Awdurdodiad Brys i Asulam ar gyfer tymor 2022

 Cyhoeddwyd Awdurdodiad Brys i ganiatáu defnydd o Asulox i reoli rhedyn ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn ystod tymor 2022 o 1af Gorffennaf.

  • I leihau’r effaith ar adar sy’n magu, lle bo modd, dylid ei ddefnyddio ar ôl 1af Awst, neu mor hwyr yng Ngorffennaf â phosib.
  • I warchod mamaliaid, ni chaniateir ei ddefnyddio lle gwyddys bod y pathew gwinau’n bridio.
  • Mae gwasgaru o’r awyr wedi’i awdurdodi ar yr amod bod yna drwydded chwistrellu o’r awyr; bydd y rheolydd yn darparu templedi ffurflenni cais.
  • Mae gwasgaru dros y tir wedi’i awdurdodi ar gyfer ardaloedd cadwraeth yn unig, sydd â dynodiad cadwraeth statudol.
  • Does dim newid i’r parthau clustogi lle na chaniateir chwistrellu a nodwyd mewn awdurdodiadau blaenorol.

Dylai holl ddefnyddwyr Asulam nodi’r gofyniad i gofnodi sut, pryd a ble y defnyddiwyd yr Asulam, a dylid cadw unrhyw stoc allan o ardaloedd sydd wedi’u trin am fis ar ôl gwasgaru, i atal gweddillion rhag mynd i mewn i’r gadwyn fwyd.

Dyddiadau allweddol ar gyfer 2022:

  • 21ain Mehefin 2022 – Dechrau cyfnod yr Awdurdodiad Brys.  Awdurdodi storio, hyrwyddo, gwerthu a throsglwyddo.
  • 1af Gorffennaf 2022 – gellir dechrau defnyddio Asulam
  • 12fed Medi 2022 – Dyddiau cau ar gyfer gwerthu a dosbarthu stoc.  Gellir parhau i storio neu gael gwared â stoc.  Dim defnyddio ar ôl 12fed Medi.
  • 28ain Hydref 2022 - Dyddiad cau ar gyfer storio a chael gwared â stoc.

Gellir lawrlwytho ffurflenni cofnodi a gwybodaeth bellach ar-lein drwy ddefnyddio’r ddolen isod https://www.brackencontrol.co.uk/asulam