fas fa-person-walking-dashed-line-arrow-right

JOIN

CONTACT

Ysgogi newid: Sut mae ffermwyr ifanc yn hyrwyddo iechyd meddwl a chryfder meddyliol yng Nghymru gyda Samariaid Cymru

Mae cymunedau ffermio ledled Cymru yn wynebu cyfres unigryw o heriau, gan weithio oriau hir yn aml o dan bwysau enfawr ac amodau anodd o amgylch y cloc. Mae rhwng 300 a 350 o bobl yn marw drwy hunanladdiad bob blwyddyn yng Nghymru, gyda nifer o achosion ymhlith y rhai yn y diwydiant ffermio ac amaethyddiaeth. Mae ein prosiect Ein Ffermio, Ein Dyfodol yn ceisio codi ymwybyddiaeth, lleihau stigma a sefydlu rhwydweithiau cymorth i ffermwyr ifanc.

Mewn partneriaeth â’r elusen cymorth ffermio Tir Dewi, rydym yn gwneud y canlynol:

  •       Hyfforddi ‘Hyrwyddwyr Dyfodol Ffermio’ a fydd yn annog sgyrsiau am iechyd meddwl ac atal hunanladdiad yn eu cymunedau.
  •       Datblygu adnoddau i godi ymwybyddiaeth o gymorth iechyd meddwl ym maes ffermio, gan sicrhau bod pawb yn gallu cael gafael ar yr help sydd ei angen arnynt.
  •       Cynnal gweithdai dwyieithog i sicrhau bod gan ffermwyr ifanc y sgiliau a’r gwydnwch sydd eu hangen arnynt i ffynnu yn eu gyrfaoedd.

Mae ymgysylltiad uniongyrchol ag aelodau CFfI yn rhan allweddol o’r prosiect hwn. Roeddem yn bresennol yn Niwrnod Maes Cefn Gwlad Ceredigion lle clywodd ein Swyddog Prosiectau Ffermwyr Ifanc aelodau CFfI yn sôn cymaint yr oedden nhw’n gwerthfawrogi prosiect Ein Ffermio, Ein Dyfodol.

Dywedodd un aelod: “Dwi mor falch bod ffermwyr ifanc yn cael y cyfle i fod yn rhan o’r prosiect hwn, oherwydd ry’n ni i gyd yn ‘nabod rhywun sydd wedi cymryd ei fywyd ei hun ac eisiau helpu i stopio hynny rhag digwydd eto.”

Nododd ffermwr ifanc arall: “Mae mor bwysig bod pawb yn gallu estyn allan pan fyddan nhw’n ei chael hi’n anodd gyda’u hiechyd meddwl a meddyliau am hunanladdiad. Bydd yr Hyrwyddwr Dyfodol Ffermio yn chwarae rôl allweddol wrth helpu a chefnogi eraill ac adeiladu rhwydweithiau cryf.”

Cafodd y teimladau hyn eu hadleisio yn Nigwyddiad Wyn a Bîff Wynnstay, lle cafodd heriau iechyd meddwl mewn cymunedau gwledig eu trafod yn helaeth. Tynnodd ffermwyr sylw at ba mor bwysig yw cael gwasanaethau cymorth cyfrinachol i fynd i’r afael ag iechyd meddwl ac atal hunanladdiad. 

Os ydych chi’n aelod angerddol o CFfI, beth am ddod yn Hyrwyddwr Dyfodol Ffermio? I ddysgu mwy, cysylltwch â’n Swyddog Prosiectau Ffermwyr Ifanc heddiw yn This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..

Mae rôl Samariaid Cymru yng ngwobr newydd ‘Hyrwyddwr Iechyd Meddwl’ CFfI Cymru yn tynnu sylw pellach at effaith gynyddol y prosiect. Mae’r wobr hon yn dathlu unigolion a grwpiau CFfI sy’n hyrwyddo ymwybyddiaeth o iechyd meddwl yn eu cymunedau. Cafodd ein prosiect ei gydnabod hefyd yn Noson Ffeinal Adloniant CFfI Sir Drefaldwyn, lle cafodd ffermwyr ifanc gyfle i glywed am fanylion y prosiect a thrafod cymorth iechyd meddwl.

Mae sicrhau bod pobl â phrofiad bywyd yn ganolog i’r prosiect yn ysgogi cymunedau ffermio i gael sgyrsiau agored. Yn y dyfodol, rydym yn bwriadu sicrhau bod lleisiau pobl yn cael eu clywed drwy gynhyrchu fideos adrodd straeon yn cynnwys dau ffermwr ifanc. Trwy eu teithiau personol, byddan nhw’n rhannu eu profiadau, yn tynnu sylw at y rhan maen nhw’n ei chwarae yn y prosiect ac yn rhannu agweddau eraill ar gefnogi eu hunain ac eraill o ran iechyd meddwl, hunanladdiad a hunan-niwed. Bydd y cynnwys pwerus hwn yn cael ei rannu ar ein gwefan, ar gyfryngau cymdeithasol ac ymhlith rhwydweithiau CFfI er mwyn ysbrydoli ymwybyddiaeth a sgyrsiau ystyrlon.

Drwy bartneriaethau strategol, ymgysylltiad uniongyrchol ac adrodd straeon am brofiadau bywyd, mae Ein Ffermio, Ein Dyfodol yn ysgogi newid ystyrlon. Drwy sicrhau bod gan ffermwyr ifanc y gallu i fynd i’r afael â heriau iechyd meddwl, mae’r prosiect yn sicrhau cymuned ffermio gryfach, fwy gwydn ar gyfer cenedlaethau i ddod.

Newyddion Diweddaraf

Cysylltwch â ni

Ffôn : 01970 820820

Ebost : post@fuw.org.uk

Cyfryngau Cymdeithasol

  • fas fa-x
  • fab fa-facebook-f
  • fab fa-instagram
Image