Bachwch ar y cyfle!

gan Siôn Ifans, Cadeirydd UAC Sir Feirionnydd

Dwi’n rhan o bartneriaeth yma ym Mryn Uchaf, Llanymawddwy gyda fy ngwraig a fy rhieni yng nghyfraith. Ffarm fynydd ydy Bryn Uchaf gyda diadell o 900 o famogiaid a 15 o fuchod sugno. Mae’r ddiadell yn cynnwys 630 o ddefaid Cymreig gyda 150 o’r rheini yn mynd at hwrdd Aberfield a’r gweddill at hyrddod Cymraeg. Cedwir 170 o ddefaid croes Aberfield gan roi hyrddod Texel a Suffolk NZ arnynt.

Mae’r fuches sugno yn cynnwys buchod du benwen a buchod Stabiliser. Prynwyd tarw Stabiliser am y tro cyntaf eleni gyda’r bwriad o gadw lloi menyw i gynyddu’r fuches rhyw ychydig heb orfod prynu i mewn.

Fe ddechreuodd fy mherthynas i gyda UAC nôl yn 2002 pan gefais y cyfle i ddechrau amaethu drwy sicrhau tenantiaeth 5 mlynedd. Mi es i swyddfa’r Undeb yn Y Drenewydd i holi am gyngor ar wahanol agweddau megis cwota defaid ayyb. Cefais arweiniad a chymorth gwerthfawr iawn gan y Swyddog Gweithredol Sirol ar y pryd, ac o hynny fe eginodd fy mherthynas gyda’r Undeb.

Erbyn hyn, ar ôl symud i Fryn Uchaf, dwi wedi newid Sir ac yn ymwneud â Swyddfa Sir Feirionnydd. Cefais fy enwebu gan y gangen leol yn Ninas Mawddwy i’w cynrychioli ar y pwyllgor Sir ac ar ôl ychydig flynyddoedd ges y cyfle o fod yn Is Gadeirydd ac erbyn hyn dwi ar fy ail flwyddyn fel Cadeirydd y Sir.

Dwi’n cydweithio’n agos iawn gyda staff y swyddfa yn Nolgellau. Mae’r cyfrifoldebau yn amrywio o gadeirio’r pwyllgor Sir yn ogystal â chyfrannu at drafodaethau gyda gwleidyddion a chynrychiolwyr o fewn y diwydiant. Ers bod yn gadeirydd dwi wedi dod i ddeall yn well sut mae’r Undeb yn gweithredu ac wedi sylweddoli pwysigrwydd y gwaith y mae’r adran bolisi yn ei wneud.

Wrth gyfathrebu gyda’r swyddfa sirol yn ogystal â’r adran bolisi mae’r holl ddatblygiadau diweddaraf am ddyfodol polisïau amaeth ac amgylcheddol yn fyw iawn ar yr agenda.

Mae hyn yn wir am yr ymgynghoriad diweddaraf sef y trydydd ymgynghoriad Ffermio Cynaliadwy a’n Tir - Symleiddio Cymorth Amaethyddol ar gyfer Ffermwyr a’r Economi Wledig. Yn gryno, ymgynghoriad am gynllun rhwng cynlluniau ydy hyn, ond mae angen ymateb iddo.

Does dim dwywaith yn fy marn i, ers i’r ymgynghoriad cyntaf ddod allan yn 2018, mae rhyw geisio am awgrymiadau y mae Llywodraeth Cymru ar beth fyddai’n gweithio o ran cynlluniau cymorth. Mae hyn yn amlygu’r gwirionedd bod diffyg profiad a dealltwriaeth o fewn adrannau perthnasol Llywodraeth Cymru. Mae’n hynod bwysig felly ein bod yn eu rhoi ar ben ffordd a’n bod yn ymateb mewn rhyw ffordd, boed hynny yn unigol neu drwy gyfrannu i ymateb Sirol.

Fel gair bach olaf, cofiwch i fachu ar unrhyw gyfle ddaw o fod yn aelod o’r Undeb. Mae eich barn yn bwysig ac mae angen ei leisio!