fas fa-person-walking-dashed-line-arrow-right

JOIN

CONTACT

Y Sioe Frenhinol a ni - y stori hyd yn hyn…

Y Sioe Frenhinol a ni - y stori hyd yn hyn…

gan Angharad Evans, Swyddog Cyfathrebu’r Iaith Gymraeg

Pan ofynnodd Aled y bòs i fi os oeddwn am ysgrifennu Cornel Clecs bach yn wahanol mis yma - roeddwn bach yn amheus o’i gynnig! Ond, ar ôl esboniad, roeddwn yn fwy na pharod i ymgymryd â’r dasg! Am un mis yn unig, rwy’n cael y cyfle i ganolbwyntio ar ddau beth sy’n agos iawn at fy nghalon - Undeb Amaethwyr Cymru sydd wedi bod yn rhan enfawr o’m mywyd ers dros 22 mlynedd, a’r Sioe Frenhinol, digwyddiad sydd wedi rhoi trip blynyddol i fi lan i Lanelwedd ers pan oeddem yn ferch fach, ac yn fwy diweddar fel cystadleuwr yn adran y defaid, diolch i’r ferch a’i defaid Jacob.  

Gydag Undeb Amaethwyr Cymru yn dathlu’r 70 eleni, dyma Aled yn gofyn i fi edrych nôl ar ein presenoldeb yn y sioe dros y 7 degawd, felly dyma fi’n ymgymryd at y gwaith yn hapus iawn fy myd. Rwyf wedi treulio oriau yn edrych trwy hen rifynnau o Y Tir ac yn darllen am ein hanes yn y Sioe Fawr, ac mae’n anrhydedd mawr i fi allu rhannu ychydig o’r hyn sydd wedi dwyn fy sylw, felly dewch gyda fi ar daith weledol o Undeb Amaethwyr Cymru yn y Sioe Fawr!

Yn ogystal â’n harchif ni o bob rhifyn o Y Tir yn y Brif Swyddfa, mae Teulu’r Tir wedi bod yn gymorth amhrisiadwy er mwyn dysgu hanes cynnar Undeb Amaethwyr Cymru yn y Sioe Frenhinol. Mae’n debyg ein bod ni wedi bod a stondin ymhob sioe ers Y Rhyl ym 1956. Cynhaliwyd y sioe gyntaf ar safle Llanelwedd ym 1963, ac yna yn 1965, bwriad Undeb Amaethwyr Cymru a NEM, darparwyr yswiriant yr Undeb ar y pryd oedd adeiladu stondin parhaol ar faes y sioe, a hynny ar y gost o £4,000. Ym 1981, tyfodd y sioe i fod yn ddigwyddiad pedwar diwrnod a gyda hynny cafodd yr Undeb adeilad newydd gyda balconi yn edrych dros y prif gylch. Agorwyd yr adeilad yn swyddogol gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Nicholas Edwards, a dywedodd bod y pafiliwn parhaol yn deyrnged i ddycnwch Undeb Amaethwyr Cymru, ac yn ôl Llywydd yr Undeb ar y pryd, T Myrddin Evans, roedd y penderfyniad i godi adeilad parhaol yn Llanelwedd yn tanlinellu ymrwymiad Undeb Amaethwyr Cymru i’r Sioe Frenhinol. 

Ac mae’r ymrwymiad yna wedi parhau a chryfau dros y degawdau wrth i’r Undeb gael presenoldeb cadarn yn ystod wythnos y sioe frenhinol. Mae’r pafiliwn hefyd yn gartref i swyddfa barhaol staff yr undeb a FUWIS, sy’n sicrhau’n cynrychiolaeth ar faes y sioe drwy’r flwyddyn.

Ond am un wythnos ym mis Gorffennaf bob blwyddyn daw’r pafiliwn yn fyw, ac yn ganolbwynt i amrywiol weithgareddau’r Undeb. Er bod yna newid mawr wedi bod i edrychiad yr adeilad dros y degawdau - o’r stondin pren i’r pafiliwn moethus heddiw - mae un peth wedi aros yr un peth - mae’r croeso tu fewn yr un mor gynnes. Pur anaml y cerddwch chi mewn i’r pafiliwn yn ystod wythnos y sioe frenhinol a’r lle’n wag. Yn law neu’n hindda, mae pawb yn heidio i mewn i’r pafiliwn am baned o de a chlonc, a dyna sawl awr wedi diflannu weithiau oherwydd bod yna gyfle i ddal lan gyda hen ffrindiau, a sŵn sgwrsio’n atseinio o gwmpas yr ystafell.

