Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi ei chynigion Cynllun Ffermio Cynaliadwy diweddaraf ac yn agor cam nesaf y cyd-ddylunio

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei chynigion diweddaraf ar gyfer Cynllun Ffermio Cynaliadwy yng Nghymru o 2025 ymlaen.

Bydd y ddogfen – sydd i’w gweld yma – yn ffurfio sail cam nesaf y cyd-ddylunio a agorodd ar gyfer cofrestru ar 6ed Gorffennaf 2022.

Mae UAC o’r farn bod y cynigion ‘ar y trywydd iawn’ ond mae pryderon o hyd ynghylch rhai o’r manylion.  Serch hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau bras ymlaen ac erbyn hyn mae ganddi fframwaith cyffredinol sy’n ddigon tebyg i’r hyn mae’r Undeb wedi’i gynnig. 

Mae hyn yn cynnwys ‘taliad sylfaenol’ ar gyfer gweithredu cyffredinol, a fydd yn berthnasol i bob fferm sy’n rhan o’r cynllun, gyda’r opsiwn o weithredu ar lefel uwch, a fyddai’n denu taliadau pellach, fel y byddai gweithredu ar y cyd hefyd.

Fodd bynnag, mae yna rai awgrymiadau sy’n peri pryder mewn perthynas â’r gweithredu cyffredinol, a fyddai’n ymarferol ac o fewn cyrraedd rhai ffermwyr, ond nid felly gyda nifer fawr o ffermwyr eraill.

Anogir aelodau UAC i drafod y cynigion gyda’u Pwyllgorau Gweithredol Sirol ac i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru i gyd-ddylunio’r broses.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yma: https://llyw.cymru/cynllun-ffermio-cynaliadwy-canllaw