Cynllun Cynllunio Creu Coetir

Agorodd ffenestr bresennol y Cynllun Cynllunio Creu Coetir ar 28ain Chwefror 2022.  Mae’r cynllun yn cynnig grantiau o rhwng £1000 a £5000 i ddatblygu cynlluniau i greu coetir newydd.

Pan fydd cynllun wedi’i gymeradwyo gan Cyfoeth Naturiol Cymru mi fydd yn gymwys i dderbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer plannu coed.  (Mae cyllid o £500,000 ar gael ar hyn o bryd ar gyfer ceisiadau a wneir erbyn 31ain Mawrth 2023).

Ceir mwy o wybodaeth yma: https://llyw.cymru/cynllun-cynllunio-creu-coetir

Mae dyluniad y cynllun yn seiliedig ar y cynllun peilot oedd ar gael y llynedd.  Bydd y cynllun ar agor trwy gydol y flwyddyn (yn amodol ar y gyllideb), gyda’r ceisiadau’n cael eu dethol bob 6 wythnos.  Bydd cyllid i greu coetir ar gael o Awst 2022, gyda ffenestri’n agor bob 3 mis o hynny ymlaen (yn amodol ar y gyllideb).

Pan fydd cynllun wedi’i gymeradwyo, mi fydd yn gymwys i wneud cais am gyllid gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol, am bum mlynedd o’r dyddiad y cafodd ei gymeradwyo.  Rhaid bod y Mynegiant o Ddiddordeb ar gyfer cynllun coetir sy’n 2 hectar o leiaf.  Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n ystyried proses symlach ar gyfer ardaloedd coetir sy’n llai na 2 hectar, a cheir cyfleoedd i wneud cais am y prosiectau hyn yn nes ymlaen yn 2022.

Ni chaiff ffermwyr gyflwyno dau Fynegiant o Ddiddordeb ar gyfer yr un daliad o fewn yr un blwyddyn galendr, felly mi ddylai ceisiadau gynnwys yr holl ddarnau o dir maent am blannu arnynt.

Cynllunwyr coetir cofrestredig : https://llyw.cymru/cynllunwyr-coetir-glastir-manylion-cyswllt