Y Llywodraethau’n cyhoeddi rheolau symud anifeiliaid llymach a gwaharddiad ar allforion byw

Newyddion Polisi Amaethyddol Trawiadau: 841

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar 18fed Awst y byddai’r rheolau o ran symud anifeiliaid yn cael eu tynhau’n sylweddol, serch bod y safonau mewn gwledydd eraill yn is o lawer na’r hyn sydd eisoes yn ofynnol yn y DU. Roedd y cyhoeddiad hefyd yn cadarnhau y byddai’r cynigion newydd yn cael eu cyflwyno ochr yn ochr â gwaharddiad ar allforio anifeiliaid byw i’w lladd.

Mae hyn yn dod wythnosau ar ôl i’r DU gytuno ar gytundeb masnach mewn egwyddor gydag Awstralia, a fydd yn caniatáu mewnforio meintiau enfawr o fwyd a gynhyrchwyd o anifeiliaid sy’n cael eu symud dan amodau sydd eisoes yn gwbl anghyfreithlon yn y DU.

Addawodd maniffesto 2019 y Ceidwadwyr “in all of our trade negotiations, we will not compromise on our high environmental protection, animal welfare and food standards,” ond dewisodd Llywodraeth y DU beidio â chynnwys y safonau hynny yn Neddf Amaethyddiaeth 2020, nac yn nhrafodaethau’r cytundeb masnach diweddar ag Awstralia, gan gytuno i gynnydd enfawr o ran mynediad di-dariff i gig eidion a chig oen o Awtralia, heb fawr ddim sicrwydd o ran safonau lles.

Mae bron i hanner y gwartheg a’r defaid a allforir yn fyw o Awstralia’n teithio dros 9000 o filltiroedd dros y môr, dan amodau lles llawer is na’r rhai sy’n ofynnol yn y DU.

Nid yw gwahardd cludo anifeiliaid o Gaergybi i Ddulyn (56 milltir) tra’n cytuno i fewnforio mwy o fwyd o wledydd megis Awstalia yn benderfyniad seiliedig ar dystiolaeth.

Bydd cynyddu costau a chyfyngiadau i ffermwyr yng Nghymru a Lloegr drwy gyflwyno’r rheolau ychwanegol hyn yn golygu bod llai o fwyd yn cael ei gynhyrchu yn y DU, a mwy o fwyd yn cael ei gynhyrchu a’i allforio o wledydd gyda safonau is.