Tynnu sylw at y rôl hanfodol mae’n rhaid i ffermio ei chwarae wrth helpu i daclo newid yn yr hinsawdd

Fel ffermwyr, mae popeth a wnawn ni a phopeth sy’n dylanwadu arnom yn cylchdroi o gwmpas y tywydd, sydd wrth gwrs yn ddibynnol ar y tymhorau a’r hinsawdd; p’un ai allwn ni gasglu digon o borthiant yn yr haf i fwydo’n hanifeiliaid dros y gaeaf; am ba mor hir y mae angen bwydo’r porthiant hwnnw i’r anifeiliaid; pa glefydau sy’n effeithio ar ein hanifeiliaid a’n cnydau, a rhestr hir o heriau eraill sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’r tywydd, y tymhorau a’r hinsawdd.

Pwysleisiwyd pwyntiau o’r fath yn glir pan wnaethom gyfarfod â Hyrwyddwr Gweithredu Hinsawdd Lefel Uchel y DU, Nigel Topping, mewn cyfarfod bwrdd crwn ar y cyd ddiwedd mis Gorffennaf a drefnwyd gan UAC ac NFU Cymru i drafod newid yn yr hinsawdd a’r ymgyrch  “Tuag at Ddyfodol Di-garbon”, sy’n ymgyrch ryngwladol ar gyfer adferiad di-garbon iach a  gwydn.

Rwy'n gwybod bod yna lawer sy'n dal i amau bodolaeth y newid yn yr hinsawdd, ac mae ganddyn nhw bob hawl i'w barn - wedi'r cyfan, pan ddechreuodd llawer ohonom ni ffermio, roedd yna sôn ein bod ar drothwy oes iâ newydd.

Ond, gan wisgo het brocer yswiriant FUW, fy ngwestiwn i yw ‘a allwch chi fforddio’r risg o fod yn anghywir?’

Mae’n ffaith bod lefelau Carbon Deuocsid wedi codi’n gyflym ers y chwyldro diwydiannol, gan gyrraedd y lefelau uchaf ers 800 mil o flynyddoedd.  Gwyddom hefyd fod y 10 mlynedd cynhesaf ar gofnod wedi digwydd ers 1998.  Mae 9 o’r rhain wedi bod yn ystod y pymtheg mlynedd diwethaf.

Yng ngoleuni tystiolaeth o’r fath allwn ni ddim fforddio gamblo bod gwyddonwyr y byd yn anghywir, pan fydd colli’r bet yn golygu diwedd y byd fel y gwyddom amdano – effeithiau ar raddfa Feiblaidd:  cnydau’n methu, newyn, colli ardaloedd enfawr o dir ffermio a chymunedau wrth i lefelau’r môr godi; mudo ar raddfa enfawr a rhyfeloedd, i enw ond ychydig.

Ac wrth gwrs, p’un ai ydyn ni’n credu ynddo ai peidio, mae’r newid yn yr hinsawdd 100% yn realiti gwleidyddol, a fydd yn sail i bolisïau ac agendâu gwleidyddol ar draws y byd am ddegawdau i ddod.

Mae UAC wedi cydnabod yn rheolaidd y bygythiad o du’r newid yn yr hinsawdd a’r angen i weithredu, mewn maniffestos a dogfennau polisi a gyhoeddwyd dros yr ugain mlynedd diwethaf, a dwi’n falch o’r ffaith bod ein ffermwyr ni wedi bod yn gyfrifol am helpu i sicrhau bod pum gwaith yn fwy o ynni adnewyddadwy wedi’i gynhyrchu dros y 15 mlynedd diwethaf.

Un myth a ledaenir yn gyson gan y cyfryngau a’r rhai sydd â chymhellion ac agendâu eraill yw bod ein diwydiant ni ymhlith y troseddwyr gwaethaf yn nhermau allyriadau nwyon tŷ gwydr, serch bod amaethyddiaeth yn gyfrifol am allyriadau sy’n ffracsiwn yn unig o’r hyn mae trafnidiaeth, ynni neu sectorau eraill yn ei gynhyrchu.  A dylid nodi, hyd yn oed petai poblogaeth y DU trwy ryw ryfedd wyrth yn gallu rhoi’r gorau i fwyta’n gyfan gwbl, a bod ein holl ffermydd yn diflannu, y byddai 90% o nwyon tŷ gwydr y DU yn dal ei gael eu cynhyrchu.

Fodd bynnag, fel pob diwydiant eraill, mae gennym gyfrifoldeb i weithio’n galed i leihau ein hôl troed a lliniaru’r newid yn yr hinsawdd, ac mae’n rhaid inni weithio gydag eraill i wneud hynny.

Serch hynny, fel diwydiant rydym hefyd yn ymwybodol o’r perygl o dybio bod yna atebion syml:  wedi’r cyfan mae llawer ohonom yn dystion i ddinistriad cymunedau ac ecosystemau cyfan o ganlyniad i bolisïau llywodraethol ysgubol, yn arbennig yn sgil creu planhigfeydd coedwigaeth - ardaloedd sydd â gwerth ychwanegol gros o lai na hanner un amaethyddiaeth yng Nghymru, a chyfraddau cyflogaeth fesul hectar sy’n un rhan o bump o rai amaethyddiaeth.

Nid yw hynny’n golygu nad ydym yn cydnabod y rolau canolog y mae creu coedwigoedd a choetiroedd yn gorfod eu chwarae ochr yn ochr â newidiadau eraill o ran defnydd tir - i’r gwrthwyneb, mae gennym lu o aelodau sy’n awyddus iawn i blannu coed ar eu ffermydd, ond sydd wedi’u llesteirio gan rwystrau dychmygus diddiwedd, a roddwyd ar waith gan Lywodraeth Cymru a'i hasiantaethau sydd wedi atal miloedd o hectarau o goed rhag cael eu plannu ar draws Cymru.

Er mwyn ymateb i’r her hwn gyda’n gilydd mae angen inni gael gwared â rhwystrau o’r fath, mewn ffordd sy’n gwella’n busnesau fferm a’n gallu i gynhyrchu, yn hytrach na’i ddifa.

A rhaid inni osgoi ar bob cyfrif unrhyw atebion gor-syml, a pholisïau sy’n tanseilio’r busnesau a’r teuluoedd sy’n ffurfio asgwrn cefn ein cymunedau amaethyddol gwledig.