Defnydd o ddiesel coch o 1af Ebrill 2022

Yng nghyllideb 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod yn diddymu’r hawl i ddefnyddio diesel coch yn y rhan fwyaf o sectorau o 1af Ebrill 2022.  Nid yw hyn yn cynnwys y sectorau amaethyddiaeth, garddwriaeth, coedwigaeth, ffermio pysgod a rheilffyrdd, a’i ddefnydd ar gyfer gwresogi anfasnachol.

Mae hyn yn golygu y bydd ffermwyr a chontractwyr a hurir i wneud gwaith amaethyddol ar y tir yn parhau i allu defnyddio tanwydd rhatach yn y cerbydau a’r peiriannau a ddefnyddir at ddibenion cymwys o fewn y sector amaethyddol.

Mae dibenion cymwys o fewn y sector amaethyddol yn cynnwys bridio neu fagu unrhyw anifail a gedwir i gynhyrchu bwyd, gwlân, croen neu ffwr; tyfu neu gynaeafu cnydau; porthiant i gynhyrchu tanwydd; tyfu neu gynaeafu planhigion blodeuol neu addurniadol; tyfu neu gynaeafu coed neu gynnyrch coedwigaeth arall; a chynnal a chadw tir amaethyddol dan gynlluniau rheolaeth amgylcheddol.

Os caiff contractwyr eu hurio i wneud gwaith amaethyddol ar fferm, megis gwneud silwair, gwasgaru slyri neu wrtaith ar y tir, gallant ddefnyddio diesel coch yn y tractor wrth yrru yn ôl ac ymlaen i’r fferm, wrth gario a chludo’r deunydd neu’r offer sydd ei angen i wneud y gwaith, ac i symud unrhyw gynnyrch neu wastraff.

Caniateir y defnydd o danwydd rhatach i gludo cyflenwadau amaethyddol; megis hadau, gwrtaith, polion ffensio ac ati, i’w defnyddio ar y fferm; i gludo da byw rhwng gwahanol ardaloedd o dir sydd dan ofal yr un ffermwr; ac i gludo da byw i fan lle bydd yr anifeiliaid yn cael eu gwerthu neu’u prosesu.

Yn ogystal, gall ffermwyr ddefnyddio tanwydd rhatach mewn cerbydau amaethyddol i dorri cloddiau, gwrychoedd a choed ar hyd ymyl ffyrdd, i glirio eira a chwalu graean, ac i gynorthwyo gydag unrhyw waith clirio yn dilyn llifogydd.

Mae rhai gweithgareddau nas derbynnir fel rhai sy’n dod dan y diffiniad o amaethyddiaeth, garddwriaeth, neu goedwigaeth.  Mae’r rhain, er enghraifft, yn cynnwys bridio neu fagu unrhyw anifail at ddibenion chwaraeon neu weithgaredd hamdden, tirlunio, a gwarchod rhag llifogydd.

Dylai ffermwyr sy’n rhedeg busnes cyfochrog ar yr un safle, sy’n cynnal gweithgareddau nas diffinnir fel rhai amaethyddol o bosib, ofyn am arweiniad os nad ydynt yn siŵr a allant ddefnyddio diesel coch yn gyfreithlon at y dibenion dan sylw ai peidio.

Hefyd, yn dilyn pwysau o du’r diwydiant ffermio, mae CThEM wedi cadarnhau y bydd y ddeddfwriaeth yn cael ei diwygio i ganiatáu i ddiesel coch barhau i gael ei ddefnyddio ar gyfer cystadlaethau aredig a theithiau tractor elusennol.

Sylwer bod canllawiau Llywodraeth y DU yn cael eu defnyddio i helpu i ddehongli deddfwriaeth gynradd ac eilaidd mewn perthynas â’r ardoll tanwydd, ac nid ydynt yn ddiffiniol fel y cyfryw.