Edrych yn ôl ac ymlaen: Undeb Amaethwyr Cymru yn barod am Sioe Fawr 2025
Eleni yn y Sioe Frenhinol bydd Undeb Amaethwyr Cymru yn nodi carreg filltir arwyddocaol wrth agor drysau ei pafiliwn i ddathlu 70 mlynedd ers ei sefydlu.
Wrth i'r Sioe Fawr agor ei giatiau yn Llanelwedd o Orffennaf 21ain hyd y 24ain, bydd Undeb Amaethwyr Cymru’n adlewyrchu ar ei hanes balch o hyrwyddo buddiannau ffermydd teuluol Cymru, gan hefyd lygadu’r heriau a'r cyfleoedd sy’n wynebu sector amaeth Cymru.
Saith degawd
Wedi'i sefydlu yn 1955, ganwyd Undeb Amaethwyr Cymru o'r gred bod angen llais annibynnol ac ymroddedig i ddiogelu buddiannau penodol ffermwyr Cymru. Ers hynny, mae’r undeb wedi mynd o nerth i nerth gan sicrhau cydnabyddiaeth ffurfiol gan y llywodraeth ym 1978 wrth weithio'n gyson i sicrhau hyfywedd economaidd a chynaliadwyedd ffermydd teuluol ledled Cymru.
Heddiw, mae egwyddorion sylfaenol yr Undeb am ffermydd teuluol ffyniannus a chynaliadwy yn parhau wrth wraidd gwaith yr Undeb wrth i ni wasanaethu a chefnogi miloedd o aelodau ledled Cymru.
Fel rhan o'r dathliadau, cynhelir trafodaeth banel arbennig ym mhafiliwn Undeb Amaethwyr Cymru ddydd Mercher 23 Gorffennaf 2025 am 11:00. Dan gadeiryddiaeth y darlledwr adnabyddus Dei Tomos, bydd y panel yn dod ag amrywiaeth o wynebau cyfarwydd ynghyd i adlewyrchu ar saith degawd o fodolaeth yr Undeb. Bydd y digwyddiad yn trafod y newidiadau a'r heriau dros y blynyddoedd, gan hefyd fynd i’r afael â'r dirwedd newidiol sy'n wynebu dyfodol amaethyddiaeth Cymru.
Bydd tocynnau hefyd ar werth ar gyfer raffl pen-blwydd arbennig Undeb Amaethwyr Cymru, gyda chyfle i ennill ATV Honda TRX420 FE1 (Electric Shift) a helmed ddiogelwch gwerth dros £10,000. Mae tocynnau ar gael am bris bargen o £5 yr un a byddant ar werth ym mhafiliwn yr Undeb drwy gydol yr wythnos neu ar-lein. Bydd elw'r raffl yn mynd tuag at Ambiwlans Awyr Cymru.
Y Dyfodol
Yn ogystal â chyfle i fyfyrio ar hanes yr Undeb, bydd y Sioe hefyd yn rhoi pwyslais ar edrych ymlaen, gyda ffocws penodol ar fframweithiau ariannu ffermydd yn y dyfodol gan ofyn sut gellir cefnogi'r genhedlaeth nesaf o ffermwyr.
Gyda'r diwydiant yn aros yn eiddgar am weld y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) terfynol, bydd sesiwn holi ac ateb ym mhafiliwn yr Undeb fore Llun am 11:00 gan roi cyfle i glywed ymateb Undeb Amaethwyr Cymru i’r Cynllun. Dan gadeiryddiaeth gohebydd Farmers Weekly, Anne Dunn, bydd Pennaeth Polisi Undeb Amaethwyr Cymru, Gareth Parry, yn cael cwmni Mark Alexander o Lywodraeth Cymru, gan roi cyfle i aelodau a'r cyhoedd ofyn cwestiynau ar ddyluniad a disgwyliadau'r Cynllun.
