Isafswm cyflog amaethyddol newydd o 1af Ebrill 2022

Mae gwefan Llywodraeth Cymru wedi’i diweddaru gyda’r cyfraddau cyflog amaethyddol isaf diweddaraf o 1af Ebrill, yn dilyn newid sylweddol i Orchymyn Cyflogau Amaethyddol 2022, a ddaw i rym o 22ain Ebrill 2022.

Y bwriad gwreiddiol oedd bod y newidiadau’n dod i rym ar 1af Ebrill 2021, ond bu oedi o 12 mis yn sgil y broses o sicrhau bod y newidiadau a awgrymwyd gan y Bwrdd Cyflogau Amaethyddol yn cael eu derbyn gan Lywodraeth Cymru.

Dylid nodi, oherwydd yr oedi cyn i Orchymyn 2021 ddod i rym, ac er gwaethaf ymdrechion UAC ac NFU Cymru, sydd â chynrychiolaeth ar y Bwrdd, y gall fod yn ofynnol i’r rhai sy’n cyflogi gweithwyr amaethyddol ôl-dalu’r gweithwyr hynny a fyddai wedi disgwyl codiad cyflog o 1af Ebrill 2021.

Os ydy’r cyfraddau fesul awr eisoes uwchlaw’r graddau diwygiedig, ni fydd angen gwneud unrhyw ôl-daliad. 

Er bod UAC yn cydnabod yr angen i weithwyr dderbyn codiadau cyflog rheolaidd, mae’r angen i wneud ôl-daliadau oherwydd oedi gan Lywodraeth Cymru y gellid fod wedi’i osgoi yn gwbl annerbyniol, ac mae’n rhoi pwysau pellach ar fusnesau fferm sydd eisoes yn wynebu cynnydd sylweddol yn eu costau mewnbwn.

Dylai’r rhai sy’n cyflogi gweithwyr amaethyddol fod yn ymwybodol o’r strwythur graddio newydd a gwerthuso rôl pob gweithiwr unigol dan y cyfraddau newydd gyda’u gweithwyr.  Fodd bynnag, mae’r Gorchymyn yn cynnwys polisi diogelu cyflogau gweithwyr, sy’n golygu na ellir lleihau eu cyfradd fesul awr bresennol o ganlyniad i’r strwythur graddio newydd.

Mae mwy o wybodaeth a chanllawiau ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru yma: https://llyw.cymru/cyflogau-amaethyddol 

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar gael ar: https://llyw.cymru/panel-cynghori-amaethyddiaeth-cymru/y-ddeddfwriaeth-ar-canllawiau