Trwyddedau Cyffredinol newydd ar gyfer rheoli adar gwyllt yn dod i rym

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi’r pedair Trwydded Gyffredinol newydd ar gyfer rheoli adar gwyllt, a ddaeth i rym ar 1af Gorffennaf 2022.

Ceir rhestr lawn o’r Trwyddedau Cyffredinol yma sy’n cynnwys:

  • GL001 – Trwydded i ladd neu gymryd adar gwyllt neu ddinistrio neu fynd â’u nythod neu wyau at ddibenion atal difrod difrifol, neu i atal clefydau rhag lledaenu i dda byw, porthiant da byw, cnydau, llysiau neu ffrwythau.  Sylwer y matrics diben mewn perthynas â’r rhywogaeth sydd wedi’i gynnwys yn y drwydded, sy’n cyfyngu’r mesurau rheoli trwy ladd o’u cymharu â’r drwydded gyffredinol bresennol.  
  • GL002 - Trwydded i ladd neu gymryd colomen wyllt neu ddinistrio’i nyth a’i hwyau at ddibenion diogelu iechyd y cyhoedd, diogelwch cyhoeddus, neu i atal clefydau rhag lledaenu.
  • GL004 – Trwydded i ladd neu gymryd  brain tyddyn neu ddinistrio neu fynd â’u nythod neu wyau at ddibenion gwarchod adar gwyllt.  Sylwer nad yw’r Bioden, Sgrech y Coed a Jac-y-do wedi’u cynnwys yn y drwydded bresennol.  Ni chafodd y Bioden ei chynnwys yn y drwydded gyffredinol serch tystiolaeth sy’n dangos nad yw’r Bioden dan fygythiad, a’i bod yn fygythiad i fathau eraill o adar gwyllt.
  • GL005 - Trwydded i ladd neu gymryd yr hwyaden goch neu ddinistrio neu gymryd ei nyth neu wyau er mwyn gwarchod adar gwyllt.