Mi ddaw eto haul ar fryn

Ydw!  Mi rydw i yma.  Cornel Clecs ychydig yn wahanol y mis yma o dan yr amgylchiadau.  Dechreuais ysgrifennu’r golofn ar ddydd Llun 16eg o Fawrth.  Bryd hynny roedd pethau’n weddol ‘normal’ – beth bynnag yw hynny erbyn hyn! Roedd bywyd yn mynd yn ei flaen, roedd gan Ladi Fach Tŷ Ni apwyntiad yn yr ysbyty, ac roedd hi’n ‘busnes fel arfer’ yna.  Roedd yr ysgolion dal ar agor, ond mi roedd yr archfarchnadoedd a’r siopau mwy yn dangos arwyddion bod rhywbeth mawr ar droed. 

Erbyn gorffen ysgrifennu’r pwt bach yma ar ddydd Gwener 20fed o Fawrth, roedd y sefyllfa wedi newid yn llwyr.  Roedd yr ysgolion wedi cau am gyfnod amhenodol, a’r Llywodraeth wedi gorchymyn bod tafarndai, bwytai a llefydd cymdeithasu’n cau, a hynny’n syth.  Do mi ddaeth Covid-19 neu Coronofirws i barlysu bywydau pawb.  I ffermwyr, wrth gwrs mae’n rhaid parhau, gan fod y mwyafrif ohonom reit ynghanol y tymor wyna, a’r sied wyna yn ddihangfa o’r realiti hyll ar hyn o bryd.

Er ein bod ynghanol argyfwng cenedlaethol a’r cyfnod mwyaf ansicr erioed, mae’n rhaid cadw’n bositif.  Wrth ysgrifennu, mae’r tywydd wedi setlo am gyfnod sy’n faich oddi ar ysgwyddau nifer o ffermwyr, cyfnod bach i ddechrau ar y gwaith paratoi ar gyfer y tymor nesaf o waith.  Mae yna arwyddion clir o’n cwmpas ymhobman ar hyn o bryd bod y gwanwyn, o’r diwedd ar ei ffordd.  Mae’r gymuned amaethyddol wedi goroesi sawl argyfwng, a bob amser wedi cyd-dynnu ac arwain y ffordd.  Nid yw’r sefyllfa yma’n ddim gwahanol, ac mae’r siopau bach a’r cigyddion lleol yn barod i groesawu pawb ac yn annog pawb i siopa’n lleol ac i gefnogi’r economi leol.

Er mae dim ond tri mis o 2020 sydd wedi mynd, mae’n sicr yn haeddu lle yn ein llyfrau hanes.  Mi adawyd yr Undeb Ewropeaidd ym mis Ionawr, mi ddaeth llifogydd dinistriol o ganlyniad i stormydd Ciara a Dennis ym mis Chwefror a’r firws yn cyrraedd ym mis Mawrth. Er bod yna ansicrwydd mawr o’n cwmpas ar hyn o bryd, mi ddaw eto haul ar fryn, ac mae’n bwysig cofio hyn.  Mae’n bwysig cadw’n bositif, cadw mewn cysylltiad gyda’n gilydd, parhau i gefnogi’r economi leol, sydd ar hyn o bryd, yn profi’i gwerth yn fwy nag erioed wrth gynnig gwasanaethau hanfodol i bobl o bob oedran.

Rwyf am gloi drwy ddyfynnu geiriau Elin Angharad Davies o Ysbyty Ifan, sydd wedi mynd ati i gyfansoddi penillion i ddisgrifio’r sefyllfa, sydd heb ei thebyg o’r blaen:-

Mae’r byd di mynd yn wallgo.

Does dim newyddion da.

Dyfodol llawn ansicrwydd.

A’r aflwydd nawr yn bla.

 

Mewn byd sy’n llawn unigrwydd,

‘Ynysu’ yw y gri.

Rhaid gochel rhag cymysgu –

Ond codwch ffôn da chi!

 

Mewn byd llawn hunanoldeb

A silffoedd gweigion, glân.

Rhaid tynnu at ein gilydd

Wrth gadw ar wahân.

 

A rhaid yw dal i gredu –

Er gwaetha’r storom fawr.

Gofalwn am ein gilydd

Cyn hir fe ddaw y wawr.