Cwrs Dysgu Cymraeg newydd ar gyfer y sector amaeth

Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Menter a Busnes wedi lawnsio cwrs Dysgu Cymraeg ar-lein newydd bellach ar gael ar gyfer y sector amaeth.

Mae’r cwrs blasu 10 awr, sy’n rhan o gynllun Cymraeg Gwaith y Ganolfan, wedi ei deilwra ar gyfer y sector, gyda’r bwriad o roi rhyddid i’r dysgwyr ei ddilyn yn eu hamser eu hunain ac ar eu cyflymder eu hunain.

Mae’r bartneriaeth newydd rhwng y Ganolfan Dysgu Cymraeg a Menter a Busnes yn deillio o un o argymhellion adroddiad ‘Iaith y Pridd’, gyhoeddwyd yn 2020 gan Cyswllt Ffermio. Roedd yr adroddiad yn ystyried sut y gall y gymuned amaeth Gymraeg ei hiaith gyfrannu at y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Yn dilyn gwaith ymchwil ar gyfer yr adroddiad, daeth i’r amlwg fod ’na awydd i ddysgu Cymraeg ymysg ffermwyr di-Gymraeg, a gweithwyr yn y sector gyflenwi a gwasanaethau amaethyddol a fyddai’n gweld defnydd ymarferol a gwerth masnachol i allu siarad Cymraeg.

O ganlyniad, un o’r argymhellion oedd ‘creu gwersi Cymraeg gyda chynnwys wedi ei lunio o gwmpas themâu amaethyddol’ a chysylltodd y Ganolfan Dysgu Cymraeg gyda Menter a Busnes er mwyn gweld a fyddai modd cydweithio er mwyn ymateb i’r argymhelliad yma.

Dona Lewis ydy Dirprwy Brif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg, gyda’r cyfrifoldeb dros gynllun Cymraeg Gwaith o fewn y Ganolfan. Dywedodd, “Rydym yn falch iawn o’r bartneriaeth sydd wedi ei sefydlu gyda Menter a Busnes er mwyn ymateb i un o argymhellion adroddiad ‘Iaith y Pridd’.

“Rydym yn gwybod fod canran y siaradwyr Cymraeg yn y sector amaeth yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol, 43% o’i gymharu ag 19%, ac mae diddordeb i ddysgu Cymraeg o fewn y diwydiant.

“Trwy ei wneud yn gwrs hyblyg ar-lein mae posibl ei ddilyn ar adegau sy’n gyfleus i bawb.”

 Ychwanegodd Alun Jones, Prif Weithredwr Menter a Busnes, “Mae’r sector amaeth yn gadarnle i’r iaith Gymraeg, ac rydym yn gweld diddordeb cynyddol ymysg siaradwyr di-Gymraeg i ddysgu’r iaith. Mae Lois Evans, un o staff Menter a Busnes sy’n gweithio ar y rhaglen Cyswllt Ffermio, hefyd yn diwtor Dysgu Cymraeg , a gweithiodd gydag arbenigwyr y Ganolfan i lunio cwrs sy’n gwbl berthnasol i’r gynulleidfa amaethyddol.”

Mudiad amlwg o fewn y diwydiant amaeth yw’r Ffermwyr Ifanc. Mae 38% o aelodau’r mudiad yn ddi-Gymraeg. Un sydd ar hyn o bryd yn dilyn cwrs Dysgu Cymraeg yw Phil Elis, Prif Weithredwr newydd y mudiad.

Ychwanegodd “Bydd y cwrs Dysgu Cymraeg yma o fudd mawr i’r aelodau hynny sydd yn edrych am yr anogaeth gychwynnol yna i ddysgu’r iaith. Mae'r iaith Gymraeg yn rhan mor bwysig o ddiwylliant a threftadaeth cefn gwlad Cymru ac mae'n wych gweld bod ymdrech i gynyddu’r nifer o bobl sy'n defnyddio'r iaith.”

Nid dyma’r cwrs cyntaf i’r Ganolfan ei ddatblygu ar gyfer cynulleidfa benodol, gyda chyrsiau yn bodoli ar gyfer sectorau eraill megis iechyd a gofal, gwasanaethau cyhoeddus, twristiaeth a hamdden a manwerthu.

Ychwanegodd Dona Lewis, “Rydym eisiau sicrhau fod ein cyrsiau blasu 10 awr ar-lein yn cynnig geirfa ddefnyddiol ar gyfer y gweithle.  Wrth greu’r cyrsiau hyn, rydym yn trafod gyda’r sectorau gwahanol ac yn sicrhau y bydd gweithwyr yn cael cyfle i ddysgu geirfa sylfaenol ar gyfer cynnal sgwrs fer yn y Gymraeg, sy’n berthnasol i’w maes gwaith hwy.”

Mae cyrsiau 10 awr sector-benodol Cymraeg Gwaith, gan gynnwys amaeth, ar gael am ddim o wefan Dysgu Cymraeg - https://dysgucymraeg.cymru/dysgu/cyrsiau-blasu-ar-lein/