gan Glyn Roberts, Llywydd UAC
Dros y misoedd diwethaf, mae llawer ohonom wedi bod yn cyfarfod â’n cynrychiolwyr etholedig o Gaerdydd a San Steffan i drafod y materion amaethyddol mwyaf allweddol. Un o’r rhain wrth gwrs yw Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig Llywodraeth Cymru. Bydd dyluniad, cyllideb ac ymarferoldeb y cynllun yn amlwg yn cael effaith enfawr ar ein sector yn y blynyddoedd i ddod.
Rydym ni, fel y byddai aelodau’n disgwyl, wedi bod yn ymgysylltu â’r cynigion ac yn gyffredinol rydym wedi croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i daliad sylfaenol i bob ffermwr, a fydd yn darparu sefydlogrwydd angenrheidiol ar gyfer ffermydd teuluol sy’n cynhyrchu bwyd.
Rydym yn credu’n gryf y dylid defnyddio’r rhan fwyaf o’r gyllideb i ddarparu’r taliad sefydlogrwydd hwn yn gyfnewid am fodloni’r Gweithredoedd Sylfaenol newydd sy’n ofynnol gan ffermwyr, yn enwedig gan y byddant yn ychwanegol at y ‘Safonau Gofynnol Cenedlaethol’ newydd (yn seiliedig ar y trawsgydymffurfio presennol). Mae gennym bryderon o hyd am effaith y toriadau yn y gyllideb o San Steffan a maint y gyllideb ar ôl 2023, yn bennaf oll gan fod y cynigion yn uchelgeisiol ac yn cwmpasu ystod eang o amcanion ar adeg pan fo ffermwyr yn gweld cynnydd sylweddol mewn costau.
Rydym hefyd wedi bod yn glir yn ein trafodaethau ag Aelodau’r Senedd bod hi’n hynod o siomedig nad yw’r canlyniadau sy’n ofynnol gan y cynllun, sy’n seiliedig ar egwyddorion Rheoli Tir yn Gynaliadwy fel Aer Glân ac Ecosystemau Gwydn, dal ddim yn ymgorffori cynaliadwyedd economaidd teuluoedd ffermio, cadwyni cyflenwi amaethyddol, cymunedau gwledig a chynhyrchu bwyd. Heb i amcanion o’r fath fod yn ganolog i’r cynllun, mae perygl o niwed economaidd, yn enwedig os na all cyfrifo cyfraddau taliadau sylfaenol ystyried cymorth economaidd o’r fath.