Rhaid i gynigion Llywodraeth Cymru ar ddeddfwriaeth gynllunio ail gartrefi fod yn rhai y gellir eu gorfodi - medd UAC

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi croesawu agweddau o ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddeddfwriaeth a pholisi cynllunio ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr, ond mae’n rhybuddio bod yn rhaid iddynt fod yn rhai y gellir eu gorfodi.

Roedd yr ymgynghoriad yn cynnig diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref 1987 i gynnwys tri dosbarth defnydd gwahanol ar gyfer prif gartrefi, ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr, ynghyd â newidiadau dilynol i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref 1995 a’r ddeddfwriath sylfaenol ar sut a phryd y dylai caniatâd cynllunio fod yn ofynnol.

Mynegodd UAC ei chefnogaeth i dri argymhelliad mewn perthynas â’r polisi cynllunio o’r adroddiad ‘Ail Gartrefi: Datblygu polisïau newydd yng Nghymru’ y llynedd. Felly, mae’n croesawu’r ffaith bod y tri argymhelliad yn cael eu hystyried.

Mewn egwyddor, mae’r dosbarthiadau defnydd diwygiedig ar gyfer prif gartrefi, ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr yn gwneud synnwyr, ond rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y meini prawf yn ddigon llym i sicrhau nad ydynt yn cael eu camddefnyddio.

Hefyd, mae yna farc cwestiwn mawr o hyd uwchben cynigion Llywodraeth Cymru o ran sut y gall Awdurdodau Lleol fonitro a gorfodi meini prawf o’r fath yn effeithiol.

Roedd ymateb yr Undeb yn glir, serch bod y newidiadau arfaethedig yn caniatáu i Awdurdodau Lleol wahaniaethu’n well rhwng anheddau o’r fath, bod angen eu tanategu â newidiadau i’r ddeddfwriaeth sylfaenol, i allu mynd i’r afael yn effeithiol â’r materion sy’n gysylltiedig ag ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr.

Byddai newid y ddeddfwriaeth sylfaenol i sicrhau ei bod yn ystyried newid defnydd o brif gartref i ail gartref neu lety gwyliau tymor byr fel ‘newid defnydd sylweddol’ yn sicrhau bod angen caniatâd cynllunio bob tro ar gyfer newidiadau dosbarth defnydd o’r fath..

Er y byddai diwygio Adran 55 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn gofyn pasio Bil yn y Senedd, mae’r sylw a roddwyd i effeithiau ail gartrefi dros y ddwy flynedd diwethaf yn awgrymu y byddai cynrychiolwyr etholaethau gwledig ac arfordirol yn llwyr gefnogi diwygiad o’r fath. .

Er bod UAC yn gwrthwynebu caniatáu newid defnydd heb gyfyngiad rhwng y tri dosbarth dan hawliau datblygu a ganiateir, mae’n cefnogi’r bwriad i roi pwerau i Awdurdodau Lleol i roi Cyfarwyddiadau Erthygl 4 ar waith mewn ardaloedd penodol, lle mae tystiolaeth yn awgrymu y byddai’r hawliau datblygu a ganiateir yn cael effaith ar y gymuned ac amwynder lleol.

Mae UAC hefyd yn cefnogi’r bwriad i sicrhau bod Polisi Cynllunio Cymru yn rhoi ystyriaeth i nifer yr ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr mewn ardal leol wrth ystyried Cynlluniau Datblygu Lleol, gan ddarparu Awdurdodau Lleol â’r opsiwn o osod cyfyngiadau ar gartrefi newydd i’w defnyddio fel prif anheddau.