Y flaenoriaeth i Lywodraeth a Senedd nesaf Cymru – yw darparu sefydlogrwydd mewn byd o ansicrwydd

gan Glyn Roberts, Llywydd UAC 

Mae Etholiadau Senedd Cymru sydd ar ddod ym mis Mai o bwys mawr i’r sector amaethyddol yng Nghymru a bydd Llywodraeth nesaf Cymru’n wynebu heriau digynsail. Ers amser bellach mae FUW wedi rhybuddio a lobïo ar lawer ohonynt, ac eto mae’r heriau rydym wedi bod yn delio â hwy dros y 5 mlynedd diwethaf a mwy nid yn unig yn parhau ond wedi gwaethygu a chynyddu. 

Her allweddol ac un sydd o bwys mawr i FUW yw’r effaith fydd polisïau’r dyfodol yn ei gael ar ffermydd teuluol Cymru; ffermydd teuluol Cymru yw asgwrn cefn yr economi gwledig, diwylliant a thirwedd, gan wneud cyfraniadau di-rif i lesiant trigolion Cymru a’r DU. Felly ein prif flaenoriaeth ym maniffesto Senedd Cymru 2021 yw sicrhau bod gennym sector ffermio cynaliadwy sy’n ffynnu, gyda’r fferm deuluol wrth galon hynny. 

Er bod polisïau amaethyddol a seiliwyd yn wreiddiol ar egwyddorion a gynhwyswyd yn Neddf Amaeth 1947  a hefyd yn ddiweddarach yng Nghytundeb Rhufain 1957, a Chytuniad  Lisbon 2007, mae’n ddigon posib nad oedd yr egwyddorion hyn yn berffaith yn gymdeithasol ac amgylcheddol, ond maent wedi arwain at wella sefyllfa lle yn 1953 roedd 40 y cant o incwm aelwydydd yn cael ei wario ar fwyd, ond erbyn 2018, roedd y ganran honno wedi disgyn i 10 y cant – a hyd nes y prinder bwyd dros dro a ddaeth yn sgil pandemig y coronafeirws ym mis Ebrill 2020 - roedd prinder bwyd yn un o’r pryderon oedd yn perthyn i’r gorffennol. 

At hynny, nid oes fawr o amheuaeth y byddem, heb bolisïau o'r fath, wedi colli nifer fawr o deuluoedd ffermio yng Nghymru o'n cymunedau, ac wedi gweld mwy o ddibyniaeth ar fewnforio bwyd ynghyd â mabwysiadu dulliau amaethu dwys fel yn yr Unol Daleithiau.

Wrth i’r DU adael yr UE, collir yr amddiffyniadau a gynigir i gymunedau ffermio a chynhyrchwyr bwyd gan Gytuniad Lisbon a chyfyngiadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin, gan ddod â phryderon a chyfleoedd i ffermydd teuluol a chynhyrchwyr bwyd Cymru.

Er gwaethaf yr agenda gymdeithasol eang a fabwysiadwyd o Ddeddf Amaethyddiaeth 1947 Llafur, hyd yma, mae Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio ar un egwyddor gul wrth ddatblygu polisi i ddilyn PAC; talu ffermwyr am ddarparu 'nwyddau cyhoeddus' - term academaidd sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn golygu buddion amgylcheddol lle nad oes marchnad ariannol ar eu cyfer, megis aer glân, ansawdd dŵr a chynefinoedd naturiol. 

Er mai ychydig fyddai'n gwadu'r angen i ymgorffori manteision hanfodol o'r fath mewn cynllun yn y dyfodol, mae penderfyniad Llywodraeth bresennol Cymru ychydig ar ôl refferendwm Brexit i benderfynu mai taliadau nwyddau cyhoeddus fydd yr unig fecanwaith cymorth, cyn sefydlu neu asesu a fyddai hyn yn bodloni nodau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol allweddol, yn mynd yn groes i reddf ac yn rhywbeth fydd yn rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru fynd i’r afael ag ef.

Fel yr amlygwyd dro ar ôl tro gan FUW ac eraill ers 2016, bydd cynllun sy'n seiliedig ar daliadau nwyddau cyhoeddus yn unig yn gostus ac yn gymhleth iawn i'w weinyddu, a bydd yn gwanhau ffermwyr tenant yng Nghymru yn ogystal â deiliaid hawliau pori cyffredin ac yn arwain at annhegwch ar sail cod post lle bydd taliadau i ffermwyr a’r cyfyngiadau arnynt yn amrywio'n fawr o fferm i fferm ac o ranbarth i ranbarth.

Yn hytrach, dylem geisio sefydlu amcanion allweddol i Gymru ac yna llunio amrywiaeth o fecanweithiau sy'n cydymffurfio â Sefydliad Masnach y Byd (WTO) i’w cyflawni - gan ddatblygu cynllun yng Nghymru ar gyfer blaenoriaethau Cymru. 

Y flaenoriaeth i Lywodraeth a Senedd nesaf Cymru yw darparu sefydlogrwydd mewn byd o ansicrwydd. Rhaid i bolisïau gwledig Cymru yn y dyfodol gadw teuluoedd sy’n cynhyrchu bwyd ar y tir, rhaid cyfeirio a chynnal cefnogaeth sy’n greiddiol i gynhyrchu bwyd o’r safon gorau er mwyn osgoi achosi niwed anadferadwy, a rhaid i Gymru barhau i fuddsoddi mewn mesurau sy’n gyrru cynhyrchiant, gwella effeithlonrwydd a chefnogi ffermwyr i wella eu potensial yn y farchnad wrth gwrdd â rhwymedigaethau amgylcheddol a newid yn yr hinsawdd. 

Mae ffermwyr Cymru wedi sicrhau canlyniadau cyhoeddus cadarnhaol i'r genedl ers canrifoedd, a rhaid eu gwobrwyo'n deg am yr hyn y maent eisoes wedi'i gyflawni, yn parhau i gyflawni ac y byddant yn cyflawni yn y dyfodol. Amlinellir y materion hyn ac eraill ym Maniffesto FUW Etholiad Senedd Cymru 2021, gyda rhagor o bwyntiau allweddol wedi’u hamlygu ar dudalennau 11 - 15 o’r rhifyn hwn o’r Tir.

Nid oes gan FUW gyswllt ag unrhyw blaid wleidyddol, ac felly mae ganddo ddyletswydd i weithio nid yn unig â’r llywodraeth sydd mewn grym ond hefyd y gwrthbleidiau, waeth beth yw eu tueddiadau gwleidyddol. Am gyfnod nesaf Senedd Cymru a thu hwnt, mae FUW yn ymroi i lobïo’r rheini yng Nghaerdydd i sicrhau bod amaethyddiaeth a ffermydd teuluol yn derbyn sylw a pharch dyledus – a hynny er mwyn dyfodol pawb.