Ble mae’r ugain mlynedd diwethaf wedi mynd?

gan Angharad Evans, Golygydd y Gymraeg

Mae’n gyd-ddigwyddiad rhyfeddol bod ymdrechion yn parhau i ddileu Covid-19 yn cyd-fynd gyda 20 mlynedd ers i glwy’r traed a’r genau chwalu a dinistrio amaethyddiaeth yn 2001 gan adael creithiau ar amaethyddiaeth Cymru a fydd yn para oes. 

Er mwyn nodi’r achlysur, mae Cornel Clecs wedi cael cyfle i holi i Arwyn Owen, cyn Cyfarwyddwr Polisi UAC, ac Alan Gardner, Cadeirydd Pwyllgor Da Byw, Gwlân a Marchnadoedd yr Undeb yn 2001 am ei hatgofion personol nhw o’r cyfnod:

Arwyn Owen

Ble mae’r ugain mlynedd diwethaf wedi mynd, yw’r hyn sydd ar feddwl llawer wrth inni edrych yn ôl i’r flwyddyn 2001 a chofio effaith drychinebus clefyd y traed a’r genau ar fywyd yng Nghymru. Mae llawer o’r emosiynau yr oedd pobl yn teimlo bryd hynny wedi ail gorddi yn ein meddyliau wrth i Covid ddod â bywyd bob dydd i stop yn 2020. Yn y ddau achos, mae bywoliaethau wedi’u dinistrio ac mae pobl wedi byw mewn ofn o’r gelyn anweledig, heb wybod pryd neu sut y byddai’n taro nesaf. 

I mi, rhan anoddaf fy swydd yn 2001 oedd bod yn dyst i bobl a oedd wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i gadw traed a’r genau allan o’u diadelloedd a’u buchesi, ac yna’n gorfod delio gydag achos a’i ganlyniadau. Mae’n hawdd edrych yn ôl a mesur yr effaith yn nhermau ystadegau noeth. Y tu ôl i bob achos, roedd yna deulu ffermio; y tu ôl i fanylion amrwd anifeiliaid a laddwyd, roedd blynyddoedd lawer o fridio manwl a gofalus; a thu hwnt i effaith uniongyrchol y clefyd, roedd llawer o gwestiynau am y dyfodol. 

Yn aml iawn, roedd yr effaith ar y gymuned ehangach yn llai gweladwy ond yr un mor ddifrifol. Fel yn 2020, cafodd sioeau eu canslo, prin oedd y digwyddiadau cymdeithasol ac roedd unigedd, er yn dda ar gyfer rheoli clefydau, yn achosi dioddefaint gwirioneddol i lawer.

Er gwaethaf yr atgofion hyn, rwy’n aml yn meddwl bod traed a’r genau wedi dod â’r gorau allan o bobl. Gwnaethpwyd camgymeriadau, fel y bydd bob amser yn digwydd ond yn fy marn i roedd pawb yn rhoi o’u gorau i drechu’r gelyn anweledig hwn. Rwy’n aml yn ystyried bod y Llywydd ar y pryd Bob Parry, a chadeiryddion pwyllgorau fel Alan Gardener a Derek Morgan wedi ennill rhinweddau goruwchddynol. Roedd cymaint o gyfarfodydd lle’r oedd yn rhaid i ni fod yn bresennol ac yn gorfod ymateb i gymaint o achosion. A bod yn deg, roedd hyn hefyd yn wir am weision sifil ac roedd tensiynau’r amser yn aml yn cuddio’r gwir ymdrech gan lawer o unigolion.

Yn y pen draw, mae pobl yn wydn iawn ac mae hyn yn arbennig o wir am gymunedau gwledig. Rydyn ni’n cofio 2001, ond rydym wedi symud ymlaen, ar ôl dysgu’r gwersi a ddaeth i’r amlwg. Gobeithio y bydd yr un peth yn wir am 2020.

