Codi mesurau lletya Ffliw Adar

Cafodd mesurau lletya gorfodol a gyflwynwyd i helpu i ddiogelu adar caeth rhag Ffliw Adar eu codi Ddydd Llun 2il Mai 2022.

Gwnaed y cyhoeddiad gan y Prif Swyddog Milfeddygol yn dilyn adolygiad o’r lefelau risg o heintiad Ffliw Adar i ddofednod, sydd wedi newid o lefel ganolig (gydag ansicrwydd isel) i lefel isel (gydag ansicrwydd uchel), cyn belled â bod rhagofalon bioddiogelwch da yn cael eu rhoi ar waith. 

Mae gofynion bioddiogelwch llymach yn unol â’r Parth Atal Ffliw Adar yn parhau i fod mewn grym, a rhaid i bawb sy’n cadw adar ddal ati i fod yn ddiwyd o ran bioddiogelwch. 

Bydd y gofyniad i gadw adar caeth o fewn parth diogelu 3km yn parhau, ond does dim o’r rheiny mewn grym ar hyn o bryd yng Nghymru.

Mae digwyddiadau lle mae dofednod yn ymgasglu yn parhau i fod wedi’u gwahardd.

Mae Ffliw Adar yn dal i fynd o gwmpas y DU gydag adroddiadau am achosion yn Swydd Derby dros yr wythnos ddiwethaf.


Mae gwybodaeth bellach a chanllawiau ar gael yma