Heriau ond hefyd cyfleoedd o’n blaenau

gan Glyn Roberts, Llywydd UAC

Mae mis Medi wedi bod ac wedi mynd ac mae'n anodd credu ei bod hi eisoes yn amser ar gyfer colofn mis Hydref! Roedd y mis diwethaf unwaith eto yn un prysur i ni i gyd, gyda siroedd yn parhau â'u hymweliadau gwleidyddol â ffermydd, a’r sgyrsiau gwleidyddol ehangach yn digwydd - pob un â'r nod o sicrhau bod gennym ffermydd teuluol cynaliadwy, ffyniannus am genedlaethau i ddod.

Pan fyddwn yn siarad am gynaliadwyedd, mae'n rhaid i ni siarad am gyllid. Nid oes unrhyw fusnes fferm yn gynaliadwy os nad yw’n ddiogel yn ariannol a chyda hynny mewn golwg ysgrifennwyd at Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart AS i’w atgoffa bod UAC yn credu bod hi wedi bod yn anonest o Drysorlys y DU i gynnwys cyllid heb ei wario gan yr UE o Gyfnod Cyllido 2014 - 2020 wrth gyfrifo cyllideb Polisi Amaethyddol Cyffredin Cymru 2021-2022 - methodoleg a arweiniodd at ddyraniad a oedd £95 miliwn yn llai na'r hyn a ragwelwyd.

Nid oedd y £243 miliwn mewn cyllid Cynllun y Taliad Sylfaenol a gyhoeddwyd ar Ragfyr 30 2019 yn cynnwys oddeutu £42 miliwn a drosglwyddwyd yn flynyddol i gyllideb Piler 2 (Datblygu Gwledig) trwy'r mecanwaith Trosglwyddo Piler.

Yn hynny o beth, ailadroddwyd y ffaith bod Cymru wedi derbyn tua £137 miliwn yn llai mewn cyllid amaethyddol a datblygu gwledig nag a ragwelwyd o ystyried honiadau dro ar ôl tro na fyddai ymadawiad y DU â'r UE yn arwain at gwymp mewn cyllid o'r fath.

Er na wnaethom ailadrodd ein dadleuon ynghylch dilysrwydd cynnwys cronfeydd heb eu gwario o gyfnod cyllidebol gwahanol wrth gyfrifo dyraniad Cymru, mae’n werth nodi bod cyllideb PAC 2021-2027 yr UE bellach wedi’i gosod ar €386.6 biliwn.

Yn hynny o beth, pe bai'r DU wedi aros yn yr UE a Chymru wedi parhau i dderbyn yr un gyfran o'r gyllideb hon, credwn y byddai dyraniad blynyddol Cymru o gyllid y PAC wedi bod yn £334 miliwn (yn seiliedig ar y gyfradd gyfnewid o £0.89 /€) yn ychwanegol at unrhyw gronfeydd sydd heb eu gwario - oddeutu £92 miliwn yn uwch na'r hyn a gyhoeddwyd ar Dachwedd 25 2020.

Yn dilyn ein sgyrsiau â Simon Hart AS y llynedd ynglŷn â’r mater hwn, rydym yn ymwybodol iddo wneud sylwadau cryf i Drysorlys y DU ynghylch pwysigrwydd cyllid amaethyddol Cymru.

Yn sgil penderfyniad Trysorlys y DU llynedd i fabwysiadu dehongliad creadigol o ymrwymiad y maniffesto i “... warantu’r gyllideb flynyddol gyfredol ...”, gwnaethom dynnu sylw at y ffaith ein bod yn naturiol bryderus y byddant yn mabwysiadu’r un dull yn yr adolygiad presennol.

O ystyried hyn, gofynnwyd iddo wneud ei orau glas i sicrhau nad yw cyllid sydd ddim yn cael ei wario’n cael ei gynnwys unwaith eto yng nghyfrifiad Trysorlys y DU, gan y byddai hyn yn ychwanegu at ostyngiad mewn cyllid sydd eisoes tua £137 miliwn yn is na'r hyn a ragwelwyd yn seiliedig ar ymrwymiadau.

Er gwaethaf hyn, os yw Trysorlys y DU yn bendant na fydd yn anrhydeddu ymrwymiad y maniffesto a'r addewidion a wnaed gan lawer sydd bellach yn y Llywodraeth yn y cyfnod yn arwain at refferendwm Brexit, dylai o leiaf eithrio cyllid a ddyrannwyd o unrhyw ostyngiadau yng nghyllideb 2022 -2023.

Yn ddiweddar cawsom drafodaethau defnyddiol ar y mater hwn gydag Is-Ysgrifennydd Seneddol Cymru David T C Davies yn ystod Sioe Brynbuga, ac rydym yn gobeithio trafod y mater hwn ymhellach gyda’r Ysgrifennydd Gwladol Cymru maes o law.

O ddiddordeb hefyd i aelodau yw’r ffaith ein bod wedi ysgrifennu at David TC Davies AS, Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol, yn gyntaf i ddiolch iddo am gymryd yr amser i gwrdd â ni yn Sioe Brynbuga i drafod nifer o faterion sy'n ein hwynebu fel diwydiant amaethyddol yng Nghymru a'r DU, ond hefyd i ailadrodd ein barn bod angen cynrychiolaeth gref o Gymru ar y Comisiwn Masnach ac Amaeth (TAC).

Mae angen i gynrychiolaeth o Gymru ar y Comisiwn Masnach ac Amaeth adlewyrchu pwysigrwydd amaethyddiaeth i economïau a chymunedau gwledig Cymru lle byddai cytundebau masnach rydd sy’n tanseilio ein safonau amddiffyn amgylcheddol uchel, lles anifeiliaid a bwyd yn cael yr effaith fwyaf.  Er bod Llywodraeth y DU wedi addo y bydd y Comisiwn Masnach ac Amaeth yn cael amser i archwilio Cytundeb Masnach Rydd y DU - Awstralia, nid oes unrhyw arwydd o hyd pryd y bydd yn cael ei sefydlu. Mae yna ddryswch o hyd hefyd o ran y pwerau archwilio fydd gan y Comisiwn Masnach ac Amaeth o ran ystyried cytundebau masnach ryngwladol fel cytundeb masnach rydd y DU - Awstralia ac a fydd ganddo'r gallu i wneud hynny cyn iddynt gael eu llofnodi.

Felly rydym wedi gofyn i Is-Ysgrifennydd Seneddol Cymru am esboniad clir o broses archwilio cytundeb masnach rydd y DU - Awstralia a chytundebau masnach yn y dyfodol. Hefyd, gofynnwyd iddo geisio sicrhau bod Cymru’n cael ei chynrychioli’n deg ar y Comisiwn Masnach ac Amaeth a’i bod yn cael ei sefydlu mewn modd amserol.

Heb os nac oni bai, bydd y misoedd i ddod yn cyflwyno llawer mwy o heriau i ni, ond hefyd yn cyflwyno cyfleoedd, a thrwy weithio gyda'r holl bleidiau gwleidyddol yng Nghymru, rwy'n sicr y gallwn sicrhau dyfodol ffafriol, cynaliadwy a ffyniannus i'n haelodau ac amaethyddiaeth yng Nghymru yn gyffredinol.