Grwpiau ffocws Pwyllgor Cyllid y Senedd

Mae Pwyllgor Cyllid y Senedd yn awyddus i ddeall barn pobl Cymru pan ddaw hi’n fater o benderfynu beth ddylai gwariant Llywodraeth Cymru ganolbwyntio arno.

Yn ystod Mai a Mehefin 2022, bydd y Pwyllgor yn rhedeg rhaglen o grwpiau ffocws, i gasglu profiadau a barn pobl ar ‘beth mae bobl Cymru am i wariant Llywodraeth Cymru ganolbwyntio arno?’

Nifer cyfyngedig fydd yn cael mynychu’r sesiynau hyn felly gofynnir i gyfranogwyr lenwi holiadur byr cyn mynychu cyfarfod grŵp ffocws.

Mae’r arolwg yn hawdd i’w gwblhau a bydd yn cymryd tua 4 munud i gyd.

Bydd yr arolwg yn cau ar Ddydd Gwener 20fed Mai 2022.

Os hoffech chi gofrestru’ch diddordeb mewn bod yn rhan o grŵp ffocws, cwblhewch yr arolwg hwn os gwelwch yn dda.