“Dy’n nhw byth yn gwrando arnon ni”

Trawiadau: 949

gan Angharad Evans, Golygydd y Gymraeg

65 mlwydd oed - dyna i chi 65 mlynedd, 23725 diwrnod, 569400 awr a 2,049,840,000 eiliad o Undeb Amaethwyr Cymru - ie Pen-blwydd Hapus iawn i ni!

Rydym ynghanol cyfnod dathlu pen-blwydd yr Undeb yn 65 mlwydd oed, ond a wyddoch chi mae sgwrs mewn Riley 3.5 litr ar hyd yr A40 o Lundain nôl am Sir Gaerfyrddin yw dechrau’r hanes?

Roedd teithwyr y Riley, Ivor T Davies (Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Sirol yr NFU Sir Gaerfyrddin) a JB Evans (Ysgrifennydd Sirol yr NFU Sir Gaerfyrddin) yn teimlo bod nhw wedi gwastraffu diwrnod, a hwnnw’n un hir gan fod neb yng nghyfarfod Cyngor yr NFU yn y pencadlys yn Sgwâr Bedford yn gwrando ar lais ffermwyr Cymru. Yn ystod y daith honno, penderfynodd y ddau wneud safiad a fyddai’n newid dyfodol ffermwyr yng Nghymru am byth.

Er mwyn dysgu mwy am hanes yr Undeb, rwyf wedi treulio peth amser yn pori trwy lyfr Teulu’r Tir gan Handel Jones sy’n olrhain yr hanes o 1955 hyd at 1992. Cawn fewnwelediad manwl i’r dyddiau cynnar hynny, a’r cymeriadau fu’n gyfrifol am ffurfio undeb newydd i Gymru. Dyma i chi flas o’r hyn ddigwyddodd ar brynhawn dydd Sadwrn Rhagfyr 3 1955:

“Pan gyfarfu Pwyllgor Gwaith Sirol Caerfyrddin yn Nhŷ’r Eglwys San Pedr ar Sgwâr Nott, Caerfyrddin ar brynhawn Sadwrn Rhagfyr 3, 1955, roedd yr awyrgylch yn anesmwyth a drwgdybus. Cofiodd Dewi I Thomas mai dyna’r cyfarfod mwyaf di-ffrwt iddo ei fynychu erioed.

“Mae’n rhaid bod yr aelodau wedi synhwyro bod rhywbeth yn y gwynt,” dywedodd.  Ar ôl cwblhau’r materion arferol, dywedodd y Cadeirydd, Ivor T Davies, na allai gynrychioli ffermwyr Sir Gaerfyrddin ar Gyngor yr NFU oherwydd teimlai fod polisïau arweinwyr yr Undeb yn mynd yn groes i fuddiannau ffermwyr Cymru. O ganlyniad roedd wedi penderfynu ymddiswyddo fel Cadeirydd cangen y sir. Yn ystod y drafodaeth lawn a ddilynodd, siaradodd llawer aelod o blaid ffurfio undeb annibynnol i ffermwyr Cymru.”

Arhosodd deuddeg aelod y noson honno, ar ôl i’r gweddill gerdded allan. Mae ein dyled yn fawr i Aneurin Davies, Cil-y-cwm; Ivor T Davies, Llanfihangel-ar-Arth; J H Davies, Llanybri; J W O Davies, Llanymddyfri; Aelwyn Hughes, Llanymddyfri; D J Jones, Cil-y-cwm; Llewellyn Jones, Rhandirmwyn; D T Lewis, Myddfai; D H Owen, Llan-non; D C Phillips Llanelli; Tom Price, Cil-y-cwm a Dewi I Thomas, Caerfyrddin am eu gweledigaeth, dewrder, angerdd a ffydd.

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Pwyllgor Dros Dro UAC yng ngwesty’r Castell, Llandeilo ar ddydd Iau, Rhagfyr 8, 1955, ac yn 2005, dadorchuddiwyd plac dwyieithog ar wal y gwesty i gofnodi 50 mlynedd ers i’r Undeb gyfarfod yno am y tro cyntaf.

O hynny ymlaen, aeth yr Undeb o nerth i nerth, ac yn profi bod undeb mewn nerth. Carreg filltir bwysig arall yn hanes sefydlu’r undeb oedd derbyn cydnabyddiaeth swyddogol ym 1978, a byth ers hynny, mae’r Undeb wedi chwarae rhan ddylanwadol yn amaethyddiaeth Cymru, ac wedi profi bod ei hangen yn fwy nag erioed, er mwyn brwydro, nid yn unig am oroesiad y fferm deuluol, ond am ddyfodol ffyniannus i’n haelodau a phawb sy’n cynnal bywoliaeth o amaethyddiaeth.

Mae Teulu’r Tir yn llyfr hanesyddol bwysig, yn llawn straeon, ac yn cofnodi’r frwydr gynnar Undeb Amaethwyr Cymru i gael ei derbyn, nid yn unig yn Llundain a’r byd, ond gan ffermwyr Cymru. Os hoffech ddarllen mwy o’r hanes, cysylltwch â ni ac mi sicrhawn fod yna gopi i chi.

Gan mai hwn yw Cornel Clecs diwethaf 2020, dymunaf Nadolig Llawen iawn i chi gyd a chadwch yn ddiogel dros yr Wŷl. 