Yr ysbrydoliaeth i goginio ynghanol y cyfnod clo

Trawiadau: 902

gan Angharad Evans, Golygydd y Gymraeg

 

 

Roedd wythnos Mawrth 16-20 yn anarferol iawn eleni, braidd yn iasol i ddweud y gwir, wrth i’r byd cyfan blymio mewn i ansicrwydd nas gwelwyd erioed o’r blaen.

Roedd panig yn lledaenu ar raddfa gyflym wrth i Coronafeirws dynhâi’r gafael ar y byd. Ni feddyliais, na chi chwaith mae’n siŵr, y byddai’r gair yna’n parhau i ddominyddu’r sgwrs ddyddiol erbyn heddiw.

Ond, er yr holl dristwch ac ansicrwydd yn sgil y pandemig, mae yna bethau da wedi dod allan o sefyllfa wael. Yn fuan ar ôl dechrau’r cyfnod clo, sefydlodd dwy o aelodau Merched y Wawr, Angharad Fflur a Gwerfyl Eidda, y dudalen Facebook Curo’r Corona’n Coginio er mwyn annog pobl i rannu eu ryseitiau a’u cynghorion. Ymhen rhai wythnosau roedd 15,000 wedi ymaelodi â’r grŵp, gan greu cymuned gyfeillgar sy’n ymestyn ar draws y byd.

Roeddwn i yn un o’r 15,000 hynny, ac yn edrych ymlaen yn eiddgar bob dydd i weld pa brydiau gwahanol a rhwydd mae rhai eraill yn paratoi.

Does neb yn tŷ ni yn llwgu, rwy’n gallu coginio’r hanfodion, ond fi yw’r cyntaf i gyfaddef, nad wyf yn gogydd o bell ffordd! Ond roedd gweld y prydiau o fwyd cartref lliwgar, yn cynnig ysbrydoliaeth. Ond yn fwy pwysig na dim, roedd y cynhwysion, mwy neu lai ar gael gan bawb yn y cwpwrdd ar adeg pan nad oedd yn dasg rwydd iawn i siopa.

Er bod y byd wedi dechrau ail gydio mewn rhyw fath o ‘normalrwydd’, nid dyna ddiwedd hanes y dudalen ar Facebook. Penderfynwyd cynhyrchu llyfr ryseitiau, gyda chefnogaeth gan Hybu Cig Cymru a Cywain, i gyflwyno cyfran fechan yn unig o gynnwys y dudalen, gan ddathlu creadigrwydd ceginau Cymru a gosod y pwyslais ar ddefnyddio cynnyrch Cymreig gwych yn y gegin.

Yn ogystal â ryseitiau, mae’r gyfrol yn cynnwys detholiad o luniau’r cacennau dathlu bendigedig a ymddangosodd ar y dudalen, a lluniau plant yn coginio tra oedden nhw adref o’r ysgolion - hwb arall i ennyn diddordeb y genhedlaeth iau mewn coginio a’u hannog i baratoi pryd o fwyd o’r cychwyn cyntaf.

Ond mae’n fwy na llyfr ryseitiau. Mae’n symbol o gymuned wedi dod at ei gilydd mewn cyfnod anodd, yn ysbrydoliaeth i nifer. Roedd llawer yn gofyn am gyngor ac yn gofyn cwestiynau difyr. Mae llawer o sylwadau hefyd wedi cyfeirio at y ffaith fod y dudalen yn helpu iechyd meddwl unigolion yn ystod y cyfnod clo, gan roi rhywbeth i ffocysu arno’n ddyddiol.

Wrth i’r llyfr ryseitiau gyrraedd ceginau ledled Cymru, dywedodd Tegwen Morris, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Merched y Wawr: “Diolch o galon i bawb sydd wedi cyfrannu ac yn parhau i wneud at dudalen Curo’r Corona'n Coginio. Diolch yn fawr i bawb sydd bellach yn prynu’r llyfr, mae yn atgof arbennig a chadarnhaol o gyfnod anodd a heriol ym mywydau nifer. Roedd cydweithio gyda Cywain a Hybu Cig Cymru yn fraint a gobeithio y bydd pawb yn cael mwynhad o ddefnyddio cynnyrch lleol o ansawdd gwych ac yn ychwanegu at fwrlwm y dudalen.”

Llongyfarchiadau i Ferched y Wawr, ac i’r criw i gyd sydd wedi bod ynghlwm a hyn, o’r dudalen ar Facebook i’r gyfrol lliw llawn, 150 tudalen, wedi ei rwymo â sbiral er mwyn sicrhau y bydd yn aros yn agored ar fwrdd y gegin - mae’n brawf bod modd canfod positif i bob anhawster.

Mae Curo’r Corona’n Coginio ar gael nawr mewn siopau llyfrau ledled Cymru, ar y we drwy wefan y wasg www.carreg.gwalch.cymru a gwefan y Cyngor Llyfrau www.gwales.com am £10.00, gyda’r elw a wneir o werthiant y gyfrol yn mynd i elusen Merched y Wawr, i gefnogi eu gwaith ar draws Cymru.

I roi blas o’r hyn sydd yn Curo’r Corona’n Coginio, ewch i dudalen 15 a rhowch gynnig arni - mwynhewch!