Trwyddedau Cyffredinol i ganiatáu lladd rhywogaethau penodol o adar gwyllt

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi llwytho copïau ymlaen llaw o Drwyddedau Cyffredinol sydd i’w cyflwyno ar 1af Gorffennaf 2022.

Trwydded Gyffredinol 001 – Trwydded i ladd neu gymryd adar gwyllt, neu gymryd neu ddifrodi eu nythod neu wyau, at ddibenion atal difrod difrifol neu ledaenu clefydau i dda byw, porthiant da byw, cnydau, llysiau neu ffrwythau.  Noder y matrics pwrpas i rywogaeth sydd wedi’i gynnwys yn y drwydded, sy’n cyfyngu ar y mesurau rheoli drwy ladd o’i gymharu â’r drwydded gyffredinol bresennol.

Trwydded Gyffredinol 002 – Trwydded i ladd neu gymryd colomennod gwyllt neu gymryd neu ddinistrio eu nythod a’u hwyau at ddibenion diogelu iechyd y cyhoedd, diogelwch y cyhoedd, neu atal lledaeniad clefydau.

Trwydded Gyffredinol 004 – Trwydded i ladd neu gymryd brain tyddyn neu gymryd neu ddinistrio eu nythod neu wyau at ddibenion gwarchod adar gwyllt.  Sylwer nad yw’r Bioden, Sgrech y Coed na’r Jac-y-do wedi’u cynnwys yn y drwydded bresennol.  Ni chynhwyswyd y Bioden yn y drwydded gyffredinol serch tystiolaeth yn dangos nad yw’r Bioden dan fygythiad a’i bod yn fygythiad i rywogaethau eraill o adar gwyllt. 

Trwydded Gyffredinol 005 – Trwydded i ladd neu gymryd yr hwyaden goch, neu gymryd neu ddinistrio ei nyth neu wyau at ddibenion gwarchod adar gwyllt.

I gael mwy o wybodaeth am y dystiolaeth, y penderfyniadau a’r broses ymgynghori a gynhaliwyd i lunio’r Trwyddedau Cyffredinol newydd cliciwch yma.