Defaid, defaid, a mwy o ddefaid!

gan Angharad Evans, Golygydd y Gymraeg, Y Tir

Ar ôl tymor wyna prysur, byddai unrhyw un yn meddwl ein bod ni wedi syrffedi gweld defaid!  Ond mae’r dywediad Saesneg “live and breathe” yn berthnasol i ni lle mae defaid yn y cwestiwn!  Ar ddechrau gwyliau’r Pasg a ninnau yn Aberystwyth am fore, daethom ar draws arddangosfa “DEFAID” sy’n cael ei chynnal yn Amgueddfa Ceredigion hyd nes Mehefin 29.  Roedd rhaid mynd mewn am sbec!

Mae’r arddangosfa’n llawn ffotograffau, propiau, ffilmiau a gwaith celf, a’r cyfan yn canolbwyntio ar un o anifeiliaid mwyaf poblogaidd ac arwyddocaol amaethyddiaeth Cymru sef y ddafad.

Cafodd Cornel Clecs gyfle i holi Alice Briggs, Curadur Cynorthwyol yr amgueddfa am ychydig o hanes yr arddangosfa:-

“Mae ‘DEFAID’ yn sgwrs ynglŷn â thirwedd ucheldir Canolbarth Cymru. Mae’r arddangosfa hon yn rhan o’r dadleuon cyfredol ynghylch tirwedd yr ucheldir sy’n newid, ac yn archwilio hanes, treftadaeth a diwylliant Ceredigion fel cymuned ffermio defaid. Trafodwn y syniadau hyn trwy weithiau celf ac arteffactau o gasgliad yr amgueddfa, celf a fenthycwyd o gasgliad TATE a gwaith gan artistiaid sy’n byw o fewn Cymru wledig heddiw.

Mae sgyrsiau pwysig yn cael eu cynnal yng Nghymru yn lleol ac yn genedlaethol ynglŷn â ffyrdd o ddefnyddio’r tir. Fel amgueddfa sirol sydd â chasgliad sylweddol sy’n cynrychioli treftadaeth amaethyddol draddodiadol Ceredigion, teimlwn gyfrifoldeb i ymuno yn y sgwrs gyda’n cymunedau am ein dyfodol. Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith yn yr arddangosfa yn darlunio defaid mewn rhyw ffordd, neu’r tir a’r bobl sy’n cefnogi ffermio defaid,” dywedodd Alice.

Un elfen ddiddorol o’r arddangosfa yw’r ffilmiau byr.  Y ddwy ffilm gafodd gryn argraff arnaf oedd ‘Dai a Nancy’ o waith Short & Forward, sef Louise Short a Alice Forward sy’n olrhain hanes teimladwy dau ffermwr defaid yn eu hwythdegau ym Mhonterwyd a Chwmrheidol.  Yr ail ffilm yw ‘Ni yw’r Ddiadell’ o dan arweiniad Ffion Jones, artist, darlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yn ffermio ei hun.  Mae’r ffilm yn cynnwys cyfweliadau â deg ffermwr o’r ardal leol. Mae ei chwestiynau, gan gynnwys “Beth mae defaid yn eu golygu i chi?” yn tynnu sylw at y berthynas sydd gan ffermwyr gyda’u preiddiau.  Roedd oedrannau’r ffermwyr yn amrywio o’r to hyn i’r genhedlaeth nesaf a diddorol oedd clywed eu dealltwriaeth unigryw o ddefaid sydd wedi datblygu dros y blynyddoedd.

Mae gwaith y ffotograffydd Marian Delyth yn cael lle amlwg yn yr arddangosfa ac yn dangos cipolwg o fart Tregaron, bywyd amaethyddol Ynys Enlli a chymuned y Mynydd Bach lle treuliodd flwyddyn yn tynnu lluniau o’r tirlun, y cymeriadau, a’r digwyddiadau diwylliannol a chrefyddol i greu 100 llun digidol o dan y teitl ‘Milltir Sgwâr’.

Mae’r ffordd y mae’r arddangosfa wedi cael ei gosod allan yn unigryw, ac yn plethu mewn gyda gweddill arddangosfeydd parhaol yr amgueddfa, ac mae naws naturiol y colisewm i’w deimlo drwyddi draw.

Felly os mae lluniau, propiau, cerfluniau neu ffilmiau yw eich diddordeb, mae yna sicr rhywbeth at ddant pawb i’w mwynhau yn yr arddangosfa hon.  Mae’n llwyddo i ddangos pwysigrwydd defaid ymhob agwedd o gefn gwlad, boed hynny’n dirwedd, hanes, diwylliant ond yn bwysicaf oll, y bobl.  Mae yna gylch yn bodoli sy’n cysylltu pobl a defaid gyda’i gilydd - ni all y ddau beth fodoli heb y llall, a tra bod yna bobl, bydd yna ddefaid ac yn sicrhau dyfodol i’n hucheldir a dyfodol i’r genhedlaeth nesaf.