Yn ogystal â’r cymdeithasu, mae yna elfen arall hollbwysig o waith yr Undeb yn digwydd yn ystod y sioe wrth gwrs, gyda nifer fawr o gyfarfodydd, lobio a seminarau pwysig yn digwydd gyda ffigyrau dylanwadol iawn o fewn y byd amaethyddol.  Diddorol oedd dod ar draws llun o’r diweddar a chyn Prif Weinidog y DU rhwng 1970 a 1974, Edward Heath ar stodin yn Undeb - prawf bod Undeb Amaethwyr Cymru wedi hen ennill ei phlwyf fel Undeb amaethyddol parchus ar lefel y DU yn gynnar iawn yn ei hanes. Ac mae’r traddodiad wedi parhau wrth i nifer helaeth o enwau dylanwadol y byd gwleidyddol fynychu cyfarfodydd ffurfiol gyda staff a swyddogion etholedig.  

Ond heb os nac oni bai, y bobl sy’n creu Undeb Amaethwyr Cymru, ac mae hynny’n dangos yn glir yn ystod wythnos y sioe. Mae cenedlaethau o blant wedi dod trwy ddrysau’r pafiliwn dros y degawdau, ac erbyn heddiw, yr wyrion a’r gorwyrion sy’n ymweld â’r pafiliwn gyda’u teuluoedd nhw. Ni ellid sôn am bresenoldeb yr Undeb yn ystod y sioe heb gyfeirio at un cymeriad amlwg a hoffus iawn - Mr Meurig Voyle. Yn aelod parchus o staff ers 1961, am 53 o flynyddoedd Meurig oedd ffigwr cyfarwydd y pafiliwn, yn eistedd allan wrth y drws yn cyfarch pawb oedd yn dod mewn, a hynny yn rhinwedd ei swydd fel gofalwr y pafiliwn, a cyn hynny yn y babell ar faes y sioe. Bu farw’n 93 oed ym mis Medi 2018, a dyna’r unig sioe y methodd fynychu ers 1963 a hynny oherwydd salwch ei wraig ar y pryd - enghraifft wych o’i ymrwymiad mawr i Undeb Amaethwyr Cymru ac amaethyddiaeth. Mae ymwelwyr pafiliwn Undeb Amaethwyr Cymru yn sicr yn gweld eisiau cyfarch sionc Mr Voyle wrth y drws.

Digwyddiad pleserus sy’n digwydd bob nos Fercher yw derbyniad y Llywydd - cyfle i ymlacio ac i gymdeithasu mewn awyrgylch llawer llai ffurfiol na chyfarfodydd y dydd.  Mae yna gyfle hefyd i gyflwyno sawl gwobr fewnol ac allanol i enillwyr teilwng dros ben, ac mae’r rhestr o enillwyr dros y blynyddoedd wedi bod yn nodedig iawn - pa enwau fydd yn ymuno a’r rhestr eleni? Caiff y cyfan ei ddatgelu yn ystod y sioe!

Croesawyd nifer o enwogion i’r pafiliwn yn ystod y degawdau, ac ymwelwyr sydd bob amser yn derbyn croeso cynnes yw chwaraewyr rygbi’r Scarlets, a hynny diolch i gysylltiadau gwerthfawr ein Rheolwr Cyllid, Wyn Lewis gyda’r tîm. Menter newydd sydd wedi profi’n llwyddiant ysgubol ers sawl blwyddyn bellach yw’n gigs, ac rydym wedi bod yn ffodus iawn o allu sicrhau perfformiadau gan y Welsh Whisperer, Bryn Fôn a Bwncath, ac mae’n hyfryd gweld y pafiliwn yn llawn canu a dawnsio.

Felly dyna ni! Cipolwg cyflym iawn ar ein presenoldeb yn ystod wythnos y sioe Frenhinol. Mae wedi bod yn amhosib medru sôn am bob gweithgaredd ac atgof dros y degawdau, ond gobeithio eich bod chi wedi cael rhywfaint o syniad o ba mor arbennig yw wythnos y sioe i ni fel Undeb. Wrth i ni ddathlu’r 70, mae’r un croeso ag erioed yn eich aros yn y sioe eleni, cofiwch ymunwch gyda ni yn y dathliadau - hebddoch chi ni fyddai hyn i gyd yn bosib - felly ymlaen at y 70 mlynedd nesaf o anturiaethau’r Undeb yn y sioe frenhinol!

Newyddion Diweddaraf

Cysylltwch â ni

Ffôn : 01970 820820

Ebost : post@fuw.org.uk

Cyfryngau Cymdeithasol

  • fas fa-x
  • fab fa-facebook-f
  • fab fa-instagram
Image