Diogelu’r Cyflenwad Bwyd yn uchel ar agenda’r UE

Mae ymosodiad Rwsia ar Wcráin wedi cael effaith ar gynnyrch amaethyddol a’r cyflenwad bwyd ledled y DU, gan gynnwys costau uwch ac argaeledd mewnbynnau.

I ymdopi â’r argyfwng hwn, mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi gofyn i aelod-wladwriaethau i addasu cynlluniau strategol cenedlaethol eu Polisi Amaethyddol Cyffredin, gan roi ystyriaeth i effeithiau parhaus y rhyfel.

Mae’r Comisiynydd Amaeth Janusz Wojciechowski hefyd wedi dweud bod yn rhaid i’r UE gynhyrchu mwy o fwyd yng ngoleuni’r rhyfel yn Wcráin.

Mae gwledydd wedi’u hannog i lacio’r rheolau mewn perthynas â mesurau amgylcheddol y PAC, gan gynnwys llacio’n neilltuol y rheolau ar blannu cnydau mewn ardaloedd ecolegol sensitif.

Mae UAC hefyd wedi annog Llywodraeth Cymru i lacio rheolau Glastir i alluogi ffermydd i dyfu a chynhyrchu cymaint o gnydau a phorthiant â phosib eleni.

Mae nifer o wladwriaethau’r UE wedi cyhoeddi cynlluniau i gefnogi eu ffermwyr yn sgil pwysau’r argyfwng presennol. Mae Gwlad Pwyl, Bwlgaria a Croatia wedi creu pecynnau cymorth i ffermwyr sydd wedi’u heffeithio gan y costau cynhyrchu uwch, gwerth €836 miliwn, €560 miliwn a €25.5 miliwn, yn ôl eu trefn.

Mae cynrychiolwyr y Visegrad Group, sef Tsiecia, Hwngari, Gwlad Pwyl a Slofacia – ynghyd â’u cymheiriaid o Fwlgaria, Lithwania, Rwmania, Croatia ac Estonia wedi galw am ohirio dros dro neu addasu unrhyw gyfyngiadau ar gynhyrchu bwyd yn y PAC newydd, ac wedi gofyn am flwyddyn o oedi cyn ei roi ar waith, oherwydd y problemau sy’n wynebu’r gwledydd hyn sy’n ffinio ag Wcrain..

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn cael ei ohirio tan yr Hydref, i roi amser i ail-ystyried y cynlluniau ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru, ac i sicrhau bod yna gydnabyddiaeth lawn i gynaliadwyedd cynhyrchu bwyd yng ngoleuni’r rhyfel yn Wcráin.