Dyddiadau ffenestri mynegi diddordeb Mehefin 2022

Cynllun

Crynodeb

Dyddiadau ffenestri

Llacio Rheolau Glastir

Gall unrhyw ffermwr sy’n cael anhawster cwrdd â gofynion ei gontract Glastir ofyn am lacio’r rheolau, gan ddefnyddio’i gyfrif RPW Ar-lein.


Gellir gwneud cais i lacio’r rheolau ar unrhyw opsiwn o fewn contract Glastir ac ystyrir y ceisiadau fesul achos.


Dylid darparu manylion yr opsiwn a rhif y cae, ynghyd â chymaint o wybodaeth â phosib ynghylch yr amgylchiadau sydd wedi arwain at y cais.  Gall fod angen dogfennau ategol mewn rhai amgylchiadau, yn dibynnu ar natur y cais.


FODD BYNNAG, fel mae pethau’n sefyll ar hyn o bryd, bydd yn rhaid fforffedu’r taliad perthnasol ar y parsel tir dan sylw.

 

Cynllun Cynllunio Creu Coetir

Mae’r Cynllun Cynllunio Creu Coetir yn cynnig grantiau o rhwng £1000 a £5000 i ddatblygu cynlluniau i greu coetir newydd.


Ar ôl i gynllun gael ei gymeradwyo gan Cyfoeth Naturiol Cymru mi fydd yn gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i blannu coed.


Mae gwybodaeth bellach ar gael yma 


Mae dyluniad y cynllun yn seiliedig ar y cynllun peilot a gynhaliwyd y llynedd.  Bydd y cynllun ar agor trwy’r flwyddyn (yn amodol ar gyllideb), gyda cheisiadau’n cael eu dethol bob 6 wythnos.


Bydd cyllid ar gyfer creu coetir ar gael o Awst 2022, gyda ffenestri’n agor bob 3 mis o hynny ymlaen (yn amodol ar gyllideb).

Ar agor tan 31ain Rhagfyr 2022

Grantiau Bach - Effeithlonrwydd

Cynllun i gefnogi buddsoddiad mewn offer a thechnoleg newydd i wella perfformiad technegol, ariannol ac amgylcheddol busnesau fferm.


Mae hwn yn debyg i’r cynllun Grant Busnes i Ffermydd.


Mae’r isafswm grant wedi’i ostwng i £1,000 a’r uchafswm yw £12,000. Ni fydd cymryd rhan eisoes yn y Grant Busnes i Ffermydd yn effeithio ar gymhwysedd.  Mae uchafswm cyfraniad o 40% ar gael yn erbyn costau go iawn a anfonebwyd.  Cafodd prisiau eu diweddaru a’u cymeradwyo ar ddiwedd Mawrth.


Bydd mwy o wybodaeth ar gael ar RPW Ar-lein maes o law.  Mae gan y ffenestr hon gyllideb ddangosol o £5m

18fed Mai – 29ain Mehefin 2022

Grantiau Bach - Amgylchedd

Cynllun i gefnogi amrywiaeth eang o ymyriadau rheoli tir a darparu cymorth cyfalaf ar gyfer gwelliannau amgylcheddol ar y fferm, i wella ansawdd adnoddau naturiol Cymru.


Mae hwn yn cyfateb i’r cynllun Grantiau Bach Glastir cynt.  Mae’n gynllun annibynnol sy’n darparu uchafswm o £7,500 fesul ffenestr ar gyfer Prosiectau Gwaith Cyfalaf.  Bydd y rownd hon yn ymwneud â’r thema Dŵr.  Ni fydd parseli tir sydd eisoes dan gytundebau Glastir yn gymwys.  Y gyllideb ddangosol ar gyfer y ffenestr hon yw £3m.

Mae gwybodaeth bellach ar gael yma 

23ain Mai – 1af Gorffennaf 2022

Grantiau Bach – Dechrau Busnes Garddwriaeth

Cynllun i gefnogi rhai sy’n sefydlu mentrau garddwriaeth masnachol newydd.  Y grant sydd ar gael i bob ymgeisydd yw £3,000, a ddyfarnir ar ffurf cyfalaf gweithio.  Y gyllideb ddangosol ar gyfer y ffenestr hon yw £300,000.

Mae gwybodaeth bellach ar gael yma 

25ain Mai – 29ain Mehefin 2022

Grantiau Bach – Tyfu ar gyfer yr Amgylchedd

Cynllun peilot yn annog tyfu cnydau a phorfeydd i ddarparu budd amgylcheddol megis cnydau protein, gwndwn cymysg a chnydau gorchudd er budd yr amgylchedd, bioamrywiaeth a chynhyrchu.


