Ydych chi wedi manteisio ar eich gostyngiad hyfforddiant diogelwch fferm?

Mae Undeb Amaethwyr Cymru a Gwasanaethau Yswiriant FUW Cyf wedi ymuno â Lantra i ddod â chwrs e-ddysgu diogelwch fferm arbennig i gymunedau gwledig.

Yn 2020-21, lladdwyd 41 o bobl mewn amaethyddiaeth a chofnodwyd oddeutu 12,000 o anafiadau difrifol. Mae gan bob marwolaeth ac anaf ganlyniadau difrifol sy'n newid bywyd unigolion, teuluoedd, busnesau a chymunedau, ac mae modd osgoi bron pob un ohonynt.


Er mwyn helpu i fynd i'r afael â chyfraddau uchel o farwolaeth ac anafiadau difrifol, mae Lantra wedi gweithio gyda'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) i ddatblygu hyfforddiant sy'n fforddiadwy ac yn hygyrch i bob ffermwr. Mae'r cwrs e-ddysgu Diogelwch Fferm newydd yn canolbwyntio ar achosion mwyaf cyffredin damweiniau fferm, megis:

  • Cwympo o uchder
  • Damweiniau a achosir gan gerbydau sy’n symud
  • Sathru gan wartheg
  • Cysylltiad gyda pheiriannau
  • Boddi a mygu

Mae'n rhoi cyngor ymarferol syml ar sut i gadw'ch hun a'ch gweithlu'n ddiogel a sut i gyflawni'ch cyfrifoldebau cyfreithiol.

Hefyd, oherwydd ei fod yn e-ddysgu gallwch chi wneud y cwrs ble bynnag a phryd bynnag sy’n gyfleus i chi. Mae'r cwrs mewn modiwlau bach, felly does dim rhaid i chi wneud y cyfan ar unwaith a phan fyddwch chi wedi gorffen, fe gewch chi dystysgrif fel prawf bod chi wedi cwblhau’r cwrs.


Mae Lantra a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi rhoi cymhorthdal ​​mawr i ddatblygiad y cwrs hwn, i'w wneud mor fforddiadwy â phosibl.
Mae pawb yn meddwl “ni fydd yn digwydd i mi”, ond os ydych chi'n gyrru tractor, yn reidio beic cwad, yn trin da byw, neu'n defnyddio peiriannau fferm, cafodd 12,000 o bobl fel chi eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol. Doedden nhw ddim yn meddwl y byddai'n digwydd iddyn nhw.


Gallai'r hyfforddiant hwn fod yn ddigon i'ch atal chi neu gydweithiwr rhag colli braich, coes, golwg neu hyd yn oed bywyd.


I gofrestru ar fersiwn ostyngedig o'r cwrs e-ddysgu Iechyd a Diogelwch Amaethyddiaeth: Sut i Gyflawni'ch Cyfrifoldebau Cyfreithiol, sy'n costio £18.00 + TAW, yn lle £20.00 + TAW ar gyfer y fersiwn fasnachol safonol, y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw dilyn y linc hon: http://elearning.lantra.co.uk/register/94/55

Ar ôl i chi gofrestru ar gyfer y cwrs ac wedi talu, byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau manylion ar sut i ymuno a’r cwrs hwn. Weithiau fodd bynnag, mae’n bosib bod yr e-byst yma yn mynd mewn i’r ffolder sothach. Peidiwch ag oedi cyn cysylltu ag This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. os fydd unrhyw broblemau neu os oes gyda chi unrhyw gwestiynau am y cwrs.

Mae'r cwrs yn cynnwys fersiwn Gymraeg o'r modiwlau.