Cytundeb Masnach Rydd DU-Seland Newydd ar y gorwel

Dros y misoedd diwethaf, mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi mynegi pryderon am y modd y bydd y cytundeb masnach rydd rhwng y DU ac Awstralia, sy’n anelu at ryddfrydoli’r broses o fasnachu nwyddau amaethyddol, yn gosod cynsail ar gyfer cytundebau masnach â gwledydd eraill mawr rhyngwladol.

Mae’r trafodaethau ar gytundeb masnach rydd rhwng y DU a Seland Newydd ar droed erbyn hyn, a dywedir y bydd yn cynyddu’r masnachu rhwng y ddwy wlad tu hwnt i’r cyfanswm o £2.3 biliwn yn 2020.

Yn ôl Llywodraeth y DU, y bwriad gwreiddiol oedd cael cynllun mewn egwyddor yn ei le erbyn diwedd Medi. Fodd bynnag, mae fisâu i weithwyr, mynediad at farchnadoedd amaethyddol, a gwasanaethau ariannol yn parhau i fod yn rhwystrau allweddol.

Mae Seland Newydd wedi cadarnhau ei bod yn anelu at gael mynediad tebyg i’r farchnad â’r un a gynigiodd y DU i Awstralia, drwy ddarparu mynediad i farchnadoedd cig a llaeth y DU yn gyfnewid am wasanaethau ariannol Seland Newydd.

Ar nodyn positif, fodd bynnag, dylid nodi bod y sŵn a wnaed gan y diwydiant amaeth mewn perthynas â’r fasnach rydd rhwng y DU ac Awstralia wedi’i gydnabod, a’i fod wedi corddi’r dyfroedd yn ystod y trafodaethau â Seland Newydd.

Y broblem gyda chytundebau masnach o’r fath yw’r anwadalrwydd a ddaw yn eu sgil i farchnadoedd y DU ymhob sector. Mae’r galw presennol yn Tsieina am gig a chynnyrch llaeth o Awstralia a Seland Newydd yn uchel, a byddai colli marchnadoedd o’r fath yn golygu y gallai’r DU fod yn agored i fewnforion rhad iawn, heb unrhyw ffordd o reoli eu maint na’u pris.

Bydd y masnachu rhwng y naill wlad a’r llall wedi’i gyfyngu i nwyddau arbenigol dros ben, a chyda’r boblogaeth ar ben arall y byd yn llai nag un yr Alban, bydd y cyfleoedd yn Seland Newydd yn hynod o gyfyngedig.

Er nad yw union fanylion y cytundeb masnach rydd â Seland Newydd wedi’u cyhoeddi eto, mae UAC yn ymbilio ar Lywodraeth y DU i ystyried y sylwadau a wnaed gan y diwydiant mewn perthynas â’r cytundeb masnach rydd ag Awstralia, a’r angen i gydnabod pryderon ynghylch mewnforio cig oen ochr yn ochr â chynnyrch llaeth.

Mae angen i Aelodau Seneddol San Steffan sicrhau, pan ddaw hi’n fater o gytundebau masnach o’r fath, bod buddiannau hirdymor y DU yn cael eu gwarchod.

Wrth reswm, cydnabyddir gwerth datblygu marchnadoedd presennol a chwilio am farchnadoedd newydd ar gyfer holl gynnyrch y DU, gan gynnwys bwyd, ond ni ddylid gwneud hynny ar draul hyfywedd hirdymor diwydiannau bwyd ac amaeth Cymru, yr amgylchedd, a safonau iechyd a lles ac anifeiliaid.