Cynlluniau drafft UAC ar gyfer Grwpiau Diwydiant TB yn dilyn Datganiad y Gweinidog

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi ailadrodd ei galwad i sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar gyfer y diwydiant i archwilio Prynu Gwybodus yn ogystal â dyfodol taliadau Iawndal TB Gwartheg, yn sgil cyhoeddi datganiad y Gweinidog Materion Gwledig am y rhaglen i ddileu TB.

Ymhlith y cynlluniau TB newydd a amlinellwyd yn y datganiad y mae polisïau a allai weld defnydd o brofwyr lleyg ar gyfer profion TB, darparu gwybodaeth TB orfodol yn y man gwerthu, a newidiadau sylweddol i’r ffordd y telir iawndal TB.

Mae UAC yn falch bod nifer o’r pryderon a godwyd yn ymateb 27 tudalen yr Undeb i’r Rhaglen Ddiwygiedig i Ddileu TB wedi cael gwrandawiad gan Lywodraeth Cymru.  Mae’r Undeb, dro ar ôl tro, wedi galw am gynnwys y diwydiant yn nyfodol y polisïau iawndal TB a Phrynu Gwybodus, ac felly mae datganiad y Gweinidog y bydd yna drafodaeth bellach gyda’r diwydiant ar y materion pwysig hyn i’w groesawu.

Fodd bynnag, mae UAC yn nodi gyda rhwystredigaeth y gosodiad yn y datganiad mai’r cynnig ar gyfer grŵp ardoll dan arweiniad y diwydiant ‘a ddenodd y mwyaf o gefnogaeth’ fel cynllun iawndal TB yn y dyfodol.

O ystyried bod nifer fawr o’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn dod o du sefydliadau ac unigolion nad ydynt yn ffermio, mae’n siom nad yw’r Gweinidog wedi nodi’r gwahaniaeth ym mhwysigrwydd cymharol pob un o’r ymatebion.  Mae un ymateb gan UAC yn cynrychioli miloedd o ffermwyr ac yn cynrychioli’n uniongyrchol y rhai fydd yn cael eu heffeithio gan unrhyw newid i’r drefn taliadau, ac ni ddylid ei ystyried fel un ymateb yn unig.  Byddai UAC yn cwestiynu felly faint o’r rhai a ymatebodd o blaid ardoll ar gyfer y diwydiant fyddai’n gyfrifol am dalu ardoll o’r fath mewn gwirionedd.

Wrth ymateb i’r ymgynghoriad, mynegodd UAC yn glir y byddai unrhyw gynigion i sefydlu grŵp ardoll ar gyfer y diwydiant mewn perthynas ag iawndal TB hefyd yn gofyn bod gan y grŵp rôl bwrpasol ac ystyrlon o ran y polisi dileu TB yn y dyfodol.

Cyfeiriodd yr ymgynghoriad at sefydlu grŵp ardoll tebyg i Fwrdd Iechyd Anifeiliaid Seland Newydd fel ffordd ymlaen o bosib.  Fodd bynnag, roedd Bwrdd Seland Newydd hefyd yn gyfrifol am roi’r Rhaglen Rheoli Plâu Genedlaethol ar waith, a oedd yn sicrhau bod ffynonellau bywyd gwyllt TB heintiedig yn cael eu trin yn briodol.

Ni all UAC gefnogi cynllun yn y dyfodol sy’n dewis a dethol o blith strategaethau sy’n bodoli mewn mannau eraill, a hynny mewn ffordd sy’n gosod y baich, cost a chyfrifoldeb mwyaf ar geidwaid gwartheg, sy’n parhau i fod heb unrhyw bŵer i warchod eu busnesau rhag ffyrdd eraill o ledaenu’r clefyd.

