“Lle mae’r brecwast?”

Ers blynyddoedd lawer bellach, mis Ionawr yw mis y brecwastau yma yn yr FUW.  Cyfle grêt i bobl ddod at ei gilydd o amgylch y bwrdd brecwast i sgwrsio ac i fwynhau cynnyrch lleol gorau ein ffermwyr gweithgar. Ond mi aeth un o’n haelodau o gangen Sir Gaernarfon, Rhiannon Jones, un cam ymhellach i sicrhau llwyddiant y brecwast yng Nghaffi Tŷ Newydd, Uwchmynydd.  Dyma Rhiannon i ddweud yr hanes:-

“Pan ofynnodd Gwynedd i mi drefnu'r brecwast eleni, doedd gen i wir ddim syniad be oedd o’m mlaen i! Cywilydd i mi ddeud na fuos i erioed mewn brecwast FUW fy hun o’r blaen. (Mi oeddwn i yn adnabod un oedd yn mynychu bob blwyddyn wedyn mi nes i ffonio i holi!!)

Wedi neud check list a chael bob dim yn ei le, wrth drafod, mi feddyliais i a fy ffrind ella sai’n syniad cael rhywfath o arwydd.

Roeddwn wedi dod ar draws baneri lliwgar trawiadol yn hysbysebu penblwyddi, ac wedi pysgota, mi ddois i ddeall eu bod yn cael eu creu gan ddisgyblion ysgol Glan y Môr, Pwllheli y nhw sydd yn cynllunio a chreu ac mae’r pres yn mynd at brynu adnoddau celf i ddisgyblion yr ysgol! Felly mi ofynnais yn garedig i’w hathrawes am faner ar y nos Sul at y dydd Mawrth!! Be well na chefnogi ysgol leol!

Y syniad oedd bod y faner yn tynnu sylw bobl o’r newydd at y brecwast ac yn arwain pawb arall y ffordd iawn i bellteroedd byd! A thaswn i yn gwbl onast ma gynnai fy mryd ar lwyddo a thybiwn y byddai’n hyrwyddo'r brecwast ymhellach ac efallai tynnu cynulleidfa newydd i’r dyfodol!

Roeddwn yn lwcus iawn o 6 ffrind a oedd yn barod i’n helpu ar y diwrnod, felly bûm yn pendroni am ffordd i ddiolch iddynt am eu trafferth, ac mi feddyliais am gynllunio ffedogau amryliw ar gyfer y diwrnod a’i fod yna fel atgof iddyn hwythau wedyn! Unwaith yn rhagor cefnogi busnes lleol o Bwllheli. Presant bach personol gen i, rhywbeth unigryw!

Mae’n debyg na llwyddo ar awch i godi hynny y gallwn i o bres tuag at y tair elusen oedd tu ôl i bob dim, dwi’n berson penderfynol a bob amser yn rhoi fy mryd ar lwyddo! Mae’n bleser pur gen i drefnu petha o’r fath, a gweld ffrwyth fy llafur yn diwadd.

Yn fuan iawn yn y bore fe ddaethom i sylweddoli ar yr elfen gymdeithasol o’r brecwast a’r mwyniant yr oedd bobl yn ei gael o weld hwn a llall! Bron fod rhai yn ei weld fel uchafbwynt yr wythnos a’i bod yn edrych ymlaen!

Braf oedd gweld cymaint o wynebau newydd a hen, a chael sgwrs efo hwn a llall! Byddai torri’r arferiad o frecwast blynyddol yn bechod mawr! Y teimlad yr oeddwn i yn ei gael ei fod yn arferiad i grwpiau o bobl, ac wedi edrych yn ôl ar luniau brecwast UAC roeddwn yn dod ar draws ambell i wyneb cyfarwydd, braf oedd gweld bobl yn mwynhau clonc dros damad bach!

Cefais bleser mawr o drefnu'r brecwast a balchder aruthrol o weld cwmnïau lleol mor gefnogol. Braf oedd cael codi cymaint o bres at elusennau teilwng iawn.  Diolch i chi am y cyfle yma!”.

Diolch i bobl fel Rhiannon, a nifer o wirfoddolwyr arall ymhob cwr o Gymru a fu’n brysur yn trefnu ac yn porthi’r pum mil, bu wythnos Brecwast FUW 2020 yn un llwyddiannus ac yn un i’w chofio.  Diolch byth am ymgyrchoedd cenedlaethol fel hyn i gadw’n cymunedau gwledig yn llawn cynnwrf!  Ymlaen at frecwastau 2021!