Alan Gardner

Fy atgofion cyntaf fel Cadeirydd y Pwyllgor Da Byw, Gwlân a Marchnadoedd oedd y sgyrsiau ffôn gyda’r adran bolisi yn y brif swyddfa, gydag Arwyn Owen a Siôn Aron yn bennaf. Roedd cyflymder lledaeniad y clefyd yn syfrdanol, ac, yn ddiweddarach, mi ddaeth i’r amlwg ei fod wedi hen ennill ei blwyf ym Mhrydain cyn iddo gael ei ganfod. Gan fod gen i ddiadell sylweddol o ddefaid ar fin wyna yn ystod y mis canlynol, cadwodd Arwyn a Siôn y galwadau i’r lleiafswm ond rwy’n cofio cymryd mwy o ddiddordeb personol gyda’r trafodaethau a’r lobïo ynghylch yr angen am ddifa lles.

Roedd miloedd o ddefaid yn gaeth i ffwrdd ar dir gaeafu neu dewhau, erbyn y cyntaf o Ebrill roedd hi’n amser i’n wyn benyw i ddod adref. Wythnos yn ddiweddarach roeddent yn parhau i fod yn Swydd Amwythig ac mewn gwirionedd, nid oeddwn am weld nhw’n dychwelyd rhag ofn y byddai’r clwy’n dod i Sir y Fflint, a oedd yn rhydd o’r clefyd, ac eithrio ambell i achos ynysig o ddifa cyffiniol. Yn union fel y cytunwyd ar y telerau ar gyfer difa lles, cefais alwad yn dweud fod traed a’r genau wedi’u cadarnhau mewn moch ar y fferm lle’r oedd fy nefaid, a’u bod i gael eu lladd y diwrnod canlynol. Ni fydd byth modd anghofio’r teimlad erchyll hwnnw. 

Rwy’n falch iawn nad oedd rhaid i fi dystio gweld y defaid, a oedd yn drwm o ŵyn yn cael eu lladd ar y fferm.

Mewn ymgais i dawelu’r lobio gwledig, sefydlodd Llywodraeth San Steffan gyfarfodydd rhanddeiliaid rheolaidd, gofynnwyd i mi gynrychioli UAC. Gweithiais yn agos gyda Derek Morgan, Cadeirydd y Pwyllgor Tir Mynydd, a byddai un ohonom fel arfer yn teithio i Lundain i gyflwyno safbwynt Cymru. 

Roedd pob sefydliad gwledig y gallech chi feddwl amdano yn y cyfarfodydd hyn, byddwn i’n cael sesiwn friffio gan Aberystwyth ar y daith trên fel bod y ffeithiau’n barod i ddylanwadu ar ba bynnag weinidog y cyflwynwyd i ni ar y diwrnod penodol hwnnw. Byddai’r Prif Filfeddyg ac uwch weision sifil hefyd yn bresennol.

I ddechrau, roedd yn anodd, ac yn ymddangos bod yr apeliadau i lacio cyfyngiadau symud am resymau lles ac ariannol yn cael eu hanwybyddu. Roedd yr ymdeimlad o anghrediniaeth yn y llywodraeth at y graddau yr oedd da byw fferm yn symud o amgylch y wlad yn amlwg ac o’r herwydd yn beio am y lledaeniad cyflym. Fodd bynnag, gwnaethom ddyfalbarhau ac yn y pen draw cyflawnwyd consesiynau a oedd yn ychydig mwy dymunol wrth adrodd nôl.

Ni ofynnais erioed ai hap a damwain yr anfonodd UAC ffermwyr go iawn, a heblaw am NFU yr Alban a anfonodd eu cadeirydd Da Byw hefyd, roedd y sefydliadau eraill yn cael eu cynrychioli i raddau helaeth gan swyddogion swyddfa. 

Datblygodd ychydig o deyrngarwch rhwng UAC a SNFU, ac yn gyffredinol roeddem yn atgyfnerthu safbwyntiau ein gilydd ac oherwydd ein bod yn ffermwyr, yn medru siarad gyda mwy o argyhoeddiad ac angerdd. Daeth yn amlwg, wrth i’r cyfarfodydd barhau trwy’r haf, bod ychydig mwy o ffermwyr wedi ymddangos o amgylch y bwrdd yn Whitehall.

Roedd ffermio ym mhob bwletin newyddion o’r 20fed o Chwefror am yr holl resymau anghywir. Gobeithio na fyddwn byth yn profi ei debyg eto ond rwy’n amau ​​y bydd amser byth pan fydd amaethyddiaeth yn cael cymaint o fynediad a dylanwad yn y llywodraeth.

 


Argraffu