UAC yn galw ar Lywodraethau’r DU i daclo pum maes allweddol i liniaru sefyllfa defnyddwyr a sicrhau diogelwch ein cyflenwadau bwyd ac ynni

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi lansio ‘cynllun pum pwynt’ y dylai Llywodraethau’r DU ei roi ar waith, ym marn yr Undeb, i daclo effeithiau rhyfel Wcráin a ffactorau eraill ar ffermwyr, cynhyrchwyr bwyd a defnyddwyr.

Mae rhyfel Rwsia yn erbyn Wcráin wedi gwaethygu effeithiau parhaus y pandemig a Brexit, gan roi pwysau economaidd mawr ar ddefnyddwyr a busnesau a chreu argyfwng bwyd byd-eang.

Mi fydd llawer o’r dylanwadau byd-eang sy’n effeithio ar gynhyrchwyr a defnyddwyr ar hyn y bryd tu hwnt i reolaeth Llywodraethau’r DU, ond mae yna, serch hynny, bosibilrwydd o gymryd camau sylweddol a fydd yn rhoi ystyriaeth go iawn i fuddiannau hirdymor ffermwyr, gan helpu hefyd dros y tymor byr.

Wrth i gyrff byd-eang fel y Cenhedloedd Unedig, y Gronfa Arian Ryngwladol a Banc y Byd barhau i rybuddio am brinder bwyd byd-eang, y prisiau bwyd uchaf erioed, a ffactorau eraill a fydd yn arwain at newyn ac ansefydlogrwydd gwleidyddol, proffwydir y bydd chwyddiant prisiau bwyd yn y DU yn cyrraedd 15%, gyda chwyddiant costau cynhyrchu i ffermwyr y DU yn agos at 30%.

Mae dibyniaeth y DU ar wledydd eraill am fwyd wedi dyblu bron ers canol yr 1980au, gyda 40% o fwyd y DU yn cael ei allforio erbyn hyn, o’i gymharu â thua 22% ar ganol yr 1980au.

Yn ystod yr un cyfnod, mae dibyniaeth y DU ar fewnforion ‘bwydydd cynhenid’ y gellir eu cynhyrchu yn y DU wedi cynyddu pum gwaith, o 5% i 25%.

Serch bod yn llai dibynnol ar Rwsia am danwydd na gwledydd eraill, mae prisiau tanwydd y DU yn dal i fod ymhlith yr uchaf yn Ewrop.  Mae hyn ar adeg pan mae incwm gwario’r DU wedi cwympo’n ddramatig ers 2007 o’i gymharu ag un economïau Ewropeaidd tebyg.

Trwy gydol Sioe Frenhinol Cymru, bu UAC yn tanlinellu polisïau mewn cynllun pum pwynt y dylai’r Prif Weinidog newydd a Llywodraethau’r DU ei roi ar waith, ym marn yr Undeb, i liniaru’r pwysau ar ffermwyr, cynhyrchwyr bwyd a defnyddwyr yn y dyfodol agos, gan ddiogelu cyflenwadau bwyd ac ynni’r DU mewn ffyrdd sy’n lleihau peryglon hirdymor bod yn agored i argyfyngau byd-eang.

Yn gyntaf, mae angen ail-osod y polisi masnach ryngwladol.

Mae Llywodraeth y DU wrthi’n ceisio ffurfio cytundebau masnach rydd â gwledydd pell, a fydd, yn ôl ei ffigurau ei hun, yn tanseilio diogelwch cyflenwad bwyd y DU tra’n dod â buddiannau pitw i economi’r DU.  

Daeth yn amser rhoi diogelwch ein cyflenwad bwyd wrth wraidd penderfyniadau polisi.

Mae ail bwynt y cynllun yn pwysleisio’r angen i adfer perthnasoedd da â gwledydd sy’n gymdogion agosaf i’r DU, y mwyafrif ohonynt yn aelodau o’r UE ac yn aelodau o’r bartneriaeth fasnachu fwyaf sefydlog yn y byd.

Yn drydydd, mae angen chwyldro o ran ynni adnewyddadwy.

Mae dibyniaeth a chysylltiad annatod y DU â marchnadoedd tanwydd ffosil byd-eang wedi dod i’r amlwg yn sgil effeithiau’r pandemig a rhyfel Rwsia yn erbyn Wcráin.  

Cynhyrchir meintiau enfawr o ynni adnewyddadwy ar dir ffermio yng Nghymru, ond mae modd gwneud llawer mwy.  Mae cynhyrchu ynni gyda thanwydd ffosil yn ail i fusnes yn unig yn nhermau cyfraniadau Cymru tuag at allyriadau nwyon tŷ gwydr, ac mae’n ail gyfrannwr uchaf yn y DU, gyda thrafnidiaeth ar y brig.

Rhaid i Lywodraethau’r DU gynyddu eu hymdrechion i adfer y twf enfawr a welwyd yn y diwydiant dros y ddegawd ddiwethaf, drwy gynnig cymhelliad i gynhyrchu ynni adnewyddadwy ar ffermydd, a chael gwared â’r rhwystrau heb danseilio’r gallu i gynhyrchu bwyd.

Mae pedwerydd pwynt y cynllun yn tanlinellu’r angen i ail-feddwl polisïau amaethyddol a gwledig domestig er mwyn hybu diogelwch ein cyflenwad bwyd, drwy warchod ffermydd teuluol a chynhyrchwyr bwyd sy’n ganolog i gadwyni cyflenwi bwyd y DU.

Mae ymadawiad y DU â’r UE wedi arwain at Lywodraeth y DU yn gwario cannoedd o filiynau’n llai ar fwyd ac amaethyddiaeth, gan fygwth diogelwch cyflenwad bwyd y DU drwy danseilio busnesau fferm, a’r miloedd o fusnesau a swyddi i fyny ac i lawr y gadwyn sy’n dibynnu ar gynnyrch ffermydd.  

Yn y cyfamser, mae newid ffocws polisïau amaethyddol i ganolbwyntio ar faterion amgylcheddol yn bygwth tynnu’r sylw oddi ar bwysigrwydd cynnal ein gallu i gynhyrchu bwyd.

Dylai diogelu ffermydd teuluol a chynhyrchwyr bwyd sy’n ganolog i gadwyni cyflenwi bwyd y DU fod yn amcan craidd i unrhyw bolisïau amaethyddol yn y dyfodol, a dylai gael statws cyfartal ag amcanion amgylcheddol.

Mae pumed pwynt y cynllun yn tanlinellu’r angen i ddarparu cymorth ariannol i ddiwydiannau hanfodol.

Mae gwledydd ar draws yr UE wedi cyhoeddi pecynnau cymorth gwerth cannoedd o filiynau i gefnogi busnesau sy’n dioddef wrth i brisiau fynd trwy’r to, ac i hybu ac atgyfnerthu’r gallu i gynhyrchu bwyd.  

I ddiogelu’r gallu i greu cynnyrch domestig, rhaid i Lywodraethau’r DU weithredu nawr i roi yr un statws i ffermwyr y DU â ffermwyr yr UE, sy’n derbyn cyllid i wneud iawn am y cynnydd enfawr yng nghostau cynhyrchu bwyd, a dylent liniaru’r pwysau ar y gadwyn cyflenwi bwyd drwy ddarparu cymorth ariannol uniongyrchol a gostyngiadau treth i ddiwydiannau perthynol  hanfodol mewn perthynas â chynhyrchu bwyd a diogelwch cyflenwad bwyd y DU.