Pwyllgor Iechyd a Lles UAC yn ymateb i Ymgynghoriad Safonau FAWL

Newyddion Polisi Amaethyddol Trawiadau: 773

Cynhaliodd Pwyllgor Iechyd a Lles Anifeiliaid Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) gyfarfod brys ar 28ain Gorffennaf 2021 i drafod a llunio ymateb i ymgynghoriad Safonau Cynllun Gwarant Fferm Da Byw (FAWL) 2021.

Roedd yn ymgynghoriad yn cynnig gwneud hi’n orfodol i filfeddygon gofnodi data defnydd o wrthfiotigau drwy gyfrwng cyfrifiannell ar-lein, ynghyd â safonau amgylcheddol llymach, i enwi ond ychydig.

Gwnaeth UAC hi’n glir nad oedd pedair wythnos, yn ystod un o’r adegau prysuraf o’r flwyddyn yn y calendr ffermio, yn hanner digon o amser i ddeuddeg Pwyllgor Gweithredol Sirol yr Undeb drafod y cynigion a llunio ymateb llawn a democrataidd, ac felly gwnaeth gais i ymestyn y dyddiad cau.

Mae mwyafrif y cynhyrchwyr cig oen a chig eidion yng Nghymru â gwarant FAWL, ac er ei fod yn gynllun gwirfoddol i lawer, mae’n orfodol ar gyfer cytundebau llaeth y rhan fwyaf o ffermwyr llaeth, ac felly mae angen rhoi ystyriaeth deilwng i bwysigrwydd newidiadau i safonau o’r fath.

Roedd Pwyllgor Iechyd a Lles Anifeiliaid UAC yn cefnogi’r syniad o gasglu data defnydd o wrthfiotigau, er mwyn cynhyrchu llinell sylfaen genedlaethol o’r defnydd o wrthfiotigau, i ffermwyr da byw yng Nghymru ei defnyddio fel meincnod, ac er mwyn i’r diwydiant ddangos sut mae’n ymdrechu i leihau defnydd o wrthfiotigau.

Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor yn gytûn y dylid cadw data o’r fath yn ddienw, a bod angen i FAWL ystyried nad yw pob ffermwr yng Nghymru â gwarant FAWL, y gwahaniaethau rhwng systemau cynhyrchu, amser prynu mewn perthynas ag amser yr adolygiad blynyddol, a chapasiti a chymorth i filfeddygon.

Roedd aelodau’r pwyllgor hefyd yn llwyr wrthwynebu’r cynigion i gyflwyno nifer o safonau amgylcheddol newydd, o ystyried mai prif gyfrifoldeb cynhyrchwyr FAWL yw “sicrhau bod da byw yn cael eu cadw dan amodau sy’n eu cadw’n ffit, iach a heb straen.”

Tra bod Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd yn cynnal adolygiad brys o’r rheoliadau Adnoddau Dŵr, argymhellodd UAC bod Cynhyrchwyr Cig Oen ac Eidion Cymru (WLBP) yn tynnu ei gynigion i adolygu’r safonau amgylcheddol yn ôl tan yr adolygiad safonau nesaf ymhen tair blynedd.