Penblwydd Hapus!

Pen-blwydd Hapus Sali Mali! Mae’r cymeriad plant poblogaidd yn dathlu ei phen-blwydd yn 50 oed ar Fehefin 19. Mae Gwasg Gomer sy’n berchen ar hawlfraint Sail Mali ynghanol pob math o drefniadau i ddathlu’r achlysur hwn. Mae’r llyfr Dathlu Gyda Sali Mali eisoes wedi cael ei gyhoeddi ac mae llyfr arall ar y gweill sef llyfr stori a llun, Straeon Nos Da Sali Mali. Ond rwy’n clywed chi’n gofyn, pam yn y byd mae Cornel Clecs yn sôn am Sali Mali?!  Wel, mae yna un rheswm arbennig, a hwnnw’n gysylltiad amaethyddol.  

Gyda dathliadau’r pen-blwydd arbennig ar y gorwel, cafodd Cornel Clecs gyfle i ddysgu mwy am hanes Pentre Bach, lle ffilmiwyd y gyfres deledu Pentre Bach, gyda Sali Mali’n serennu, a hynny diolch i’r perchnogion Adrian ac Ifana Savill sy’n aelodau o’r undeb yng Ngheredigion. Dyma Ifana i ddweud mwy wrthym:

“Busnes teuluol yw Pentre Bach. Mae adeiladau a chlwstwr o fythynnod y medrwch eu llogi wedi eu lleoli ar y fferm 50 cyfer sydd wedi bod yn y teulu ers sawl cenhedlaeth. Mae hefyd yn atyniad diwylliannol sydd yn croesawu tripiau ysgol, mentrau iaith a chymdeithasau ledled Cymru. 

“Mae Pentre Bach, sydd ym mhentref Blaenpennal, Ceredigion wedi ei leoli mewn ardal wledig brydferth a thawel iawn. Gellir gweld barcutiaid yn troelli yn yr awyr yn ddyddiol ac mae’r afon Aeron yn llifo drwy’r pentref ar ei ffordd i Aberaeron sydd ddim ond rhyw 12 milltir i ffwrdd.  

“Mae’r lleoliad, rhwng môr a mynydd go iawn gan fod y lle yn llythrennol wrth droed y Mynydd Bach (sef ‘calon Ceredigion’ yn ôl yr hanesydd Dr John Davies), yn gyforiog o hanes a chwedloniaeth, ac mae’r ardal ddiddorol hon wedi meithrin beirdd a llenorion o fri.

“Mae Pentre Bach yn lle hollol unigryw gan iddo gael ei greu ar gyfer lleoliad ffilmio gan S4C. Cefais fy nghomisiynu i ysgrifennu cyfres deledu i blant yn seiliedig ar y cymeriad bytholwyrdd a grëwyd gan Mary Vaughan Jones ac a ddarluniwyd mor gelfydd gan Rowena Wyn Jones sef Sali Mali. Ffilmiwyd yr 80 rhaglen ar y fferm deuluol ac mae’r rhaglenni i’w gweld ar y teledu yn wythnosol.

“Mae stori Pentre Bach yn dechrau gyda dynes o’r enw Mary Daniel a oedd yn berchen ar y bwthyn a adweinir fel Pistyll Gwyn. Roedd yn ffermio ac yn cadw siop yn y bwthyn a rhyw ffordd neu’i gilydd fe wnaeth ddigon o arian i ehangu’r busnes. Ym 1891 fe wnaeth adeiladu ffermdy mawr (sef Gwesty Pili Pala fel yr adweinir ef nawr) a siop newydd sbon ar gyfer ei mhab a thŷ llai ar gyfer ei hun ar y safle.

“Fel y soniwyd uchod, fe wnaeth hyn ar gyfer ei mhab, ond ar ôl ond dwy flynedd, cafodd y mab ddamwain angheuol a bu farw. Roedd Mary wedi colli ei phlant i gyd erbyn hyn a dyna sut gwnaeth fy nhad-cu, Daniel Morgan, a oedd yn nai i Mary etifeddu’r eiddo. 

“Mi wnaeth ef a’i wraig redeg busnes llewyrchus iawn gan gynnwys ffermio, cadw siop a llythyrdy. Fy nhad wnaeth gymryd drosodd a bu ef a mam, Ann Olwen yn gyfrifol am redeg y busnes sef y fferm a’r swyddfa bost nes i mam benderfynu ymddeol ym 1987 a hithau yn ei saithdegau erbyn hyn.

“Erbyn hyn roeddwn wedi ysgrifennu nifer o gyfresi teledu ar gyfer plant gan gynnwys ‘Sang-di-fang’ a ‘Caffi Sali Mali’. Pan ddaeth y gyfres hon i ben cefais syniad o greu lleoliad ffilmio parhaol i SaliMali a dyna sut y daeth y gyfres newydd sbon ‘Pentre Bach’ i fodolaeth. Bu tipyn o drafod rhwng y cynhyrchydd, Sian Teifi ac S4C ac yn y diwedd penderfynwyd ffilmio ar leoliad. Roedd angen i Adrian a minnau chwilio am safle addas. 

“Bu sawl safle dan ystyriaeth ond yna fe wnaeth ffawd chware rhan gan i ni sylweddoli fod y lleoliad perffaith ganddom yn barod sef y fferm deuluol. Roedd yn lle delfrydol i ffilmio’r gyfres, digon o adeiladau a hyd yn oed siop go iawn!

“Ond roedd angen cryn dipyn o waith er mwyn gwireddu’r freuddwyd hon. Roedd yn anferth o brosiect gan fod angen adfer yr hen adeiladau fferm i gyd. Roedd y rhestr yn un faith e.e. roedd angen caniatâd cynllunio, dargyfeirio llwybrau cyhoeddus, paratoi cynllun busnes credadwy ac yn y blaen. Rydym yn rhedeg y lle ers 2005 gyda help amhrisiadwy Rosa Tandy sydd wedi bod yma o’r cychwyn cyntaf.

“Mae Adrian wedi bod ynghlwm â’r byd amaethyddol ers dyddiau plentyndod pan wnaeth ei fam a’i dad symud i Gymru o Loegr, ond dilynodd yrfa yn y byd iechyd nes ymddeol yn 2004 er mwyn rhedeg Pentre Bach. Ond roedd ffermio yn bwysig iawn iddo drwy gydol yr amser a bu’n cadw gwartheg duon Cymreig trwy’r blynyddoedd, er ei fod yn gweithio oddi cartref yng Nghaerdydd ac Abertawe ac yn teithio’r byd gyda’i waith. Erbyn hyn defaid Cymreig sy’n mynd a’i fryd - y ‘welshod’ fel mae’n eu galw!”

Pan oedd Ladi Fach Tŷ Ni yn llai, roedd Pentre Bach yn rhan o’n rwtîn dyddiol ni, ac yn falch bod hi, a miloedd o blant Cymru wedi, ac yn parhau i gael eu hudo i hyfrydwch Pentre Bach. Ond, nid stori i’r plant yn unig sydd yma wrth gwrs, mae Adrian ac Ifana wedi llwyddo i gadw a chynnal uned amaethyddol ac wedi ei diogelu i’r dyfodol. Pob llwyddiant iddynt eto yn y dyfodol, ac os ydych yn yr ardal ewch draw am sgwrs a phaned, bydd croeso cynnes yn eich aros.  Pwy a ŵyr, efallai bydd Sali Mali yn y caffi i’ch croesawu hefyd!
Am ragor o fanylion am lyfrau Sali Mali ac am y dathlu, ewch i www.gomer.co.uk

www.pentrebach.org / This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. / 01974 251676