Bydd y ffenestr gyntaf wedi’i chyfyngu i sefydlu cnwd gorchudd heb ei chwistrellu ar ôl cynaeafu grawnfwyd neu india-corn yn yr hydref.  Bydd ffenestr newydd ar gyfer plannu yng ngwanwyn 2023 yn agor yn yr hydref.


Cadarnhad a manylion pellach i ddilyn. 

(Hau Hydref)
20 Mehefin - 29 Gorffennaf 2022

Ail ffenestr

24 Awst - 5 Hydref 2022

Grantiau Bach – Gorchuddio Iardiau

Cynllun i ddarparu cymorth drwy grantiau cyfalaf i wella rheolaeth o faetholion drwy fuddsoddi i orchuddio seilwaith presennol iard y fferm.

27 Mehefin - 5 Awst 2022

Y Cynllun Troi’n Organig

Cynllun i helpu ffermwyr i newid i systemau cynhyrchu organig.  Ceir un ffenestr mynegi diddordeb yn unig.


Bydd y cynllun yn cynnwys taliad newid dwy flynedd.  Bydd y cyfraddau talu’n seiliedig ar y defnydd tir a’r system gynhyrchu presennol.


Rhaid cynnwys  Rhif y Daliad (CPH) cyfan ac mae cyfanswm ymrwymiad o bum mlynedd o reolaeth organig yn ofynnol.

18 Gorffennaf - 26 Awst 2022

Y Cynllun Buddsoddi Mewn Rheoli Maethynnau

Cynllun i ddarparu cymorth drwy grantiau cyfalaf i fuddsoddi mewn seilwaith i wella dulliau o reoli a storio maethynnau ar y fferm.

4 Gorffennaf - 12 Awst 2022

Creu (Plannu) Coetir

Cynllun i gefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i greu Coedwig Genedlaethol i Gymru.

Agor yn Awst 2022 

Cyfoeth Naturiol Cymru – Cyllid Grant ar gyfer Mawndiroedd

Mae grantiau datblygu cyfalaf o rhwng £10,000 a £30,000 ar gael i adfer cynefinoedd a gollwyd a gwella cyflwr mawndiroedd Cymru. 


Bydd y grant datblygu yn galluogi unigolion a sefydliadau i:

  • ystyried a yw eu prosiect adfer mawndir yn ddichonadwy
  • datblygu prosiect adfer mawndir wedi’i gostio erbyn mis Ebrill 2023 y mae siawns realistig o’i gyflawni
  • casglu'r wybodaeth y bydd ei hangen arnynt i wneud cais am rowndiau cyllid grant ar gyfer cyflawni yn y dyfodol.


Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.

4ydd Ebrill – 4ydd Gorffennaf  2022 

Y Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG)

Mae’r cynllun yn agored unwaith eto i berchnogion a rheolwyr tir, gan gynnwys sefydliadau nid-er-elw.  Bydd yn rhoi cymorth i bobl i greu coetiroedd newydd a/neu wella ac ehangu coetiroedd presennol.


Grantiau o £40,000 i £250,000 a hyd at 100% o arian cyfalaf a refeniw.


Mae manylion llawn ar gael yma.


Bwriedir cael rowndiau pellach yn nes ymlaen yn  2022 a 2023.

Cau 15fed Gorffennaf 2022

PWYSIG

Ni fydd unrhyw estyniadau i’r dyddiadau cau ar gyfer hawlio unrhyw un o’r cynlluniau uchod oherwydd y cyfyngiadau ar ddyrannu cyllideb.  O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru’n caniatáu i bobl  archebu eitemau unwaith y byddant wedi derbyn cynnig o gontract, a chyn derbyn y contract.

Maent yn cynghori pobl i archebu, neu o leiaf i wneud ymholiadau yn ystod y cyfnod hwn i sicrhau bod eitemau’n cael eu dosbarthu mewn pryd neu’r gwaith yn cael ei gwblhau o fewn yr amserlen.  Os na ellir gwneud hynny, a bod tystiolaeth ysgrifenedig yn cael ei darparu i gadarnhau’r rhesymau pam, gall ymgeiswyr dynnu’n ôl o’r cynllun ac ni fyddant yn cael eu heithrio o rowndiau yn y dyfodol.

Os byddant yn derbyn y contract ac yna’n methu â bodloni’r amodau o fewn yr amserlen berthnasol, mi allant gael eu heithrio o rowndiau’r cynllun yn y dyfodol.