fas fa-person-walking-dashed-line-arrow-right

JOIN

CONTACT

Taith dractor lwyddiannus gan Undeb Amaethwyr Cymru Sir Drefaldwyn

Taith dractor lwyddiannus gan Undeb Amaethwyr Cymru Sir Drefaldwyn

Cafodd Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) Sir Drefaldwyn ddiwrnod gwych ddydd Sul, 5ed Hydref 2025, wrth gynnal taith dractor lwyddiannus a gododd dros £1,000 i’w rhannu rhwng Prostate Cymru a changen leol yr Undeb.

Daeth dros 20 o dractorau ynghyd â nifer o gerbydau 4x4 i gymryd rhan yn y daith, a ddechreuodd o Lwynybrain, Adfa. Dilynodd y cyfranogwyr lwybr prydferth drwy gefn gwlad Sir Drefaldwyn cyn dychwelyd am farbeciw, a drefnwyd yn garedig gan deulu’r Yeomans.

Daeth y digwyddiad â ffermwyr, selogion tractorau a chefnogwyr o bob cwr o’r sir ynghyd i godi arian hanfodol er mwyn cefnogi gwaith Prostate Cymru mewn ymwybyddiaeth, ymchwil, a gwasanaethau cymorth i ddynion a’u teuluoedd yr effeithir arnynt gan ganser y prostad.

Dywedodd Cadeirydd Undeb Amaethwyr Cymru Sir Drefaldwyn, Wyn Williams, fod y diwrnod yn llwyddiant mawr ac yn adlewyrchu’r ysbryd cymunedol cryf sydd mor nodweddiadol o’r ardal:

“Rydym wrth ein bodd gyda’r ymateb a’r haelioni a ddangoswyd gan bawb a gymerodd ran. Roedd gweld yr holl dractorau a cherbydau 4x4 wedi’u trefnu yn olygfa wych, ac mae codi arian ar gyfer achosion mor bwysig yn rhywbeth y gall y gymuned gyfan fod yn falch ohono.

Mae digwyddiadau fel hyn yn dangos yr hyn sydd orau yng nghefn gwlad Sir Drefaldwyn – pobl yn dod at ei gilydd i fwynhau diwrnod bendigedig ac i gefnogi eraill. Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a helpodd i wneud y diwrnod yn bosibl - yn enwedig teulu Yeomans am eu croeso, ac i Jonathan Rees o Graig Farm Organics a Nerys Astley am yr arlwyo rhagorol.”

Ychwanegodd y gwesteiwr, John Yeomans: “Ar ran Undeb Amaethwyr Cymru Sir Drefaldwyn, hoffwn ddiolch yn fawr i bawb a gymerodd ran yn ein taith dractor gyntaf. Gobeithiwn y bydd hon yn dod yn ddigwyddiad blynyddol yn y calendr lleol.

Fel y dywedodd ein cadeirydd, mae’n wych i ffermwyr ddod at ei gilydd i rannu profiadau, sgwrsio, a chodi arian ar gyfer achos mor haeddiannol â Prostate Cymru. Mae’n braf gwybod bod ein hymdrechion yn gwneud gwahaniaeth go iawn.”

Newyddion Diweddaraf

Cysylltwch â ni

Ffôn : 01970 820820

Ebost : post@fuw.org.uk

Cyfryngau Cymdeithasol

  • fas fa-x
  • fab fa-facebook-f
  • fab fa-instagram
Image