“Rwy’n dwlu byw ar y fferm!”

Ydw! Mi rydw i yn un o’r miloedd o bobl sy’n treulio awr, neu ddwy (neu dair…) ar y cyfryngau cymdeithasol bod dydd!  Erbyn hyn pwrpas y cyfryngau cymdeithasol yw rhannu, dysgu, rhyngweithio a marchnata.  Ond i chi a fi, ei brif bwrpas yw cadw mewn cysylltiad gyda phobl.

Wrth edrych drwy un o’r sianelau sbel nôl, mi ddes i ar draws rhywbeth diddorol sydd wedi sbarduno’r Cornel Clecs diweddaraf yma.  Roedd yr erthygl, gan y Faithful Farming Family, yn canolbwyntio ar blant sy’n cael eu geni a’u magu ar fferm, a’r rhinweddau unigryw sy’n perthyn iddynt.

A dyma fi’n dechrau meddwl am hyn, ac wrth gwrs, mae’r esiampl berffaith o dan fy nhrwyn, Ladi Fach Tŷ Ni, sydd ag amaethyddiaeth yn rhedeg yn gryf trwy’i gwythiennau, a hynny o oedran ifanc iawn.  Felly pam bod plant fferm mor unigryw? Y peth pwysicaf yw bod y gwersi maent yn dysgu ar y fferm yn datblygu plant i fod yn oedolion anhygoel.

Pan fydd plentyn yn tyfu lan ar fferm, maent yn dysgu am ethneg gwaith. Mae gan bawb ei gyfrifoldeb ac amser penodol i gyflawni tasgu mewn modd effeithiol. Maent wedi dysgu o’i rhieni, a’r teulu estynedig, o doriad gwawr, i fachlud haul, a hynny heb gwyno oherwydd dyma’r unig ffordd o fyw sydd iddynt.

Mae plentyn yn dysgu am fywyd a marwolaeth o oedran ifanc iawn.  Gwylio oen bach yn cymryd ei gamau bregus cyntaf, a gweld y siom pan na fydd yr un oen yn goroesi am ba bynnag rheswm.  Mae colli un o’r anifeiliaid anwes yn brofiad amrwd iawn, ond buan iawn daw gobaith newydd yn y gwanwyn gyda’r holl fywyd newydd ar y fferm.

Mae’n bwysig dysgu am aberthau.  Yn aml iawn does dim llawer o gyfle i gael diwrnodau allan yn ystod gwyliau hanner tymor y gwanwyn gan fod angen gwylio’r wyna a’r lloia 24/7. Mae babis yr haf yn aml yn gorfod aberthu dathliadau pen-blwydd oherwydd bod angen gwneud y cynhaeaf.  Mae’n bosib bod y tadau sy’n godro yn gorfod colli dechrau cyngherddau ysgol gan fod nhw, yn aml, dechrau’n gynnar.  Mae’n rhaid i’r teulu cyfan aberthu weithiau.

Mae dychymyg byw gan blant y fferm.  Treulio oriau tu allan yn creu ac yn adeiladu campwaith allan o ddeunyddiau sbâr, a nabod clos y fferm fel cefn eu llaw.  Allan drwy’r dydd, bob dydd, ac yn sbario hanner awr brin i fynd mewn i’r tŷ i gael bwyd.

Oes, mae gan Ladi Fach Tŷ Ni agwedd iach tuag at waith, weithiau wedi gorfod dysgu colli’r oen bach swci oedd mor annwyl iddi, wedi gorfod aberthu rhywbeth rhywbryd - ond does dim ots yn y byd – mi ddaw cyfle eto, ac yn sicr, mae’r dychymyg yn fyw iawn!  Rwy’n teimlo’n ffodus iawn, mae dyma ffordd o fyw ein plentyn ni.  Efallai na fydd ganddi ffortiwn yn y banc, ond mi fydd ganddi, gobeithio, y rhinweddau pwysicaf mewn bywyd, a hynny diolch i’r fferm.

I gloi, holais i Ladi Fach Tŷ Ni, yw hi’n hoffi bod yn ferch fferm, a dyma’r ateb:-

“Ydw, ni fydden yn dewis unrhyw fywyd arall, rwy’n dwlu byw ar fferm, mae’n ffordd o fyw!”