Dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i wneud yr hyn a all i liniaru pwysau rhyfel Wcráin ar ffermwyr a defnyddwyr yng Nghymru, medd UAC

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru, am yr eildro, i’w hannog i gymryd y camau sydd o fewn eu gallu i liniaru peth o bwysau rhyfel Wcráin ar ffermwyr a defnyddwyr yng Nghymru.

Mewn ymateb i’r llythyr cyntaf a anfonwyd at Lywodraeth Cymru ar 4ydd Mawrth 2022, lle gofynnodd yr Undeb am gyfarfod bwrdd crwn â nhw a rhanddeiliaid eraill i drafod materion o’r fath a chamau posib, dywedodd Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd, Lesley Griffiths, nad oedd Llywodraeth Cymru’n credu bod cyfarfod o’r fath yn briodol.

Mae UAC yn hynod o bryderus ynghylch methiant Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ymgysylltu â’r gadwyn gyflenwi yn gynnar yn y dydd i archwilio camau uniongyrchol a fydd yn helpu i liniaru’r problemau sy’n cael effaith ar hyn o bryd, ac a fydd yn parhau i gael effaith am weddill y flwyddyn, ac i mewn i 2023 o leiaf.

Mae’r problemau hyn yn effeithio, a byddant yn parhau i effeithio, nid yn unig ar ffermwyr, ond hefyd ar ddefnyddwyr, ac mae hwn felly yn fater nid yn unig i’r diwydiant bwyd a ffermio, ond i boblogaeth gyfan Cymru a’r DU.

Pwysleisiodd yr Undeb hefyd fod angen i Grŵp Monitro Marchnad Amaeth y DU, y mae Llywodraeth Cymru’n aelod honno, fabwysiadu dull mwy rhagweithiol, a rhannu gwybodaeth mewn modd mwy amserol.

Mae UAC yn cydnabod yn llwyr nad oes dim, neu fawr ddim y gall Llywodraeth Cymru ei wneud am nifer o’r effeithiau ar hyd y gadwyn gyflenwi, megis o ran olew coginio, tanwydd, bwydydd anifeiliaid neu wrtaith.

Fodd bynnag, yn ddiau mae yna gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i liniaru peth o’r pwysau ar ffermwyr Cymru, a fydd o fudd i ddefnyddwyr dros y misoedd a’r blynyddoedd sydd i ddod, ac er bod y rhain yn gyfyngedig, mae’n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i weithredu nawr i wneud yr hyn a all i gynorthwyo ffermwyr, cynhyrchwyr bwyd a defnyddwyr.