Cynhyrchion diogelu planhigion (PPPs) proffesiynol: cofrestru fel defnyddiwr

Pwy ddylai gofrestru

Os ydych chi’n defnyddio PPPs proffesiynol ac unrhyw adjiwfantau ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban), rydych dan rwymedigaeth gyfreithiol i gofrestru dan Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Cynhyrchion Diogelu Planhigion) 2020.  Rhaid ichi gofrestru erbyn 22ain Mehefin 2022.

Mae hyn yn cynnwys ffermwyr tir glas a ffermwyr sy’n llogi contractwyr i wasgaru plaladdwyr ar eu tir.

Os byddwch chi’n dechrau defnyddio PPPs proffesiynol am y tro cyntaf, rhaid ichi gofrestru o fewn tri mis o’r adeg rydych chi’n dechrau.

Mae angen ichi gofrestru os ydych chi:

 

  • yn defnyddio PPPs proffesiynol ac unrhyw adjiwfantau fel rhan o’ch gwaith

 

  • â PPPs proffesiynol ac unrhyw adjiwfantau a ddefnyddir gan drydydd parti (e.e. contractwyr) fel rhan o’ch gwaith mewn amaethyddiaeth neu arddwriaeth, amwynderau neu goedwigaeth
  • Does dim angen ichi gofrestru os ydych chi’n defnyddio PPPs amatur, megis yn eich gardd

Mae’r ffurflen yn gofyn ichi nodi ym mha sector neu sectorau yr ydych yn gweithio.

 

Amaethyddiaeth a garddwriaeth

Mae hyn yn cynnwys gwaith mewn amaethyddiaeth neu arddwriaeth megis ffermio neu gynnal cnydau âr, cnydau porthiant neu dda byw, neu drin hadau.

 

 

Coedwigaeth

Mae hyn yn cynnwys gwaith mewn coedwigoedd neu goetiroedd, megis:

  • rheoli coed
  • plannu coed
  • defnyddio coedwigoedd neu goetir

 

Cyfeiriadau sy’n ymgymryd â gweithgaredd PPP

Bydd y ffurflen yn cofnodi ac yn cofrestru eich cyfeiriadau busnes.  Os ydych chi’n fusnes neu’n sefydliad sy’n defnyddio PPPs proffesiynol ac unrhyw adjiwfantau, rhaid ichi gofrestru pob cyfeiriad lle rydych yn:

  • eu storio
  • cadw cofnodion
  • eu defnyddio, ar eich eiddo busnes, megis tir rydych yn eu berchen neu rentu.

Rhaid ichi gofrestru o leiaf un cyfeiriad busnes parhaol.

 

Defnyddio PPPs

Os bydd swm y PPPs rydych yn eu defnyddio yn newid o flwyddyn i flwyddyn, dylech nodi swm y byddech yn ei ddefnyddio mewn blwyddyn arferol. Os ydych yn defnyddio PPPs mewn rhai blynyddoedd ond nid mewn blynyddoedd eraill, rhowch y swm nodweddiadol y byddech yn ei ddefnyddio mewn blwyddyn.

 

Sut i gofrestru 

Lawrlwythwch a llenwch ffurflen i gofrestru fel busnes, sefydlliad neu fasnachwr unigol sy’n defnyddio PPPs proffesiynol ac unrhyw adjiwfantau ym Mhrydain Fawr, ac am wybodaeth bellach ewch i: www.gov.uk/government/publications/professional-plant-protection-products-ppps-register-as-a-user

 

Lawrlwytho'r ffurflen

Mae’r ffurflen ar ffurf taenlen. Mae angen meddalwedd taenlen arnoch, fel Microsoft Excel, LibreOffice, neu Mac OS Numbers ar eich dyfais i agor a llenwi’r ffurflen.

 

Dychwelyd y ffurflen

Safiwch y ffurflen ar ôl ei llenwi ar ffurf ffeil a.ods neu .xls.  Ebostiwch y ffeil i This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.