Bydd bore Mercher hefyd yn cynnig cipolwg ar gynlluniau ariannu eraill, gyda Undeb Amaethwyr Cymru hefyd yn cynnal trafodaeth yn canolbwyntio ar gynllun amaeth-amgylcheddol newydd Llywodraeth Cymru, Ffermio Bro, gyda thrafodaeth ar sut y gall gefnogi ffermwyr i gyd-weithio â natur mewn Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Dynodedig yng Nghymru. Bydd cynrychiolwyr o Undeb Amaethwyr Cymru, tîm Ffermio Bro a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn bresennol yn y drafodaeth am 9:30am ym mhafiliwn Undeb Amaethwyr Cymru fore Mercher.
Gan edrych tua'r dyfodol, bydd Undeb Amaethwyr Cymru yn lansio eu hadroddiad polisi 'Mandad i Ffermwyr y Dyfodol' ddydd Mawrth, gan amlinellu gweledigaeth yr Undeb i gynyddu'r cyfleoedd i ffermwyr ifanc a newydd-ddyfodiaid yng Nghymru. Bydd y ddogfen yn amlinellu gofynion allweddol i llywodraeth Cymru a'r DU, yn ogystal â'r gymuned ffermio ehangach, i feithrin y genhedlaeth nesaf o ffermwyr. Cynhelir y lansiad ym mhafiliwn Undeb Amaethwyr Cymru fore Mawrth am 11:15, a bydd yn rhoi cyfle i amrywiaeth o ffermwyr ifanc a newydd-ddyfodiaid rannu eu profiadau eu hunain, yn ogystal â mewnwelediad gan gynrychiolwyr o Glybiau Ffermwyr Ifanc Cymru a Chyswllt Ffermio.
Wrth wneud sylwadau cyn y Sioe, dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman:
“Heb os Y Sioe yw uchafbwynt calendr amaethyddol Cymru. Fedra i ddim aros i fod yn Llanelwedd unwaith eto eleni, yn sgwrsio ag aelodau, yn ymgysylltu â gwleidyddion a rhanddeiliaid, ac yn cael cyfle i gymryd rhan mewn trafodaethau sy’n canolbwyntio ar y newidiadau a’r heriau sy’n wynebu amaethyddiaeth Cymru.
“Gyda’r Undeb yn dathlu ein pen-blwydd yn 70 oed, mae’r Sioe eleni yn cynnig cyfle unigryw i edrych yn ôl ac ymlaen - gan goffáu ein sefydlu gyda digwyddiadau sy’n canolbwyntio ar ddyfodol ffermio Cymru.
“Bydd croeso cynnes i bawb yn ei pafiliwn drwy gydol yr wythnos. Rydym yn awyddus i siarad â phawb wrth i ni ddathlu ein llwyddiant o gynrychioli’r Gymru wledig dros y saith degawd diwethaf tra’n bwrw ein llygaid ymlaen at y 70 mlynedd nesaf o amaethyddiaeth yma yng Nghymru.”
Y tu hwnt i’r digwyddiadau a’r dathliadau cyffrous, bydd pafiliwn Undeb Amaethwyr Cymru yn gartref i lu o weithgaredd drwy gydol yr wythnos, gyda chroeso i aelodau a’r cyhoedd alw heibio am de, coffi a lluniaeth ysgafn.
Bydd Undeb Amaethwyr Cymru hefyd yn edrych ymlaen at werthu ysgytlaethau llaeth yn y Lle Llaeth, tra bydd cystadleuaeth 'enwi'r fuwch', cystadleuaeth godro buwch, a phrofiad ATV realiti rhithiol yn siŵr o ddifyrru’rteulu cyfan. I'r rhai sy'n mwynhau cerddoriaeth fyw, bydd y grŵp poblogaidd Bwncath yn dychwelyd i'r pafiliwn am gig nos Fawrth. Mae tocynnau ar gael yn fuan.

