Adroddiad Gweithredu ar Fethan y grŵp Iechyd a Lles Anifeiliaid Cnoi Cil

Cyhoeddodd y grŵp Iechyd a Lles Anifeiliaid Cnoi Cil ei adroddiad ‘Acting on methane: opportunities for the UK cattle and sheep sectors’ yn ddiweddar.

Wedi’i lunio ar y cyd â Sefydliad Ymchwil Moredun, daw’r adroddiad yn sgil yr Adduned Methan Fyd-eang a ffurfiwyd yn ystod cynhadledd COP26 i leihau allyriadau methan 30% erbyn 2030.

Yn ôl gwaith a ariannwyd gan Defra a Llywodraeth yr Alban mi allai gwella iechyd a lles da byw leihau allyriadau methan hyd at 10% drwy ddefnyddio arfau sydd eisoes ar gael.

Mae’r adroddiad yn nodi achosion allweddol o allyriadau methan ychwanegol sy’n gysylliedig ag iechyd a lles anifeiliaid, ac yn darparu platfform ar gyfer trafodaethau rhwng ffermwyr, milfeddygon, cynghorwyr a maethegwyr.


Mae’r adroddiad llawn ar gael yma.