Nid yw’r lefel bresennol o gystadleuaeth ar gyfer stoc sydd wedi’i ddifa hyd yn oed yn cynnwys y costau ychwanegol a wynebir, megis colli refeniw, cynhyrchu llai o laeth, colli llinellau bridio, oedi cyn ail-stocio a chyfyngiadau ar symud anifeiliaid.  Gall y colledion canlyniadol hyn a ddioddefir gan gynhyrchwr y mae ei anifeiliaid yn cael eu prynu’n orfodol fod yn sylweddol, ac weithiau’n ddegau o filoedd o bunnau.  Mae’n hanfodol felly bod cynlluniau taliadau yn y dyfodol yn talu’n briodol am stoc sy’n cael ei ddifa’n orfodol.

Roedd datganiad y Gweinidog hefyd yn cynnwys cydnabyddiaeth o’r angen i barhau i archwilio Prynu Gwybodus a’i ganlyniadau posib, a chydnabyddiaeth o’r angen am weithredu cydgysylltiedig â Defra i osgoi problemau masnachu trawsffiniol.

Nid yw UAC yn erbyn yr egwyddor o fasnachu seiliedig ar risg, ond mae’n dal i fod yn bryderus am gynigion a all, os na chânt eu hystyried yn iawn, fod yn rhy fras i fod yn ddefnyddiol neu’n rhy dechnegol i’w defnyddio.  Rhaid i drafodaethau ynghylch masnachu seiliedig ar risg felly gydnabod y cydbwysedd rhwng yr angen am wybodaeth, y baich o grynhoi gwybodaeth o’r fath, a’r effeithiau andwyol canlyniadol ar rai buchesi.

Yn ei hymateb i’r ymgynghoriad diweddaraf ar y Rhaglen Ddiwygiedig i Ddileu TB, pwysleisiodd UAC y gallai methu â chydweithredu ar y mater hwn ledled Prydain olygu bod gwartheg yn cael eu symud dros bellteroedd uwch i arwerthiannau sy’n cynnig y fantais orau wrth werthu stoc risg uwch.

Bydd unrhyw ddiffyg Prynu Gwybodus ar lefel Prydain Fawr yn ddiamau yn arwain at gau marchnadoedd lleol, wrth i geidwaid gwartheg sydd wedi’u heffeithio ddewis gwerthu’u stoc dos y ffin, ac mae UAC yn croesawu’r gydnabyddiaeth gan y Gweinidog felly bod angen mabwysiadu agwedd drawsffiniol ar gyfer Prynu Gwybodus, i sicrhau bod yr amodau yr un fath i bawb.

O ran ei union natur, mae Masnachu Seiliedig ar Risg yn datbrisio ac yn gwahaniaethu yn erbyn peth stoc, a disgwylir y bydd hyn yn gyrru’r prisiau i lawr yn sylweddol i rai ceidwaid gwartheg.  Mae UAC felly’n croesawu’r cyfle i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar y meini prawf i’w cynnwys o fewn polisïau o’r fath.

Ni fydd systemau dosbarthiad risg yn gweithio oni bai bod pob ffynhonnell bosib o TB gwartheg, gan gynnwys bywyd gwyllt, yn cael sylw priodol.  Gall gwybodaeth orfodol yn y man gwerthu olygu bod ceidwaid gwartheg sydd wedi cadw at yr holl reoliadau, wedi rhoi bioddiogelwch da ar waith, ac wedi sicrhau ymarfer prynu da, yn cael eu rhoi dan anfantais.  Bydd ceidwaid o’r fath yn dioddef yn sgil system nad yw’n eu gwarchod rhag TB, ond sy’n eu cosbi unwaith bod yna achos ohono.

Bydd UAC felly’n cyflwyno ei chynigion i sefydlu grŵp diwydiant ar y materion polisi pwysig hyn i’r Gweinidog yn fuan, ac mae’n edrych ymlaen at drafodaethau pellach, gyda’r bwriad o ganfod ffordd ymlaen sy’n ymarferol ac yn ystyrlon, ac sydd er budd pennaf ffermwyr a gwartheg fel ei gilydd.