Cyflwyno Prosiect Ymchwil Newydd: “Archwilio cyfleoedd i ffermwyr yng Nghymru gynhyrchu bwydydd ar gyfer marchnadoedd y dyfodol

gan Dr. Hannah Pitt a Rhiannon Craft (Cynorthwyydd Ymchwil)

Ydych chi erioed wedi ystyried cyflwyno cynnyrch bwyd sy'n seiliedig ar blanhigion i'ch fferm?

Mae newidiadau i gymorthdaliadau, masnach ryngwladol, dewisiadau defnyddwyr a'r hinsawdd yn creu heriau a chyfleoedd i ffermwyr.

Rydym am wybod pryderon a diddordebau ffermwyr o ran y cyfleoedd i arallgyfeirio cynhyrchiant a bodloni’r galw am fwy o fwyd sy’n seiliedig ar blanhigion yn y DU. Pwy allai gynhyrchu grawnfwydydd, codlysiau, ffrwythau, llysiau neu gnau? Pa gymorth y byddai ei angen ar ffermwyr i gymryd y cam hwn?

Er mwyn ymchwilio i hyn, rydym yn cynnal arolwg sy'n agored i bob ffermwr yng Nghymru. Mae’r arolwg ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg -

Saesneg:: https://cardiff.onlinesurveys.ac.uk/exploring-opportunities-for-farmers

Cymraeg: https://cardiff.onlinesurveys.ac.uk/archwilio-cyfleoedd-i-ffermwyr-yng-ngogledd-cymru-gynhyrch

Gellir rhoi ymatebion yn ddienw. Mae hyn yn golygu y gallwch chi osgoi datgelu enwau a lleoliadau go iawn (er y bydd angen i ni wybod ym mha sir ydych chi).

Ar ddiwedd yr arolwg rhoddir yr opsiwn i’r sawl sy’n cymryd rhan wybod rhagor drwy gymryd rhan mewn cyfweliad neu weithdy. 

Byddwn hefyd yn cyfweld â ffermwyr arloesol yng Nghymru sydd eisoes wedi dechrau arallgyfeirio cynhyrchiant drwy gyflwyno cynhyrchu ar sail planhigion i'w ffermydd. Byddwn ni hefyd yn cyfweld â ffermwyr arloesol yng Nghymru sydd eisoes wedi dechrau cyflwyno cynnyrch sy’n seiliedig ar blanhigion i'w ffermydd. Bydd y prosiect yn rhannu gwybodaeth am yr astudiaethau achos hyn yn ogystal â'r pwyntiau sy’n codi y mae’r ffermwyr yn tynnu sylw atyn nhw.

Ar ddechrau'r flwyddyn newydd, byddwn yn gwahodd ffermwyr ac arloeswyr i drafodaethau ar-lein (yn Gymraeg a Saesneg) lle gellir rhannu safbwyntiau a syniadau ymarferol.

Byddwn yn rhannu ein canfyddiadau â rhanddeiliaid perthnasol a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau. Bydd y gwaith ymchwil hwn yn helpu i sicrhau bod lleisiau ffermwyr yn cael eu clywed, er mwyn dangos i lunwyr polisi a rhanddeiliaid sut y dylid cefnogi ffermwyr i fodloni gofynion newydd sy’n tyfu.

Gobeithiwn lywio polisi fel bod y cymorth cywir yn cael ei roi i Ffermwyr sy'n dymuno arallgyfeirio fel hyn.

Arweinir y prosiect gan ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd. Mae'n cael ei ariannu gan Grant Ymchwil Bach yr Academi Brydeinig.

Unrhyw gwestiynau neu sylwadau? Byddem wrth ein bodd yn eu clywed. Cysylltwch â: Dr Hannah Pitt drwy ebostio This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.