyfer 2021 yn cadarnhau gostyngiadau o tua 25% a 30% yn y categorïau allforio y mae cig coch a chynnyrch llaeth yn perthyn iddyn nhw – rhywbeth na fydd yn peri unrhyw syndod i’r sawl sydd wedi dilyn y newyddion am y gwiriadau a’r oedi yn y porthladdoedd.
Roedd hyn oll i’w ddisgwyl, ond diolch bych, mae’r prisiau ar gyfer ein prif nwyddau amaethyddol wedi aros yn uchel – ond, yn groes i rai honiadau, nid rhywbeth sydd wedi digwydd yn sgil Brexit yw hyn, am fod yr un tueddiadau wedi’u hadlewyrchu ar draws y rhan fwyaf o’r byd, gan gynnwys yn yr UE.
Serch hynny, mae effeithiau’r prinder llafur yn y diwydiant prosesu bwyd wedi’u teimlo’n arw, a does ond angen inni edrych ar yr effeithiau catastroffig ar y sector moch i weld y peryglon sy’n rhaid inni eu gwrthsefyll eleni os ydyn ni am osgoi problemau tebyg mewn sectorau eraill – ac yn bennaf, y diwydiant cig coch.
Mae difaterwch a sylwadau sarhaus y Prif Weinidog pan gafodd ei gyfweld am drafferthion ffermwyr moch yn codi braw difrifol, yn enwedig pan ystyrir yr agwedd wamal gyffelyb tuag ein sector cynhyrchu bwyd, a ddaeth i’r amlwg yn sgil y cytundebau masnach rhyddfrydig a gytunwyd mewn egwyddor ag Awstralia a Seland newydd, a’r rhai sy’n debygol o gael eu cytuno â Chanada a gwledydd eraill sy’n allforio bwyd ar raddfa fawr eleni.